O dan y gyfraith, mae cyfyngiadau ar faint y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau ei wario i gefnogi un blaid wleidyddol benodol neu ei hymgeiswyr yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (UKPGE). Gelwir hyn yn ‘wariant wedi’i dargedu’.
Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar:
pa wariant sy'n cyfrif fel gwariant wedi'i dargedu
faint y gallwch ei wario ar wariant wedi'i dargedu
awdurdodi a thynnu awdurdodiad ar gyfer gwariant wedi'i dargedu yn ôl