Efallai y bydd angen i chi ddosrannu costau rhai eitemau gwariant, fel y gallwch gofnodi ac adrodd ar y gwerth a wariwyd ar eich gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn gywir. Weithiau, byddwn yn galw hyn yn wahanu gwariant.
Gall hyn gynnwys:
gwariant ar weithgareddau cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir
eitemau a gwasanaethau a ddefnyddiwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir a'r rheini nad ydynt yn cyfrif
Yr egwyddor asesu gonest
Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Dylech gymhwyso'r egwyddor arweiniol at bob sefyllfa lle mae angen i chi ddosrannu gwariant ar ymgyrchu.
Bydd hyn yn syml ar gyfer llawer o eitemau. Fodd bynnag, bydd yn fwy cymhleth i rai. Dylai'r enghreifftiau yn yr adran hon eich helpu i ddeall sut y dylech fynd ati i gynnal eich asesiad.