Mae'r adran ganlynol yn cwmpasu'r broses o gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn.
Mae hyn yn cynnwys:
pryd mae angen i chi gyflwyno hysbysiad i ni
pa unigolion a sefydliadau all gyflwyno hysbysiadau
pa fanylion y mae angen i chi eu darparu yn eich hysbysiad
cyfrifoldebau'r person cyfrifol
beth sydd angen i chi ei wneud unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich hysbysiad
am ba hyd y byddwch yn aros ar y gofrestr hysbysiadau
Efallai yr hoffech ddarllen yr adran hon ochr yn ochr â'r tabl cynharach sy'n pennu'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn unol â'r symiau a gaiff eu gwario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Gellir dod o hyd iddo yn yr adran Trosolwg o'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau