Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Termau allweddol a ddefnyddir yn y canllawiau hyn

Rhodd

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, at ddiben talu am wariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, ac sy'n werth dros £500.1

Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys: 

  • rhodd o arian neu eiddo 
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad 
  • tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad 
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa

Gweler Beth yw rhodd? am ragor o wybodaeth.

Terfyn gwariant etholaethol

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU, ni chaiff ymgyrchydd nad yw'n blaid wario mwy na therfyn penodol (£17,533) ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol.2

Mae'r terfyn hwn yn gymwys i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid, a hynny cyn cyflwyno hysbysiad a phan fydd wedi'i gofrestru.

Gweler Terfynau gwariant am ragor o wybodaeth.

Caniatâd talu

Mae'n rhaid i chi gael a thalu anfonebau ar gyfer gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir o fewn terfynau amser penodol. Os bydd anfonebau heb eu talu o hyd ar ôl y terfyn amser, mae'n rhaid i chi, neu'r cyflenwr, gael gorchymyn neu ddyfarniad llys er mwyn i chi allu talu'r anfoneb.3  Caniatâd talu yw'r enw ar yr awdurdodiad hwn.

Gweler Terfynau amser ar gyfer cael a thalu anfonebau am ragor o wybodaeth.

Gwerth marchnadol

Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai'r eitem ar werth ar y farchnad agored.4

Trothwy hysbysu 

Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.5  Ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau.

A ganiateir

Defnyddir y term ‘a ganiateir’ i gyfeirio at roddion y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau eu derbyn o dan PPERA.

Adrodd cyn y bleidlais

Yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'n rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau adrodd ar rai rhoddion i'r Comisiwn cyn y diwrnod pleidleisio, oni bai eu bod wedi'u heithrio.

Mae hyn yn cynnwys adroddiadau chwarterol ar roddion yn ystod y cyfnod cyn diddymu (adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais) ac adroddiadau wythnosol rhwng dyddiad diddymu'r Senedd a'r diwrnod pleidleisio (adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais).

Manylion/cyfranogwyr perthnasol

Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rai sefydliadau ddarparu enwau'r bobl sy'n rhan o'u cyrff llywodraethu neu bwyllgorau pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Yn y gyfraith, ‘cyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad yw'r enw ar y rhain.6

Gweler Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol am ragor o wybodaeth.

Trothwyon adrodd

Mae'r trothwyon adrodd fel a ganlyn:

  • £20,000 yn Lloegr
  • £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Os bydd ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn gwario dros y trothwy adrodd mewn unrhyw ran o'r DU, mae'n rhaid iddo gyflwyno adroddiad ar ei wariant a'i roddion i ni ar ôl yr etholiad.7

Gweler Trothwyon adrodd am ragor o wybodaeth.

Person cyfrifol

Yr unigolyn sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn dilyn y cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd a nodir yn PPERA.8

Gweler Person cyfrifol am ragor o wybodaeth.

Gwariant a dargedir

Gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid wleidyddol gofrestredig neu unrhyw un o'i hymgeiswyr.9

Gweler Gwariant a dargedir am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023