Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Pryd mae'r cyfreithiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gymwys?
Mae gwariant gan ymgyrchwyr di-blaid yn cael ei reoleiddio yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig ac etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Diffinnir hyn yn Neddf 2000 fel y ‘cyfnod a reoleiddir’.
Etholiadau cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig
Y cyfnod a reoleiddir i ymgyrchwyr di-blaid mewn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig yw’r cyfnod o 365 o ddiwrnodau sy’n arwain at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio. 1
Gall etholiad i Senedd y Deyrnas Unedig gael ei alw unrhyw bryd yn ystod y tymor Seneddol o bum mlynedd ar y mwyaf.
Pan fo’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddi etholiad a’r diwrnod pleidleisio yn fyrrach na hyd y cyfnod a reoleiddir, bydd y cyfnod a reoleiddir yn dal i redeg am 365 diwrnod. Bydd y cyfnod a reoleiddir yn cael ei gymhwyso’n ôl-weithredol a bydd yn cynnwys cyfnod cyn i’r etholiad gael ei gyhoeddi.
Gall gwariant ar weithgareddau ymgyrchu sy’n digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol, ond cyn cyhoeddi etholiad, gael ei reoleiddio. Gweler yr adran ar y prawf diben a’r cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol.
Pan gynhelir ail etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig o fewn 365 diwrnod ar ôl yr etholiad blaenorol, bydd yr ail gyfnod a reoleiddir yn dechrau drannoeth y diwrnod pleidleisio cyntaf a bydd yn rhedeg hyd at ac yn cynnwys yr ail ddiwrnod pleidleisio. 2
Y cyfnod a reoleiddir
Y cyfnod a reoleiddir
Dechreuodd y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ar 6 Gorffennaf 2023, a bydd yn rhedeg tan y diwrnod pleidleisio ar 4 Gorffennaf 2024.3
Mae hyn yn golygu bod y cyfnod a reoleiddir wedi dechrau ymhell cyn i'r etholiad gael ei gyhoeddi.
Bydd unrhyw wariant rydych wedi mynd iddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant. Mae hyn yn cynnwys pan gaiff gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yr aethoch iddo cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir ei drin fel pe baech wedi mynd iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hefyd yn cynnwys unrhyw arian a gaiff ei wario ar weithgarwch a reoleiddir sy'n ymwneud ag etholiadau eraill heblaw am etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd o fewn y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ar unrhyw etholiadau neu is-etholiadau lleol.
Enghraifft
Mae ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch yn targedu pleidleiswyr mewn etholaethau sy'n cynnal is-etholiadau ar yr un diwrnod. Maent yn cydgysylltu digwyddiadau lleol ac yn cyhoeddi deunyddiau yn ystod y cyfnod cyn yr is-etholiadau sy'n beirniadu'r llywodraeth ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio yn dactegol er mwyn atal y blaid bresennol rhag cadw'r seddi.
Mae'r ymgyrchydd yn ymwybodol bod ei ymgyrch yn debygol o gael ei rheoleiddio ac felly mae'n cadw cofnodion manwl o'r hyn y mae wedi'i wario ac yn sicrhau bod ei wariant o dan y trothwy. Diben hyn yw sicrhau os caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw, bydd yn gwybod faint o wariant a reoleiddir y mae wedi mynd iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Chwe mis ar ôl dechrau'r ymgyrch, caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw. Gan fod y cyfnod a reoleiddir yn mynd yn ôl 365 o ddiwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio, bydd unrhyw wariant gan yr ymgyrchydd ar yr is-etholiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol.
Bydd unrhyw wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan yr ymgyrchydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at ei derfyn gwariant yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Yn dibynnu ar faint y mae'r ymgyrchydd yn ei wario, gall fod yn ofynnol iddo gyflwyno hysbysiad ac adrodd ar ei wariant ar ôl yr etholiad.
- 1. Atodlen 10, para. 3(3) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 10, para 3(3)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 10, para. 3(3) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3