Mae'r adran hon yn esbonio pa rai o'ch gweithgareddau ymgyrchu gaiff eu rheoleiddio o dan y gyfraith ac a fydd yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant. Os bydd yn ofynnol i chi adrodd ar ôl yr etholiad, bydd angen i chi nodi eich gwariant ar y gweithgareddau hyn yn unigol.
Mae'r adran hon yn cynnwys:
y gweithgareddau a ystyrir yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir
sut i asesu a yw gweithgaredd wedi'i reoleiddio
y ‘prawf diben’ a phan fydd gweithgaredd ‘ar gael i'r cyhoedd’
y mathau o weithgareddau na chânt eu rheoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)