Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Terfynau gwariant

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae terfynau ar faint y gallwch ei wario fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (UKPGE).

Mae terfynau ar: 

  • gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ym mhob rhan o'r DU
  • gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol

Rhaid priodoli'r holl wariant ymgyrchu a reoleiddir lle mae'n cael effaith: ar un neu fwy o rannau o'r DU ac un neu fwy o etholaethau. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wariant yn cyfrif tuag at derfyn ar gyfer rhan o'r DU a therfyn etholaethol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Priodoli eich gwariant.

Mae terfyn hefyd ar wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir y gellir yn rhesymol ei ystyried fel un y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid wleidyddol gofrestredig benodol neu unrhyw un o'i hymgeiswyr. Gelwir hyn yn wariant a dargedir.

Mae'r terfynau gwariant fel a ganlyn. Sylwch ein bod wedi talgrynnu'r terfynau hyn i'r bunt agosaf er hwylustod.

Terfynau ar wariant ym mhob rhan o'r DU

Y terfynau hyn yw:1

Rhan o'r DUTerfyn gwariant
Lloegr£586,548
Yr Alban£81,571
Cymru£54,566
Gogledd Iwerddon£39,443

Gwariant ar ymgyrchoedd ledled y DU

Cyfanswm cyfunol y terfynau gwariant ar gyfer pob rhan o'r DU yw £762,130. Fodd bynnag, oherwydd y ffordd y mae'r terfynau gwariant hyn yn gweithio, yr uchafswm y gallwch ei wario ar ymgyrchoedd ledled y DU yn unig yw £702,130. Byddai unrhyw wariant neu wariant pellach ledled y DU yn Lloegr yn mynd â chi dros y terfyn gwariant ar gyfer Lloegr.

Dim ond os oes gennych ymgyrchoedd ar wahân yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon lle nad oes angen priodoli unrhyw wariant ychwanegol i Loegr y gallwch gyrraedd cyfanswm cyfunol y terfynau gwariant ar gyfer pob rhan o’r DU.

Os ydych yn cynllunio ymgyrchoedd sylweddol ledled y DU a gweithgaredd ymgyrchu ychwanegol yn Lloegr, cysylltwch â ni am gyngor ar sut i gymhwyso'r rheolau priodoli i'ch ymgyrchoedd.

Terfynau ar wariant ym mhob etholaeth 

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, ni all ymgyrchydd nad yw'n blaid wario mwy na £17,553 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol.2  Mae'r terfyn hwn yn berthnasol i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid, cyn i chi gyflwyno hysbysiad, a thra byddwch wedi cofrestru.

Mae’n drosedd gwario mwy na £17,553 mewn etholaeth yn ystod y cyfnod a reoleiddir.3  Os byddwch yn gwario mwy na'r terfyn etholaethol tra eich bod wedi cofrestru, bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiadau rhoddion cyn y bleidlais ac adrodd ar eich gwariant a'ch rhoddion ar ôl yr etholiad.

Terfynau ar wariant a dargedir

O dan y gyfraith, mae terfynau hefyd ar faint y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau ei wario i gefnogi un blaid wleidyddol benodol neu ei hymgeiswyr yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Rhaid i chi beidio â mynd dros y terfynau gwariant cenedlaethol neu etholaethol, hyd yn oed os yw'r blaid wleidyddol yn eich awdurdodi i wario mwy na'r symiau hyn.

Terfynau pan nad yw plaid wleidyddol gofrestredig yn awdurdodi gwariant a dargedir

Os nad yw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr ydych am ddylanwadu ar bobl i bleidleisio drosti yn eich awdurdodi i fynd i swm o wariant ymgyrchu a dargedir, gallwch ond gwario hyd at y symiau canlynol (‘terfynau gwariant a dargedir’) ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir sy’n targedu plaid benodol yn ystod y cyfnod a reoleiddir:4

Rhan o'r DUTerfyn gwariant
Lloegr£58,654
Yr Alban£6,157
Cymru£3,456
Gogledd Iwerddon£1,944

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Gwariant a dargedir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2024