Return to The Electoral Commission Homepage

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd sy'n gymwys yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar etholiad cyffredinol Senedd y DU, gan ddechrau gyda gwario dros £700. Mae'r gyfraith yn nodi faint y gall unigolion a sefydliadau penodol ei wario, a'r gofynion cofrestru ac adrodd a fydd yn gymwys.

Rydym yn galw unigolion a sefydliadau sy’n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol neu ymgeisydd yn ‘ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau’. Mae pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn hanfodol i ddemocratiaeth iach, ac rydym yn annog cyfranogiad gweithredol gan ymgyrchwyr.

Mae cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ddewis dilys i ymgyrchwyr ei wneud. Fodd bynnag, lle ceir gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir, mae cyfreithiau y mae’n rhaid eu dilyn i sicrhau bod hyn yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu manylion at ddeunydd etholiad i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi (a elwir yn ‘argraffnodau’) a chydymffurfio â chyfyngiadau ar wariant a gofynion adrodd.

Mae'r canllaw hwn yn rhoi manylion am y cyfreithiau hyn a sut y byddant yn berthnasol i chi os ydych yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Cefndir

Cefndir 

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 ddyletswydd newydd ar y Comisiwn Etholiadol i lunio Cod Ymarfer ar y cyfreithiau sy'n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae'r Cod yn wahanol i'r mathau eraill o ganllawiau rydym yn eu paratoi am ei fod wedi cael ei gymeradwyo gan Senedd y DU. Mae'r Cod yn gymwys i etholiadau i Senedd y DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Bydd yn rhaid i'r Comisiwn roi sylw i'r Cod wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 o PPERA. Mae'r rhan hon yn nodi'r cyfreithiau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau PPERA. Mae'n amddiffyniad statudol i ymgyrchydd nad yw'n blaid ddangos ei fod wedi cydymffurfio â'r Cod wrth benderfynu a oedd ei weithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir.

Mae'r canllawiau anstatudol hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn ategu'r Cod â gwybodaeth ychwanegol, cyngor ac enghreifftiau i'ch helpu i ddeall y cyfreithiau. Rydym hefyd wedi darparu astudiaethau achos o ymgyrchoedd go iawn i'ch arwain wrth bennu pa derfynau neu ofynion adrodd sy'n gymwys i'ch gweithgareddau ymgyrchu.

Pan fydd dyfyniadau o'r Cod, byddant yn ymddangos mewn blychau testun coch.

Caiff y termau allweddol eu hesbonio drwy'r ddogfen a'u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y canllawiau.
 

Who is this guidance for?

I bwy mae'r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer unigolion a sefydliadau sy'n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr.

Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n gwario, neu sy'n bwriadu gwario, arian ar ymgyrchu cyn etholiad.

 

Diweddariadau i'n canllawiau

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Mai 2024

Diweddariadau i enghreifftiau o ymgyrchu ar y cyd

Ebrill 2024

Diweddariadau i ddarparu eglurder ynghylch pryd y mae angen i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gyflwyno adroddiadau ar roddion cyn y bleidlais

Rhagfyr 2023

Diweddariadau i adlewyrchu'r terfynau gwariant newydd

Ein dull gorfodi

Mae'r Comisiwn yn rheoleiddio arian a gwariant gwleidyddol mewn ffordd sy'n effeithiol, yn gymesur ac yn deg. Rydym yn ymrwymedig i roi dealltwriaeth glir i'r rheini a reoleiddiwn o'u rhwymedigaethau cyfreithiol drwy ein dogfennau canllaw a'n gwasanaeth cynghori. Os nad ydych yn siŵr sut mae unrhyw rai o'r rheolau hyn yn gymwys i chi, cysylltwch â ni i gael cyngor. Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni.

Rydym yn defnyddio cyngor a chanllawiau yn rhagweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Ac rydym yn cymryd camau gorfodi, gan ddefnyddio ein pwerau ymchwiliol a chosbau, lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn cyflawni ein nodau a'n hamcanion gorfodi.

Os nad ydych yn cydymffurfio â'r gyfraith, gallech chi neu eich sefydliad wynebu cosbau sifil neu droseddol. Mae mwy o wybodaeth am ddull gorfodi'r Comisiwn yn electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth yw ymgyrchydd nad yw'n blaid?

Mae rhai unigolion a sefydliadau nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol cofrestredig yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr neu ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, heb sefyll fel ymgeiswyr eu hunain. 

Yn y gyfraith etholiadol, mae’r unigolion a’r sefydliadau hyn yn cael eu diffinio fel trydydd partïon. Mae’r Comisiwn yn eu galw’n ymgyrchwyr di-blaid. 

Mae yna gyfreithiau y mae’n rhaid i ymgyrchwyr di-blaid eu dilyn ar wariant ymgyrchu, rhoddion, ac adroddiadau.

Mae llawer o unigolion a sefydliadau yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ac yn bodloni’r diffiniad o ymgyrchydd di-blaid ond nid ydyn nhw’n dod o dan y drefn reoleiddio.
 

Y ddau fath o ymgyrch gan rai nad ydynt yn bleidiau

Mae dau fath o ymgyrch gan rai nad ydynt yn bleidiau, sef:

Ymgyrchoedd lleol Ymgyrchoedd cyffredinol 

Ymgyrchoedd o blaid neu yn erbyn:

  • un neu fwy o ymgeiswyr
  • mewn etholaeth, ward neu ardal etholiadol arall benodol 1

Ymgyrchoedd o blaid neu yn erbyn:

  • un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
  • pleidiau neu ymgeiswyr sy'n cefnogi neu ddim yn cefnogi polisïau penodol
  • categorïau eraill o ymgeiswyr 2

Ymgyrchoedd lleol 

Yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU, caiff ymgyrchoedd lleol eu cwmpasu gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. O dan y gyfraith, mae terfyn gwariant yn berthnasol i ymgyrchoedd lleol. Y terfyn hwn yw £700 ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un ymgeisydd neu fwy mewn etholaeth3 . Mae terfynau gwariant gwahanol ar ymgyrchoedd lleol ym mhob math o etholiad.

Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol ac nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r rheoliadau ynglŷn ag ymgyrchu lleol yn fanwl.

Darllenwch ein canllawiau i ymgyrchwyr lleol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrchoedd hyn.

Dylai cwynion am dorri'r cyfreithiau sy'n gymwys i ymgyrchoedd lleol gael eu gwneud i'r heddlu.

Ymgyrchoedd cyffredinol 

Caiff y cyfreithiau ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol eu nodi o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Caiff yr ymgyrchoedd hyn eu rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol.

Os ydych yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr, efallai y bydd angen i chi gofrestru â ni a dilyn y cyfreithiau ar wariant ar ymgyrchu, rhoddion ac adrodd.

Nodir y rhain yn y canllawiau hyn.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Rhagfyr 2023

Trosolwg o'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

Mae'r tabl canlynol yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ôl y swm y maent yn bwriadu ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Mae cyfanswm eich gwariant a reoleiddir yn cynnwys eich holl wariant a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwariant y talwyd amdano gennych chi
  • gwerth rhywbeth a ddarperir i'w ddefnyddio yn eich ymgyrch (gwariant tybiannol)
  • gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd pan fyddwch yn ymgyrchu gyda'ch gilydd gydag eraill mewn trefniadau penodol (ymgyrchu ar y cyd)
  • gwariant i annog pleidleiswyr i gefnogi un blaid wleidyddol neu unrhyw un o'i hymgeiswyr (gwariant a dargedir).

Ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw'n blaid, mae'n rhaid i chi ddilyn y cyfreithiau ynglŷn â chynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiad. Mae'r rhain yn gymwys pryd bynnag y caiff deunydd etholiad penodol ei gynhyrchu, ni waeth faint y byddwch yn ei wario na ph'un a ydych wedi'ch cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol.
 

Faint ydych chi'n bwriadu ei wario ar ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir?Ydych chi'n gymwys i wario'r swm hwn?Oes angen i chi gyflwyno hysbysiad cyn gwario'r swm hwn?Gofynion adrodd
Hyd at £700Gall unrhyw un wario hyd at £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddirNac oesDim. Mae'n rhaid i chi ddilyn y cyfreithiau ynglŷn â chynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiad o hyd.
Rhwng £700 a £10,000 ledled y DU

Dim ond rhai unigolion a sefydliadau all wario mwy na £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir

Gweler Gwario dros £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir i weld y rhestr lawn o unigolion a sefydliadau cymwys.
 

Nac oesDim. Mae'n rhaid i chi ddilyn y cyfreithiau ynglŷn â chynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiad o hyd.
Dros £10,000 ledled y DU, ond hyd at y ‘trothwy adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU’ (£20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon)

Dim ond os oes hysbysiad mewn grym gennych. Rydym yn galw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau â hysbysiad yn ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.

Gweler Pwy all gyflwyno hysbysiad? am restr o unigolion a sefydliadau sy'n gymwys i gyflwyno hysbysiad.

Os nad ydych yn bwriadu gwario dros y trothwy adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, gallwch ddatgan hyn yn eich hysbysiad.
 

OesOs byddwch yn gwneud datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd, a bod eich gwariant o dan y trothwy adrodd o hyd, cewch eich eithrio rhag adrodd. Mae'n rhaid i chi ddilyn y cyfreithiau ynglŷn â chynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiad o hyd.
Os na fyddwch yn gwneud datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd, a bod eich gwariant o dan y trothwy adrodd o hyd, bydd angen i chi gyflwyno adroddiadau ar roddion cyn yr etholiad. Mae'n rhaid i chi ddilyn y cyfreithiau ynglŷn â chynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiad hefyd.
Dros y trothwy adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU (£20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon)

Dim ond os oes hysbysiad mewn grym gennych. Rydym yn galw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau â hysbysiad yn ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.

Gweler Pwy all gyflwyno hysbysiad? am restr o unigolion a sefydliadau sy'n gymwys i gyflwyno hysbysiad.
 

Oes.

Bydd gennych gyfanswm y gallwch ei wario yn ystod y cyfnod a reoleiddir fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn seiliedig ar gyfrifiad yn y gyfraith.

Gweler Terfynau gwariant am ragor o wybodaeth.
 

  • Adroddiadau ar roddion cyn yr etholiad
  • Adroddiad ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad
  • Argraffnodau ar ddeunydd etholiad
     

Yn ogystal â'r terfynau gwariant a'r gofynion adrodd uchod, mae terfyn ar y swm y gallwch ei wario mewn etholaeth.1  Mae’n drosedd gwario mwy na £17,553 mewn etholaeth. 2

Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid a'ch bod yn gwario dros £17,553 mewn etholaeth, bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiadau rhoddion cyn y bleidlais ac adroddiad gwariant a rhoddion ar ôl yr etholiad.3  Os nad ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, nid oes unrhyw ofynion adrodd gan mai dim ond ar ôl cofrestru y bydd y rhain yn berthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Rhagfyr 2023

Pwy sy'n dod o dan y gyfraith?

Mae'r cyfreithiau ar wariant a rhoddion yn gymwys i ymgyrchwyr di-blaid sy'n gwario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Pwy sy'n dod o dan y gyfraith?

Mae cyfyngiadau sy'n gymwys i wariant ar weithgareddau a reoleiddir gan unigolion a sefydliadau:

  • nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU
  • nad ydynt ar gofrestr etholiadol yn y DU 
  • nad ydynt wedi'u cofrestru'n ymgyrchydd nad yw'n blaid

sy'n ymgyrchu yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU.

Y terfyn gwariant isaf y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yw £700. Os byddwch ond yn gwario £700 neu lai ar weithgareddau a reoleiddir, nid yw'r cyfreithiau ar wariant a rhoddion yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r gofynion ynglŷn ag argraffnodau yn gymwys o hyd.

Dim ond rhai unigolion a sefydliadau, sydd wedi'u lleoli yn y DU fel rheol, all wario mwy na £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 1  Gall yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hyn wario hyd at £10,000 ledled y DU heb gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Ceir rhestr lawn o unigolion a sefydliadau cymwys ar y dudalen nesaf.

Mae'n rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n dymuno gwario mwy na £10,000 gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol.2  Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi cyflwyno hysbysiad i ni, yr ydym yn eu galw'n ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol mewn perthynas â gwariant ac adrodd.

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y cyfyngiadau sy'n berthnasol cyn i chi gyflwyno hysbysiad i ni. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Gwario mwy na £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir

Ni chaniateir i unigolion a sefydliadau nad ydynt wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig neu sydd heb fod ar gofrestr etholiadol yn y Deyrnas Unedig wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 1

Dim ond os yw:

  • wedi’i restru yn adran 88(2) o Ddeddf 2000 fel un sy’n gymwys i roi hysbysiad i’r Comisiwn, neu 
  • yn gymdeithas anghorfforedig sydd â’r cysylltiad angenrheidiol â’r Deyrnas Unedig 2

Mae gan gymdeithas anghorfforedig ‘y cysylltiad angenrheidiol â’r Deyrnas Unedig’ os yw’n cynnwys dau berson neu fwy, a phob un ohonynt yn etholwyr tramor cofrestredig. 3     
 

Spending more than £700 on regulated campaign activities

Dylech wirio yn ofalus p'un a ydych chi, neu eich sefydliad, yn gymwys i wario mwy na £700 ar weithgareddau a reoleiddir.

Yn unol â'r gyfraith, dim ond y mathau canlynol o unigolion neu sefydliadau all wario mwy na £700 ar ymgyrchu cyffredinol yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU:

  • unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, neu sy'n preswylio yn y DU
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • cymdeithas gyfeillgar, cymdeithas ddiwydiannol neu gymdeithas ddarbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
  • corff sydd wedi ei gorffori drwy Siarter Frenhinol
  • sefydliad corfforedig elusennol yn y DU
  • partneriaeth Albanaidd sy'n cynnal busnes yn y DU
  • cymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU 4

Os nad ydych yn dod o dan un o'r categorïau hyn, ni chewch wario mwy na £700.5  Ni chaiff pleidiau gwleidyddol cofrestredig wario mwy na £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad yw'n ymgyrchu gan blaid. 

Os byddwch yn gwario mwy na £700 pan nad ydych yn gymwys i wneud hynny, byddwch yn cyflawni trosedd.6
 

Faint y gallwch ei wario cyn cyflwyno hysbysiad?

Mae ymgyrchydd di-blaid y caniateir iddo wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn cael gwario hyd at £10,000 ar draws y Deyrnas Unedig heb hysbysu’r Comisiwn.7

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac yn dilyn hynny byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau. 8  Dim ond mathau penodol o endidau sy’n cael cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.

Unincorporated associations

Math o sefydliad a gyflwynwyd o dan Ddeddf Etholiadau 2022 yw cymdeithas anghorfforedig sydd â'r  cysylltiad angenrheidiol â'r DU. Mae'r categori hwn yn ychwanegol at gategori presennol cymdeithasau anghorfforedig wedi'u lleoli yn y 

DU sy'n cynnal y rhan fwyaf o'u busnes neu weithgareddau eraill yn y DU.
Bydd gan gymdeithas anghorfforedig gysylltiad angenrheidiol â'r DU os yw'n cynnwys dau berson neu fwy, y mae pob un ohonynt yn etholwyr tramor cofrestredig. 9
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Pryd mae'r cyfreithiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gymwys?

Mae gwariant gan ymgyrchwyr di-blaid yn cael ei reoleiddio yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig ac etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Diffinnir hyn yn Neddf 2000 fel y ‘cyfnod a reoleiddir’.

Etholiadau cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig

Y cyfnod a reoleiddir i ymgyrchwyr di-blaid mewn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig yw’r cyfnod o 365 o ddiwrnodau sy’n arwain at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio. 1

Gall etholiad i Senedd y Deyrnas Unedig gael ei alw unrhyw bryd yn ystod y tymor Seneddol o bum mlynedd ar y mwyaf.

Pan fo’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddi etholiad a’r diwrnod pleidleisio yn fyrrach na hyd y cyfnod a reoleiddir, bydd y cyfnod a reoleiddir yn dal i redeg am 365 diwrnod. Bydd y cyfnod a reoleiddir yn cael ei gymhwyso’n ôl-weithredol a bydd yn cynnwys cyfnod cyn i’r etholiad gael ei gyhoeddi.

Gall gwariant ar weithgareddau ymgyrchu sy’n digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol, ond cyn cyhoeddi etholiad, gael ei reoleiddio. Gweler yr adran ar y prawf diben a’r cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol. 

Pan gynhelir ail etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig o fewn 365 diwrnod ar ôl yr etholiad blaenorol, bydd yr ail gyfnod a reoleiddir yn dechrau drannoeth y diwrnod pleidleisio cyntaf a bydd yn rhedeg hyd at ac yn cynnwys yr ail ddiwrnod pleidleisio. 2
 

Y cyfnod a reoleiddir

Y cyfnod a reoleiddir

Dechreuodd y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ar 6 Gorffennaf 2023, a bydd yn rhedeg tan y diwrnod pleidleisio ar 4 Gorffennaf 2024.3

Mae hyn yn golygu bod y cyfnod a reoleiddir wedi dechrau ymhell cyn i'r etholiad gael ei gyhoeddi.

Bydd unrhyw wariant rydych wedi mynd iddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant. Mae hyn yn cynnwys pan gaiff gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yr aethoch iddo cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir ei drin fel pe baech wedi mynd iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.

Mae hefyd yn cynnwys unrhyw arian a gaiff ei wario ar weithgarwch a reoleiddir sy'n ymwneud ag etholiadau eraill heblaw am etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd o fewn y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ar unrhyw etholiadau neu is-etholiadau lleol.

Enghraifft

Mae ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch yn targedu pleidleiswyr mewn etholaethau sy'n cynnal is-etholiadau ar yr un diwrnod. Maent yn cydgysylltu digwyddiadau lleol ac yn cyhoeddi deunyddiau yn ystod y cyfnod cyn yr is-etholiadau sy'n beirniadu'r llywodraeth ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio yn dactegol er mwyn atal y blaid bresennol rhag cadw'r seddi.

Mae'r ymgyrchydd yn ymwybodol bod ei ymgyrch yn debygol o gael ei rheoleiddio ac felly mae'n cadw cofnodion manwl o'r hyn y mae wedi'i wario ac yn sicrhau bod ei wariant o dan y trothwy. Diben hyn yw sicrhau os caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw, bydd yn gwybod faint o wariant a reoleiddir y mae wedi mynd iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Chwe mis ar ôl dechrau'r ymgyrch, caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw. Gan fod y cyfnod a reoleiddir yn mynd yn ôl 365 o ddiwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio, bydd unrhyw wariant gan yr ymgyrchydd ar yr is-etholiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol. 

Bydd unrhyw wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan yr ymgyrchydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at ei derfyn gwariant yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Yn dibynnu ar faint y mae'r ymgyrchydd yn ei wario, gall fod yn ofynnol iddo gyflwyno hysbysiad ac adrodd ar ei wariant ar ôl yr etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024

Gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir

Mae'r adran hon yn esbonio pa rai o'ch gweithgareddau ymgyrchu gaiff eu rheoleiddio o dan y gyfraith ac a fydd yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant. Os bydd yn ofynnol i chi adrodd ar ôl yr etholiad, bydd angen i chi nodi eich gwariant ar y gweithgareddau hyn yn unigol.

Mae'r adran hon yn cynnwys:

  • y gweithgareddau a ystyrir yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir
  • sut i asesu a yw gweithgaredd wedi'i reoleiddio
  • y ‘prawf diben’ a phan fydd gweithgaredd ‘ar gael i'r cyhoedd’
  • y mathau o weithgareddau na chânt eu rheoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth yw gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir?

Mae'r cyfreithiau ynglŷn ag ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid yn gymwys i wariant ar yr hyn a elwir yn ‘weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae cyfraith etholiadol yn nodi'r mathau o wariant a reoleiddir ac na reoleiddir ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Caiff y treuliau hyn eu galw'n ‘wariant a reolir’ o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
 

Controlled expenditure

Gwariant a reolir yw unrhyw wariant sy’n cael ei achosi mewn perthynas â gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Mae Atodlen 8A o Ddeddf 2000 yn nodi’r rhestr o dreuliau cymwys sy’n dod o fewn y drefn reoleiddio.

Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio

Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio

Gweithgareddau a all gael eu rheoleiddio

Mae Deddf 2000 yn rhestru’n benodol y treuliau a ganlyn fel rhai sy’n dod o fewn y drefn reoleiddio: 

  • cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu i unrhyw adran o’r cyhoedd (ym mha ffurf bynnag a thrwy ba fodd bynnag)
  • canfasio neu ymchwil farchnad yn gofyn am farn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
  • cynadleddau i’r wasg, neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau, wedi’u trefnu gan yr ymgyrchydd di-blaid neu ar ei ran
  • cludo pobl (drwy unrhyw fodd) i unrhyw le neu leoedd gyda golwg ar sicrhau cyhoeddusrwydd
  • treuliau mewn perthynas â chludo pobl o’r fath gan gynnwys costau llogi math penodol o gludiant 
  • ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, heblaw:
    • cynadleddau blynyddol yr ymgyrchydd di-blaid
    • unrhyw orymdaith gyhoeddus neu gyfarfod protest, o fewn ystyr Deddf Gorymdeithiau Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 1998, y rhoddir hysbysiad mewn perthynas â nhw yn unol ag adran 6 neu 7 o’r Ddeddf honno (hysbysiad ymlaen llaw o orymdeithiau cyhoeddus neu gyfarfodydd protest perthynol)

Mae treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath yn cynnwys costau a achosir mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o’r fath, llogi safleoedd at ddibenion digwyddiadau o’r fath neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt. Ond nid yw treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath yn cynnwys costau a achosir wrth ddarparu ar gyfer diogelwch pobl neu eiddo.
 

Activities that may be regulated

Er mwyn asesu a gaiff gweithgaredd ei reoleiddio fel traul cymwys, byddwn yn ystyried dau ffactor:

•    y ‘prawf diben’
•    p'un a yw'r gweithgaredd ‘ar gael i'r cyhoedd’

Dim ond bodloni'r prawf diben y bydd angen i rai gweithgareddau ei wneud er mwyn cael eu rheoleiddio, tra bydd gweithgareddau eraill ond yn cael eu rheoleiddio os ydynt ar gael i'r cyhoedd yn ogystal â bodloni'r prawf diben.

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y prawf diben a gweithgareddau sydd ar gael i'r cyhoedd.

Yr egwyddor asesu gonest

Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth yw'r prawf diben?

Dim ond os yw’n rhesymol barnu y bwriedir iddo hybu neu sicrhau llwyddiant etholiadol y canlynol y mae gwariant ar weithgareddau ymgyrchu gan ymgyrchwyr di-blaid yn cael ei reoleiddio:

  • un neu ragor o bleidiau gwleidyddol 
  • pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi neu nad ydyn nhw’n cefnogi polisïau penodol, neu
  • gategori penodol arall o ymgeiswyr 1

a hynny trwy ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad perthnasol sydd yn yr arfaeth i bleidleisio mewn ffordd benodol.  Gweler y diffiniad o etholiadau perthnasol yn Atodiad B. 

Yr enw cyffredin ar y cwestiwn a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yw ‘prawf diben’. 

Mae gwariant ar y gweithgareddau a ganlyn yn cael ei reoleiddio os yw (i) yn digwydd mewn perthynas ag ymgyrch gyffredinol yn ystod cyfnod a reoleiddir a (ii) yn bodloni’r prawf diben:

  • cynadleddau i’r wasg neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd di-blaid
  • trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch
  • cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu i unrhyw adran o’r cyhoedd
  • canfasio ac ymchwil farchnad sy’n gofyn am farn neu wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd
  • ralïau neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill. 2
     

N/A

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am sut i gymhwyso'r prawf diben ac enghreifftiau o'r gweithgareddau uchod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Cynadleddau i'r wasg a digwyddiadau i'r cyfryngau

Ystyrir bod cynhadledd i'r wasg neu ddigwyddiad i'r cyfryngau yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os caiff y fath beth ei drefnu gennych neu ar eich rhan, a'i fod yn bodloni'r prawf diben.

Os nad ydych yn gwahodd y cyfryngau yn benodol i ddigwyddiad agored rydych yn ei gynnal, ond bod y cyfryngau yn bresennol beth bynnag, ni chaiff ei ystyried yn ddigwyddiad i'r cyfryngau fel rheol. Fodd bynnag, gall gael ei ystyried yn rali neu'n ddigwyddiad cyhoeddus, lle mae'r cyfreithiau yn gymwys.

Os byddwch yn cynnal digwyddiad i aelodau yn unig a'ch bod yn gwahodd y cyfryngau iddo, digwyddiad i'r cyfryngau fydd hwn fel arfer.
 

Cost cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill

Cost cynadleddau i'r wasg neu ddelio â'r cyfryngau mewn ffyrdd eraill

Mae hyn yn cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • cyfarpar
  • safle neu gyfleusterau

a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.

Costau eraill

Mae'n cynnwys costau unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar mewn perthynas â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau.
 

Press releases

Datganiadau i'r wasg

Bydd y cyfryngau yn aml yn gofyn i sefydliadau wneud sylw am fater neu ddigwyddiad penodol. Os byddwch yn ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau, nid ystyrir bod unrhyw sylw neu ddatganiad a wneir gennych yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Fel rheol nid ystyrir bod datganiadau i'r wasg yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os mai dim ond at y cyfryngau y cânt eu hanfon.

Mae eithriad ar gyfer cynnwys a gynhwysir mewn papur newydd neu gyfnodolyn heblaw hysbysebion. Gweler Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd am ragor o wybodaeth.

Enghraifft

Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn canolbwyntio ar les anifeiliaid. Pan gaiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gyhoeddi, mae'n cymharu polisïau presennol ac arfaethedig y prif bleidiau gwleidyddol mewn perthynas â lles anifeiliaid yn y DU mewn datganiad i'r wasg. Yn ei ddatganiad, mae'n mynegi cefnogaeth o blaid polisïau dau o'r pleidiau ac yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros y pleidiau hyn yn etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod.

Mae'r ymgyrchydd yn anfon y datganiad i'r wasg i'r cyfryngau yn gyntaf, ac ni chaiff ei gyhoeddi yn unrhyw le arall. Gan mai dim ond â'r cyfryngau y caiff y datganiad i'r wasg ei rannu, ni chaiff hyn ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Wythnos yn ddiweddarach, mae'r ymgyrchydd yn rhannu'r datganiad i'r wasg ar ei wefan a'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gan fod cynnwys y datganiad i'r wasg yn bodloni'r prawf diben, caiff hyn ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023

Trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch

Ystyrir bod costau trafnidiaeth yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os byddwch yn cludo pobl er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i ymgyrch sy'n bodloni'r prawf diben. Er enghraifft, efallai fod gennych fws ymgyrchu rydych yn ei ddefnyddio fel rhan o'ch ymgyrch

Weithiau, gall gwariant ar drafnidiaeth berthyn i gategori arall o weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Er enghraifft, os byddwch yn llogi fan ac yn gosod hysbysebion arno gall hyn gyfrif fel deunydd etholiad, neu os byddwch yn llogi bws mini i gludo'ch cefnogwyr i rali gyhoeddus, efallai y bydd angen cyfrif y costau cludo fel rhan o gostau cynnal y rali gyhoeddus.

Nid yw gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys treuliau personol rhesymol yr eir iddynt gan unigolyn wrth deithio neu ddiwallu ei anghenion personol.
 

From the Code of Practice

Cludo gwirfoddolwyr neu ymgyrchwyr

Mae'n cynnwys cost cludo: 

  • gwirfoddolwyr
  • aelodau, gan gynnwys aelodau o staff
  • pobl eraill sy'n ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid

o gwmpas ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:

  • tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant,
  • llogi unrhyw gludiant 
  • tanwydd a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
  • parcio ar gyfer unrhyw gludiant

lle maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid.

Costau eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo canlyniad yr etholiad, gan gynnwys:

  • dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant 
  • teithio rhwng ardaloedd etholiadol
  • teithio o amgylch ardal etholiadol
  • ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd

Mae ffioedd adroddadwy yn cynnwys yr holl gostau cludiant sy'n gysylltiedig ag un o'r gweithgareddau eraill a restrir. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Cymhwyso'r prawf diben

Rhaid i’r prawf diben gael ei gymhwyso ar y pryd y mae’r gwariant ar y gweithgaredd yn cael ei achosi neu, os ceir cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol, fel pe bai’n cael ei gymhwyso ar y pryd hwnnw. Os cafodd gwariant ei achosi cyn y cyfnod a reoleiddir ond bod y gweithgaredd yn digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid i’r prawf diben gael ei gymhwyso ar yr adeg y mae’r gweithgaredd yn digwydd. 

Er nad yw’r rhain wedi’u nodi yn Neddf 2000, ceir nifer o ffactorau a all helpu i benderfynu a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd ymgyrchu wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth, sef: 

  1. Galwad i weithredu 
  2. Tôn
  3. Cyd-destun ac amseru
  4. Sut byddai unigolyn rhesymol yn gweld y gweithgaredd

Ni fydd un ffactor ar ei ben ei hun yn penderfynu a yw gweithgaredd ymgyrchu penodol yn bodloni’r prawf diben ai peidio. Yn hytrach, fe fydd yr holl ffactorau perthnasol o’u cymryd gyda’i gilydd yn penderfynu a yw gweithgaredd ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben. 

Mae’r Comisiwn yn defnyddio’r ffactorau hyn wrth ystyried a yw gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben.

1. Galwad i weithredu

Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n cynnwys galwad i weithredu i bleidleiswyr, sef i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth, yn un sy’n hybu llwyddiant etholiadol i blaid benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly yn bodloni’r prawf diben. Gall yr alwad i weithredu fod yn echblyg, neu’n ymhlyg. 

Mae ymgyrch sy’n hybu pleidiau neu ymgeiswyr penodol yn echblyg, neu sy’n hybu pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr penodol uwchlaw eraill yn ymhlyg, yn debygol o fodloni’r prawf diben. 

Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch gyhoeddus heb alwad echblyg neu ymhlyg i weithredu i bleidleiswyr yn bodloni’r prawf diben.

2. Tôn

Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n gadarnhaol neu’n negyddol tuag at blaid neu bleidiau gwleidyddol, categori o ymgeiswyr neu bolisi sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid neu gategori o ymgeiswyr yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly yn bodloni’r prawf diben. 

Mae ymgyrch sy’n gwneud i bleidleisiwr feddwl am blaid wleidyddol benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried fel pe bai wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly mae’n bodloni’r prawf diben.

3. Cyd-destun ac amseru 

Mae’n debygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch ar fater neu bolisi sy’n fater amlwg pan fo’r gweithgaredd ymgyrchu yn digwydd, sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn un sy’n hybu llwyddiant etholiadol plaid benodol neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly mae’n bodloni’r prawf diben. 

Mae’n debycach y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n dechrau yn agos at ddyddiad etholiad a hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad sydd yn yr arfaeth. 

Mae’n annhebygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch barhaus yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.

4. Sut byddai unigolyn rhesymol yn gweld y gweithgaredd

Dim ond os byddai person rhesymol yn ystyried y gweithgaredd fel un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth y bydd gweithgaredd ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Y prawf diben a’r cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol

Gall natur ôl-weithredol y cyfnod a reoleiddir ymwneud ag ymgeiswyr o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch p'un a yw'r cyfreithiau yn berthnasol. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o weithgarwch ymgyrchu a wnaed cyn cyhoeddi etholiad yn bodloni'r prawf diben.

Er bod y cyfnod a reoleiddir yn ôl-weithredol, nid yw'r prawf diben ei hun yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y bydd eich ymgyrch ond yn cael ei rheoleiddio os bodlonodd y prawf diben ar yr adeg y cafodd ei chynnal – ac mae hyn yn llawer llai tebygol pan nad oes etholiad.

Yn gyntaf, mae llawer o ymgyrchoedd yn seiliedig ar faterion yn unig yn hytrach na chanolbwyntio ar ymgeiswyr neu bleidiau. Efallai na fydd gan bolisïau a materion gysylltiad digon agos na chyhoeddus â phlaid, pleidiau neu gategori o ymgeiswyr er mwyn i'r gweithgarwch ymgyrchu fodloni'r prawf diben. Mae hyn yn arbennig o wir pan fwriedir cynnal yr ymgyrchoedd y tu allan i gyfnod etholiad, am eu bod yn llai tebygol o gael galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr, neu gyfeirio at bleidiau neu ymgeiswyr hyd yn oed.

Yn ail, mae'n annhebygol y gellir ystyried yn rhesymol eich bod yn bwriadu dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn etholiad pan nad ydych yn gwybod bod etholiad yn digwydd nac yn disgwyl un. Felly, yn yr achosion hyn, mae'n annhebygol y bydd eich gweithgarwch yn bodloni'r prawf diben.

Felly, er enghraifft, pan na fydd etholiad a phan na gyfeirir at ymgeiswyr, pleidiau nac etholiadau, mae: 

  • ymgyrchoedd ar faterion megis costau byw neu'r GIG
  • ymgyrchoedd yn hyrwyddo pleidlais o blaid gweithredu diwydiannol

yn annhebygol o fodloni'r prawf diben, hyd yn oed os ydynt yn beirniadu'r llywodraeth. 

Yr eithriadau tebygol i hyn yw naill ai:

  • gwnaethoch gynnal ymgyrchoedd a oedd wedi bodloni'r prawf diben mewn etholiad gwahanol yn ystod y cyfnod a reoleiddir – er enghraifft, gwnaethoch ymgyrchu mewn etholiadau lleol yn gynharach yn y cyfnod a reoleiddir 
  • gwnaethoch ragweld neu gyfeirio at yr etholiad yn y dyfodol cyn iddo gael ei gyhoeddi – er enghraifft “Pleidleisiwch dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad sydd ar ddod”, neu “Disodlwch ASau a bleidleisiodd dros gyni”

Os byddwch yn gwario arian ar ymgyrchu fel hyn ar unrhyw adeg, yna bydd angen i chi gadw cofnod o'r hyn rydych wedi'i wario. Mae hyn oherwydd, os caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw, byddwch yn gwybod faint o wariant a reoleiddir yr aethoch iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Bwriad

Ymgyrchoedd amlbwrpas

Gall gweithgaredd sy’n bodloni’r prawf diben fod â nodau eraill yn ogystal â ‘chael ei hystyried yn rhesymol yn un y bwriedir iddi ddylanwadu ar sut mae pobl yn pleidleisio’. 

Does dim ots a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd yn un y bwriedir iddo ateb diben arall neu ddibenion eraill os yw hi hefyd yn rhesymol ystyried ei fod yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. 1

Er enghraifft, mae gweithgaredd ymgyrchu wedi’i fwriadu i gyflawni dau ddiben, diben X a diben Y. Os yw diben X yn bodloni’r prawf diben, mae’n amherthnasol nad yw diben Y yn bodloni’r prawf diben hefyd.
 

Bwriad

Mae'n bwysig ystyried sut byddai person rhesymol yn ystyried eich gweithgarwch ac a fyddai o'r farn mai bwriad eich ymgyrch yw dylanwadu ar bobl i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid neu bleidiau gwleidyddol neu gategori o ymgeiswyr mewn etholiad sydd ar ddod. Beth bynnag fo nodau neu fwriadau eich ymgyrch, mae'n bosibl y byddai person rhesymol yn ystyried bod ganddi fwriad gwahanol, neu fwriad pellach, yn wahanol i'r hyn a ragwelwyd gennych.

Mae'n bosibl nad dylanwadu ar bleidleiswyr yw prif fwriad eich ymgyrch. Er enghraifft, gallech gynnal ymgyrch ag un neu fwy o'r bwriadau canlynol: 

  • codi ymwybyddiaeth o fater
  • dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
  • ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
  • rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr
  • annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio
  • annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol

Ni fydd ymgyrch y gellir ystyried yn rhesymol bod ganddi un o'r bwriadau hyn yn bodloni'r prawf diben, oni bai y gellir ystyried yn rhesymol hefyd fod ganddi'r bwriad i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr.

Hyd yn oed os yw eich prif fwriad yn ymwneud â rhywbeth arall, bydd eich ymgyrch yn dal i fodloni'r prawf diben os gellir ystyried yn rhesymol bod ganddi fwriad i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr. 

Er enghraifft, tybiwch mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os byddwch yn mynd ati i wneud hyn drwy nodi a hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu'r polisi, bydd hyn yn bodloni’r prawf diben.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Ymgyrchu dros fater

Ymgyrchoedd sy'n cyfeirio at bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr

Ym mhob achos bron, bydd gweithgaredd yn bodloni'r prawf diben os yw'n:

  • hyrwyddo pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy'n cefnogi nodau eich ymgyrch yn benodol
  • hyrwyddo rhai pleidiau neu ymgeiswyr dros rai eraill yn anuniongyrchol, er enghraifft drwy bennu neu gymharu rhinweddau safbwyntiau pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr ar bolisi

Ymgyrchoedd nad ydynt yn cyfeirio at bleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr

Os nad yw eich ymgyrch yn cyfeirio at ymgeiswyr, pleidiau nac etholiadau, yna mae'n llai tebygol y caiff eich gwariant ei reoleiddio. Mae hyn am fod cydbwysedd ffactorau eich gweithgarwch – yn benodol ‘galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr’ a ‘thôn’ – yn llai tebygol o fodloni'r prawf diben.

Er mwyn sicrhau bod gweithgarwch yn bodloni'r prawf, mae angen i'r pleidleisiwr wybod pa ffordd y mae'n cael ei ddylanwadu i bleidleisio.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich ymgyrch yn nodi plaid wleidyddol, pleidiau neu grŵp ymgeiswyr yn anuniongyrchol, heb eu henwi. Gallai hyn ddigwydd os yw polisi neu fater sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid, pleidiau neu gategori o ymgeiswyr sydd, i bob pwrpas, yn adlewyrchu'r rheini yn eich ymgyrch. 

Yn yr achos hwn, bydd eich ymgyrch yn bodloni'r prawf diben os, ar ôl asesu pob un o'r ffactorau, gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad eich gweithgarwch ymgyrchu ar y polisi yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn y pleidiau gwleidyddol neu'r ymgeiswyr hynny.

Mae hyn oherwydd y gall polisïau penodol fod yn fwy tebygol na materion cyffredinol o fod â chysylltiad agos â phleidiau neu ymgeiswyr.
 

Enghraifft: ‘Gofal cymdeithasol’ a'r ‘dreth ddementia’ yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017

Enghraifft: ‘Gofal cymdeithasol’ a'r ‘dreth ddementia’ yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017 

‘Gofal cymdeithasol’ oedd un o'r materion amlwg ar y pryd, ond roedd gan y pleidiau mwyaf amlwg amrywiaeth o bolisïau a safbwyntiau arno. Nid oedd gan y mater cyffredinol gysylltiad agos na chyhoeddus ag unrhyw blaid na chategori o ymgeiswyr. Mae'n annhebygol y byddai ymgyrch ar ofal cymdeithasol wedi bodloni'r prawf diben oni bai ei fod yn cyfeirio'n benodol at bleidiau neu ymgeiswyr.

Roedd y ‘dreth ddementia’ yn un o bolisïau penodol clir ac amlwg y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn yr etholiad, a gyhoeddwyd fel rhan o'u maniffesto yn ystod yr ymgyrch. Roedd wedi'i gysylltu'n agos ac yn gyhoeddus â'r blaid. Byddai ymgyrch yn erbyn y dreth ddementia wedi bod yn fwy tebygol o lawer o fodloni'r prawf diben ar gydbwyso'r ffactorau – yn enwedig am fod gwrthwynebwyr y Ceidwadwyr wedi bathu'r ymadrodd ‘treth ddementia’ ac wedi'i ddefnyddio yn yr ymgyrch etholiadol honno.
 

Gweithgaredd ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad

Gweithgaredd ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad

Mae’n annhebygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd ar fater penodol a oedd yn cael ei chynnal cyn i etholiad gael ei gyhoeddi yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth os nad oes yna etholiad yn yr arfaeth.

Os bydd ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd yn parhau’n ddigyfnewid unwaith y bydd yr etholiad wedi’i gyhoeddi, mae’n annhebygol y bydd yn cael ei hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Os bydd gweithgaredd ynghylch ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd yn cynyddu neu’n cael ei newid yn y cyfnod cyn yr etholiad mewn ffordd sy’n bodloni’r prawf diben, h.y. y byddai’n rhesymol bellach ystyried bod y gweithgaredd yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol, fe allai gael ei hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. O’r pwynt pan ystyrir bod yr ymgyrch yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir, mae’r costau sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch honno yn debygol o fod yn wariant a reolir ac mae’n rhaid eu trin felly.

Mae’n dal yn bosibl ystyried bod ymgyrch yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir pan fwriedir iddi gyflawni diben arall heblaw dylanwadu ar bleidleiswyr, os yw’n rhesymol ystyried bod yr ymgyrch yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth sy'n digwydd os yw'r polisi rydych wedi bod yn ymgyrchu drosto yn cael ei fabwysiadu gan blaid wleidyddol?

Gall plaid wleidyddol fabwysiadu polisïau rydych eisoes yn ymgyrchu'n weithredol drostynt neu yn eu herbyn, a hynny'n gyhoeddus.

Os nad oedd eich ymgyrch yn bodloni'r prawf diben cyn i'r blaid newid ei barn, mae'n parhau i fod yn annhebygol y bydd eich ymgyrch arfaethedig yn bodloni'r prawf.

Fodd bynnag, am fod y blaid wedi newid ei safbwynt, gallech wella neu gynyddu eich gwariant ar y mater y tu hwnt i'r bwriad gwreiddiol.

Yn yr achos hwn pan fyddwch yn newid eich dull gweithredu, caiff gwariant pellach ar ymgyrchu ei reoleiddio os gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gwariant yw hyrwyddo neu feirniadu'r blaid.

Fel arfer, dylech asesu eich ymgyrch drwy ddefnyddio'r ffactorau a nodwyd gennym.

Er enghraifft, os byddwch yn croesawu ymrwymiad plaid wleidyddol i bolisi rydych wedi ymgyrchu drosto, a'i bod yn glir y byddech yn croesawu ymrwymiad gan unrhyw blaid wleidyddol, yn nodweddiadol, ni fydd hyn yn diwallu'r prawf diben.
 

Examples

Enghraifft A

Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn galw ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol i ymrwymo i rewi rhenti er mwyn helpu rhentwyr yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r ymgyrch wedi bod yn cael ei chynnal ers sawl blwyddyn.

Unwaith y caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gyhoeddi, mae'r sefydliad yn cynyddu ei wariant fel y cynlluniwyd er mwyn ehangu cyrhaeddiad ei ymgyrch. Nid yw cwmpas yr ymgyrch yn newid yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae sawl plaid yn nodi bod costau cynyddol rhentu yn broblem i'r cyhoedd. Mae dwy blaid yn cynnwys addewid i rewi costau rhentu i rai rhentwyr yn eu maniffestos, tra bo ambell un arall yn cynnig polisïau cyffredinol mewn perthynas â rhoi mwy o gymorth i rentwyr pe baent yn cael eu hethol.

Mae'r sefydliad yn cyhoeddi datganiad yn croesawu cyhoeddiad polisi pob plaid ac yn annog pleidiau eraill i ddilyn esiampl y pleidiau hyn.

Er bod yr ymgyrch yn gadarnhaol mewn perthynas â phleidiau sy'n cefnogi camau i rewi rhenti drwy eu canmol am fabwysiadu polisïau, nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Mae amseru'r ymgyrch a'r alwad i weithredu sydd wedi'i hanelu at bleidiau gwleidyddol i newid eu polisïau, yn hytrach na thargedu pleidleiswyr, yn awgrymu na ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch yw dylanwadu ar bleidleiswyr. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi ei reoleiddio.

Enghraifft B

Mae ymgyrchydd wedi bod yn ymgyrchu ar faes polisi ers rhai blynyddoedd. Mae'n cynnal ymgyrch hysbysebu ddigidol ar y mater, sy'n cael ei chynnal yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU. Nid yw'r ymgyrch yn cyfeirio at bleidiau nac ymgeiswyr ac nid yw'n bodloni'r prawf diben.

Yn ystod yr ymgyrch, mae'r blaid sy'n llywodraethu yn ymrwymo i ddiddymu ymrwymiad gwariant allweddol yn y maes polisi hwnnw. Mae'r tair gwrthblaid fwyaf oll yn ailddatgan eu hymrwymiad i'r gwariant, a daw'r mater yn un blaenllaw yn yr etholiad. Mae hyn yn creu cyd-destun gwleidyddol newydd.

Mae'r ymgyrch hysbysebu ddigidol yn parhau drwyddi draw. Gan nad yw'r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei lansio cyn i'r pleidiau fabwysiadu'r mater, nid oes angen cymhwyso'r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Nid yw'r ymgyrch yn bodloni'r prawf o hyd.

Gan ymateb i'r diddordeb cynyddol yn ei fater, mae'r ymgyrchydd yn ymddangos mwy yn y cyfryngau ac yn cynyddu ei weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth wneud hyn, mae'n canolbwyntio mwy ar fanteision y polisi ac yn annog pob plaid i ailddatgan ei hymrwymiad. 

Gan fod hyn yn weithgarwch newydd, mae angen cymhwyso'r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Fodd bynnag, gan fod yr ymgyrch yn parhau i fod yn gyffredinol ei natur, heb alwad benodol i bleidleiswyr weithredu, hyd yn oed yn y cyd-destun newydd, ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad yr ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr, ac ni fodlonir y prawf diben.

Yn agosach at yr etholiad, mae'r ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch hysbysebu newydd gyda'r slogan ‘Pleidleisiwch i gynnal yr ymrwymiad’. Yn y cyd-destun gwleidyddol newydd, mae gan y slogan gysylltiad clir â'r etholiad a galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr gyda'r gair ‘Pleidleisiwch’. Gan fod y mater yn un blaenllaw, byddai person rhesymol yn meddwl bod yr ymgyrchydd yn bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid sy'n llywodraethu ac o blaid unrhyw un o'r tair gwrthblaid sydd wedi gwneud yr ymrwymiad. Caiff gwariant ar yr ymgyrch newydd ei reoleiddio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Elusennau a sefydliadau eraill sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol

Mae gan rai sefydliadau gyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol, er enghraifft, yn eu cyfansoddiad, neu elusennau sy'n rhwym wrth gyfraith elusennau.

Efallai y bydd y sefydliadau hyn o'r farn, drwy gydymffurfio â'r cyfyngiadau ar wahân hyn, eu bod yn llai tebygol o gynnal gweithgareddau sy'n bodloni'r prawf diben.

Mae hyn am fod y cyfyngiadau yn golygu bod llawer o'r mathau o ymgyrchoedd sy'n bodloni'r prawf diben wedi'u gwahardd ar gyfer y sefydliadau hynny.

Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae'n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i'w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.

Os ydych yn elusen ac yn cydymffurfio â chyfraith a chanllawiau elusennau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n annhebygol y bydd eich gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni'r prawf diben. 
 

Rhan o'r DURheoleiddiwr elusennau
Cymru a LloegrComisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Yr AlbanOSCR
Gogledd IwerddonY Comisiwn Elusennau ar gyfer Gogledd Iwerddon

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r rheolau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau o hyd rhag ofn bod eich gweithgareddau yn bodloni'r prawf diben. O dan rai amgylchiadau, gall elusennau gynnal gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir o dan gyfraith etholiadol, ac mae elusennau yn gwneud hynny. Er enghraifft, yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn 2015 a 2017, cynhaliodd elusennau ymgyrchoedd a oedd yn bodloni'r profion ar gyfer gwariant a reoleiddir ac maent wedi cofrestru â ni yn unol â'r gyfraith.

Mae ein hastudiaethau achos o etholiadau diweddar yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchu sy'n seiliedig ar faterion a fydd yn ddefnyddiol wrth gymhwyso'r prawf diben at eich ymgyrchoedd eich hunain.

Os ydych yn cynllunio ymgyrch a'ch bod yn dal yn ansicr ynghylch sut y mae'n cyd-fynd â'r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cysylltwch â ni a gallwn roi cyngor i chi.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Ionawr 2024

Ystyr ‘y cyhoedd’

Bydd angen i ystyr ‘y cyhoedd’ gael ei hystyried mewn perthynas â’r gweithgareddau ymgyrchu a ganlyn wrth benderfynu a yw gwariant ar y gweithgaredd yn cael ei reoleiddio ai peidio:  

  • canfasio ac ymchwil marchnad ymysg y cyhoedd
  • ralïau a digwyddiadau cyhoeddus
  • cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd

Does dim diffiniad statudol o ‘y cyhoedd’ ac felly mae angen ei ystyried yn ei ystyr cyffredin.
 

N/A

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y gweithgareddau uchod a sut y bydd angen i chi ystyried cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer pob un.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Canfasio ac ymchwil i’r farchnad

Dim ond os yw’n gofyn am farn neu wybodaeth gan y cyhoedd y bydd canfasio ac ymchwil i’r farchnad sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill

Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw: 

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad 
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i: 

  • baratoi, cynhyrchu, hwyluso, cynnal neu gydgysylltu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad, gan gynnwys cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall

Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i gyflogeion banciau ffôn eu defnyddio y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr.
 

Example

Enghraifft

Rydych yn llogi asiantaeth ymchwil i'r farchnad er mwyn cael gwybodaeth am fwriad pleidleisio aelodau o'r cyhoedd ledled yr Alban a bydd yr asiantaeth yn dadansoddi'r data hyn i chi. Nod yr ymchwil i'r farchnad yw ei defnyddio i dargedu eich ymgyrch at bleidleiswyr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod.

Gan ddefnyddio'r data hyn, rydych wedyn yn llogi banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr yn ystod yr wythnosau cyn etholiad, gyda'r bwriad o ddylanwadu arnynt i bleidleisio dros bleidiau sy'n cefnogi polisi penodol. 

Gan fod yr ymchwil i'r farchnad a'r defnydd o'r banciau ffôn yn bodloni'r prawf diben ac yn ceisio barn aelodau o'r cyhoedd, ystyrir bod y costau hyn yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
 

From the Code of Practice

Costau cael neu gynnal data 

Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu neu gynnal:

  • meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt 
  • setiau data, gan gynnwys defnyddio dadansoddeg data i hwyluso ymchwil i'r farchnad neu waith canfasio neu i’w cyflawni. 

Er enghraifft, mae'n cynnwys cost ymgymryd â gweithgarwch gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniad er mwyn canfod bwriad pleidleiswyr. 

Costau eraill

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sydd ei angen i: 

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad 
  • cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
  • cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall

Er enghraifft, gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio i ganfasio a ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydgysylltydd y gweithgarwch canfasio lle telir am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig gan drydydd parti cofrestredig, neu ceir ad-daliad ganddo.

Canvassing

Gall gwaith canfasio ac ymchwil i'r farchnad gynnwys gweithgareddau fel: 

  • curo ar ddrysau neu ffyrdd eraill o ganfasio aelodau o'r cyhoedd neu gasglu gwybodaeth ganddynt
  • defnyddio banciau ffôn i ffonio aelodau o'r cyhoedd er mwyn hyrwyddo plaid benodol neu gategorïau o ymgeiswyr, neu weld sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
  • anfon arolygon neu holiaduron at aelodau o'r cyhoedd er mwyn canfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio

Os bydd eich gwaith canfasio neu ymchwil i'r farchnad yn bodloni'r prawf diben ond ei fod ond yn cael ei wneud ymhlith aelodau neu gefnogwyr eich sefydliad, ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir am nad yw'n ymwneud â'r cyhoedd. 1
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd

Dim ond os yw’r ymgyrchydd di-blaid yn trefnu bod y deunydd ymgyrchu ar gael i’r cyhoedd neu unrhyw adran o’r cyhoedd y bydd deunydd ymgyrchu yn cael ei reoleiddio.

Mae’r cwestiwn a yw’r deunydd ar gael yn gyhoeddus ai peidio yn cael ei benderfynu yn ôl pwy sydd â mynediad at y deunydd hwnnw:

  • Deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd
    • Bydd deunydd ymgyrchu sydd ar gael i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd ei glywed neu ei weld yn ddeunydd cyhoeddus a bydd yn weithgaredd ymgyrchu sy’n cael ei reoleiddio os yw hefyd yn bodloni’r prawf diben ac yn digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut mae'r deunydd yn cael ei ddosbarthu.
  •  Deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i bobl sydd wedi dewis derbyn yr wybodaeth yn unig
    • Ni fydd deunydd ymgyrchu y mae’r ymgyrchydd di-blaid yn trefnu ei fod ar gael i grŵp caeedig o aelodau neu bobl sydd wedi dewis derbyn yr wybodaeth yn unig yn cael ei reoleiddio.

Pan fo mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi’i gyfyngu yn y fath fodd fel na fyddai’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y deunydd hwnnw, nid gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yw hwn. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut mae’r deunydd yn cael ei ddosbarthu, er enghraifft trwy brint neu’n ddigidol.

Pan fo mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd di-blaid i grŵp o bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn y deunydd hwnnw, ni fydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoleiddio. Er enghraifft, pan fo’r mynediad wedi’i gyfyngu i aelodau, neu gefnogwyr, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio. 

Deunydd sydd wedi'i gyfyngu i bobl benodol

Deunydd sydd wedi'i gyfyngu i bobl benodol

Nid ystyrir bod deunydd rydych yn ei gyfyngu fel mai dim ond pobl sydd wedi dewis ei dderbyn sy'n gallu ei weld ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd.

Enghraifft

Gallai hyn gynnwys deunydd ymgyrchu ar ffurf cylchlythyr rydych ond yn ei anfon at bobl sydd wedi cofrestru i gael diweddariadau gennych, sydd wedi ymuno â'ch cynllun aelodaeth neu sydd wedi rhoi arian i'ch ymgyrch. Nid yw'r deunydd ymgyrchu hwn ar gael yn unrhyw le arall.

Gwefannau a blogiau

Gwefannau a blogiau

Ystyrir bod cynnwys gwefannau, gan gynnwys blogiau, ar gael i'r cyhoedd os nad oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gael gafael ar y cynnwys. Caiff ei reoleiddio os:

  • bydd yn cynnwys deunydd y gellir ystyried yn rhesymol ei fod wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr
  • bydd yn cael ei hysbysebu (neu ei hyrwyddo fel arall) i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, mewn perthynas â'ch ymgyrch

Gall gwaith hysbysebu neu hyrwyddo gynnwys:

  • rhoi cyfeiriad y wefan fel ffynhonnell i gael mwy o wybodaeth am ddeunydd ymgyrchu arall, neu mewn gohebiaeth arall fel e-byst sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf
  • sicrhau bod y wefan yn ymddangos yn uwch ar restr canlyniadau peiriant chwilio 
  • rhoi dolenni ar wefannau eraill
  • marchnata feirol wedi'i drefnu neu weithgareddau tebyg

Enghraifft

Rydych yn cynhyrchu graffigyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir ac rydych yn annog eich cefnogwyr i'w rannu ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at eich sefydliad. Mae'r graffigyn yn cynnwys dolen i dudalen gyhoeddus ar eich gwefan lle gall pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich ymgyrch. Rydych wedi asesu bod y graffigyn a'r wefan yn bodloni'r prawf diben.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y wefan na'r graffigyn o ran pwy all gael gafael arnynt ac felly ystyrir eu bod ar gael i'r cyhoedd. Gan fod y deunydd hefyd yn bodloni'r prawf diben, caiff ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.

I'r gwrthwyneb, os byddwch yn rhoi deunydd ar eich gwefan sydd ond ar gael i bobl rydych yn anfon y ddolen atynt, er enghraifft, y rhai sydd wedi ymuno â'ch rhestr e-bostio, nid ystyrir bod y deunydd hwn ar gael i'r cyhoedd. Yn y senario hon, ni fydd y deunydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir felly.

Cyfryngau cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasol

Mae deunydd ymgyrchu a gyhoeddir ar y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i unrhyw un ei weld wedi'i ddarparu i'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys deunydd ymgyrchu sy'n enwi neu'n targedu rhan benodol o'r cyhoedd, er enghraifft ymgyrchoedd sydd wedi'u hanelu at breswylwyr ardal benodol, neu bobl sy'n aelodau o grwpiau neu rwydweithiau penodol.

Fodd bynnag, nid yw cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'i gyfyngu i grŵp penodol o bobl ac na all unrhyw aelod o'r cyhoedd gael gafael arno, wedi cael ei ddarparu i'r cyhoedd. Er enghraifft, mae'n debygol na fyddai deunydd ymgyrchu a rennir ar grŵp Facebook caeedig neu gyfrif X (Twitter gynt) preifat yn cael ei reoleiddio am y rheswm hwn.

Er mwyn asesu a fydd deunydd ymgyrchu a ddarperir i'r cyhoedd gennych ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei reoleiddio, bydd angen i chi ystyried a yw hefyd yn bodloni'r prawf diben. 

Os bydd gwariant ar y cyfryngau cymdeithasol ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, ac yn bodloni'r prawf diben, rhaid i chi gyfrif am gost llunio, diweddaru a dosbarthu'r deunydd hwn. Mewn sawl achos, mân gostau fydd ynghlwm wrth gyhoeddi deunydd ar safle cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft anfon trydariad neu ddiweddaru tudalen Facebook.

Newspapers and periodicals

Papurau newydd a chyfnodolion

Nid yw'r gwaith o lunio na chyhoeddi unrhyw gynnwys – heblaw am hysbyseb – mewn papur newydd neu gyfnodolyn (gan gynnwys fersiynau ar-lein o bapurau newydd a chyfnodolion) yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 1

Fodd bynnag, os byddwch yn hysbysebu mewn papur newydd neu gyfnodolyn, caiff yr hysbyseb ei rheoleiddio os bydd ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, ac yn bodloni'r prawf diben. Enghraifft o hyn fyddai hysbyseb rydych yn ei rhoi mewn cylchlythyr lleol yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros grŵp o ymgeiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill

Dim ond os ydynt yn agored i unrhyw un eu clywed, eu gweld neu eu mynychu y bydd ralïau a digwyddiadau sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 

Pan fo mynediad i’r rali neu’r digwyddiad cyhoeddus wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd di-blaid fel nad yw’r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio.

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i: 

  • hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
  • cynnal rali neu ddigwyddiad arall
  • ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull 

Costau eraill

Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r rali neu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.

Mae'n cynnwys darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.

Mae'n cynnwys prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â: 

  • chynnal cyfarfod cyhoeddus 
  • ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull

Costau sydd wedi'u heithrio

Nid yw costau adroddadwy yn cynnwys cost darparu diogelwch penodol i unrhyw berson sy'n ymddangos yn y digwyddiad neu'n ei fynychu, na chostau darparu diogelwch cyffredinol ar gyfer pobl neu eiddo yn y digwyddiad.

Example

Enghraifft

Os bydd eich sefydliad yn cynnal rali i aelodau yn unig yng nghanol tref, neu'n gorymdeithio drwy ganol tref brysur, mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw aelod o'r cyhoedd ei weld neu ymuno ynddo (hyd yn oed os mai dim ond aelodau o'ch sefydliad sy'n cymryd rhan yn y rali). Ystyrir bod y rali yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os bydd yn bodloni'r prawf diben hefyd.

Yn yr un modd, os byddwch yn cynnal rali neu ddigwyddiad dan do, bydd hon/hwn hefyd yn cael ei r(h)eoleiddio os byddwch wedi hyrwyddo'r rali neu'r digwyddiad ymhlith aelodau o'r cyhoedd, er enghraifft, drwy ei hyrwyddo drwy hysbysebion yn y papur newydd a thrwy daflenni, a'i bod/fod yn bodloni'r prawf diben.

Fodd bynnag, os byddwch yn cynnal digwyddiad caeedig i bobl sydd wedi cofrestru i wirfoddoli i'ch ymgyrch, lle na all aelodau o'r cyhoedd fod yn rhan o'r digwyddiad nac ymuno ynddo, ni chaiff hwn ei reoleiddio.

Os byddwch yn darparu diogelwch i gyfranogwyr neu eiddo mewn digwyddiad, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Pa ralïau a digwyddiadau na chânt eu rheoleiddio?

Pa ralïau a digwyddiadau na chânt eu rheoleiddio?

Ni chaiff ralïau a digwyddiadau cyhoeddus eu rheoleiddio os: 

  • mai eich cynhadledd flynyddol ydynt
  • mai gorymdaith gyhoeddus neu gyfarfod protest yng Ngogledd Iwerddon ydynt, lle rhoddwyd hysbysiad o dan Ddeddf Gorymdeithiau Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 19981
  • mai hustyngau annewisol ydynt, sef hustyngau na fyddai'n rhesymol ystyried eu bod wedi'u bwriadu i gefnogi na gwrthwynebu pleidiau penodol na chategorïau o ymgeiswyr
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Astudiaethau achos

Mae ein hastudiaethau achos yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchoedd yn seiliedig ar faterion ac yn esbonio a ydynt yn bodloni'r prawf diben ai peidio:

Astudiaeth achos 1: 0.7% o Gynnyrch Domestig Gros ar gymorth tramor

Astudiaeth achos 2: Mewnfudo

Astudiaeth achos 3: Ffracio

Astudiaeth achos 4: Pleidleisio dros weithredu diwydiannol

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Gweithgareddau na chânt eu rheoleiddio

Yn ogystal â'r isod, mae PPERA yn darparu nad yw treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo yn weithgaredd a reoleiddir ac ni fydd yn cyfrif tuag at unrhyw derfyn gwariant.1  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu. 

Cyflwynwyd yr eithriad hwn ar ôl cymeradwyo’r Cod ac nid yw’n rhan o’r Cod Ymarfer.

Gweithgareddau na chânt eu rheoleiddio

Mae Deddf 2000 yn eithrio’n benodol y treuliau a ganlyn o’r gofynion ynglŷn ag adroddiadau:

  • treuliau a achosir mewn perthynas â chyhoeddi unrhyw fater yn ymwneud ag etholiad, heblaw hysbyseb:
    • mewn papur newydd neu gyfnodolyn 
    • fel darllediad a wneir gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu gan Sianel Pedwar Cymru neu
    • fel rhaglen a gynhwysir mewn unrhyw wasanaeth sydd wedi’i drwyddedu o dan Ran 1 neu 3 o Ddeddf Darlledu 1990 neu Ran 1 neu 2 Ddeddf Darlledu 1996 
  • treuliau a achosir mewn perthynas â chyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu o ganlyniad i hynny
  • treuliau personol rhesymol a achosir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer llety’r unigolyn neu ei anghenion personol eraill
  • treuliau rhesymol sydd i’w priodoli’n rhesymol i anabledd unigolyn
  • treuliau a achosir mewn perthynas â darparu gwasanaethau’r unigolyn ei hun a ddarperir yn wirfoddol yn amser yr unigolyn ei hun ac yn rhad ac am ddim2

Cyfieithu deunydd i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg

Cyfieithu deunydd i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg

Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn mynd iddynt os bydd deunydd a gyhoeddir gennych yn cael ei gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg neu'r ffordd arall yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Rhaid i chi wneud asesiad gonest o'r costau sylfaenol os mai dim ond un iaith oedd dan sylw a dylech ddefnyddio hyn i bennu'r costau ychwanegol.

Enghraifft

Rydych yn llunio taflen ddwyieithog sy'n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r un testun ac felly mae ychydig dudalennau'n hirach na phetai'r daflen mewn un iaith yn unig. 

Ni fydd ffi'r cyfieithydd na'r gost o ddylunio, argraffu a phostio'r tudalennau ychwanegol yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Bydd unrhyw gostau cyfieithu ar gyfer ieithoedd eraill yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant.

Treuliau personol

Treuliau personol

Ni chaiff treuliau rhesymol yr eir iddynt gan unigolyn ar deithio, llety neu anghenion personol eraill mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir eu rheoleiddio.

Enghraifft

Os bydd unigolyn yn teithio i ddinas arall am y penwythnos er mwyn ymuno â'ch ymgyrch leol ac yn talu'r costau hyn ei hun, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. 

Fodd bynnag, os byddwch yn ad-dalu unigolyn am ei dreuliau personol, bydd y treuliau hyn yn wariant ymgyrchu a reoleiddir a rhaid adrodd arno.

Treuliau yr eir iddynt mewn perthynas ag anabledd unigolyn

Treuliau yr eir iddynt mewn perthynas ag anabledd unigolyn 

Hefyd, nid yw unrhyw gostau cymorth ychwanegol ar gyfer pobl anabl sy'n gweithio ar unrhyw weithgareddau a reoleiddir, neu i bobl anabl allu cael mynediad at unrhyw weithgareddau a reoleiddir a drefnir gennych neu gymryd rhan ynddynt, yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Enghraifft

Llunio taflenni ymgyrchu Braille i'w dosbarthu i aelodau dall o'r cyhoedd, neu logi cyfarpar wedi'i addasu fel bod modd i aelodau anabl o'r cyhoedd gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus.
 

Amser gwirfoddolwyr

Amser gwirfoddolwyr

Nid oes angen i chi gynnwys yr amser a dreulir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan wirfoddolwyr fel treuliau a reoleiddir. Fodd bynnag, caiff arian a gaiff ei wario ar unrhyw adnoddau y byddwch yn eu darparu i'ch gwirfoddolwyr gyflawni gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ei gynnwys. Er enghraifft, os byddwch yn llogi bws mini i gludo gwirfoddolwyr tra'u bod yn canfasio, bydd cost llogi'r bws yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Weithiau efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylai ei amser gael ei drin fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.

Mae unigolyn yn debygol o fod yn wirfoddolwr, er enghraifft, os nad yw ei gyflogwr yn talu am yr amser y mae'n ei dreulio ar eich ymgyrch (oni bai ei fod yn gwneud hynny yn ystod ei wyliau blynyddol arferol). Os bydd yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, dylech ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol.
 

Treuliau pleidiau ac ymgeiswyr

Treuliau pleidiau ac ymgeiswyr

O ran gwariant y mae'n rhaid i blaid wleidyddol gofrestredig neu ymgeisydd roi gwybod amdano fel treuliau etholiad, dim ond y sefydliad neu'r unigolyn hwnnw ddylai adrodd arno. Nid yw'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant ac ni ddylid ei gynnwys yn eich ffurflen gwariant.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2024

Hysbysiadau a chofrestru

Mae'r adran ganlynol yn cwmpasu'r broses o gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • pryd mae angen i chi gyflwyno hysbysiad i ni
  • pa unigolion a sefydliadau all gyflwyno hysbysiadau
  • pa fanylion y mae angen i chi eu darparu yn eich hysbysiad
  • cyfrifoldebau'r person cyfrifol
  • beth sydd angen i chi ei wneud unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich hysbysiad
  • am ba hyd y byddwch yn aros ar y gofrestr hysbysiadau

Efallai yr hoffech ddarllen yr adran hon ochr yn ochr â'r tabl cynharach sy'n pennu'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn unol â'r symiau a gaiff eu gwario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Gellir dod o hyd iddo yn yr adran Trosolwg o'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Pryd y mae'n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn?

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac yn dilyn hynny byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau.1  Dim ond mathau penodol o endidau sy’n cael cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.2

Unwaith y bydd ymgyrchydd di-blaid yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau, mae’r Comisiwn yn cyfeirio ato fel ‘ymgyrchydd di-blaid cofrestredig’.
 

Pryd y mae'n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn?

Os byddwch yn gymwys i gyflwyno hysbysiad, gallwch gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol unrhyw bryd cyn neu yn ystod cyfnod a reoleiddir yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. 

Mae'n rhaid i'ch hysbysiad fod mewn grym cyn i chi wario dros £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Y ‘trothwy hysbysu’ yw'r enw ar y terfyn hwn.

Mae'r Comisiwn yn cadw cofrestr o hysbysiadau gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod y cyfnod cyn etholiadau. Unwaith y caiff ymgyrchydd nad yw'n blaid ei gofrestru, byddwn yn cyhoeddi manylion ei hysbysiad ar ein cofrestr gyhoeddus.3  Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost na rhifau ffôn.

Mae'n drosedd gwario mwy na £10,000 heb fod ar y gofrestr hysbysiadau.4  Os byddwch wedi'ch cofrestru â ni, bydd gennych derfyn gwariant gwahanol.

Yn ogystal â'r trothwy hysbysu, mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn gwariant ar gyfer yr etholaeth. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Pwy all gyflwyno hysbysiad?

Ymgyrchwyr di-blaid cymwys

Dim ond unigolion neu sefydliadau a ddisgrifir yn adran 88(2) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn. 

Gwaherddir sefydliadau rhag cofrestru fel ymgyrchydd di-blaid ac fel plaid wleidyddol. 1

Who can submit a notification?

Dylech wirio'n ofalus a ydych yn gymwys i gyflwyno hysbysiad.

Dim ond yr unigolion neu'r sefydliadau canlynol all gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol:

  • unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, neu sy'n preswylio yn y DU
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • cymdeithas gyfeillgar, cymdeithas ddiwydiannol neu gymdeithas ddarbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
  • corff sydd wedi ei gorffori drwy Siarter Frenhinol
  • sefydliad corfforedig elusennol yn y DU
  • partneriaeth Albanaidd sy'n cynnal busnes yn y DU 2

Dylech sicrhau eich bod yn cyflwyno hysbysiad fel y math o endid sy'n cynnal y gweithgarwch ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar gofrestr etholiadol yn y DU a bod gennych gwmni cofrestredig, dylech gyflwyno hysbysiad fel yr endid sy'n gwneud y gweithgarwch ymgyrchu.

Os ydych yn dod o dan un o'r categorïau hyn, ac nad ydych yn cyflwyno hysbysiad, ni allwch wario mwy na £10,000 ar ymgyrchu nad yw'n ymgyrchu gan blaid mewn etholiad cyffredinol i Senedd y DU.
 

Pwy na all gyflwyno hysbysiad?

Pwy na all gyflwyno hysbysiad?

Ni allwch gyflwyno hysbysiad fel ymgyrchydd unigol nad yw'n blaid os mai chi yw'r person cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid eisoes. 3

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, nid yw pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn gymwys i gyflwyno hysbysiad fel ymgyrchydd nad yw'n blaid. Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, ni allwch gofrestru fel plaid wleidyddol nes bod eich cofrestriad fel ymgyrchydd nad yw'n blaid wedi dod i ben. 4

Mae cymdeithasau anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU (yn wahanol i gymdeithasau anghorfforedig y mae eu prif swyddfa yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'u busnes neu eu gweithgareddau yn y DU) yn gallu gwario dros £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ond nid ydynt yn gymwys i gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Mae hyn yn golygu na all cymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 5

Os nad ydych yn dod o dan un o'r categorïau uchod, ac nid ydych yn gymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU, dim ond hyd at £700 y gallwch ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 6
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Sut rydych yn cyflwyno hysbysiad?

Gallwch gyflwyno hysbysiad ar-lein gan ddefnyddio CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch gwblhau Ffurflen TP1 ac anfon copi wedi'i lofnodi o'r ffurflen atom drwy e-bost neu drwy'r post.

Pan ddaw eich hysbysiad i law, byddwn yn cadarnhau eich bod yn gymwys i gyflwyno hysbysiad, bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i darparu ac yn cadarnhau yn ysgrifenedig pan fydd eich hysbysiad mewn grym. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth cyn y gallwn brosesu eich hysbysiad.

Gan fod yn rhaid i'ch hysbysiad fod mewn grym cyn i chi wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, ac i ganiatáu amser i'r hysbysiad gael ei brosesu, dylech aros nes i ni gadarnhau bod eich hysbysiad mewn grym cyn gwario dros y swm hwn.
 

Pa wybodaeth y mae angen i chi ei darparu?

Pa wybodaeth y mae angen i chi ei darparu?

Os ydych yn gwneud hysbysiad fel unigolyn, mae'n rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad cartref. 1

Os ydych yn gwneud hysbysiad fel corff a gorfforwyd gan Siarter Frenhinol, sefydliad anghorfforedig elusennol yn y DU neu bartneriaeth Albanaidd sy'n cynnal busnes yn y DU, mae'n rhaid i chi ddarparu:

  • enw'r sefydliad a chyfeiriad ei brif swyddfa 2  
  • enw'r ‘person cyfrifol’3
  •  ‘manylion perthnasol’ y sefydliad 4
  • awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neu unigolyn sy'n gweithredu mewn rôl debyg) 5  

Ar gyfer sefydliadau eraill sy'n gymwys i wneud hysbysiad, mae'n rhaid i chi ddarparu:

  • enw'r sefydliad a chyfeiriad ei brif swyddfa gofrestredig 6
  • enw'r ‘person cyfrifol’ 7
  • manylion ‘cyfranogwyr perthnasol’ y sefydliad 8
  • awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neu unigolyn sy'n gweithredu mewn rôl debyg) 9

Person sy’n gweithredu mewn rôl debyg i ysgrifennydd sefydliad fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am faterion gweinyddol y sefydliad.

Gweler y tudalennau nesaf am wybodaeth am y person cyfrifol, ei gyfrifoldebau a'r manylion a'r cyfranogwyr perthnasol.

Caiff y manylion hyn, heblaw am gyfeiriad cartref unigolyn, eu cynnwys ar eich cofnod ar y gofrestr o ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau. 

Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost na rhifau ffôn a ddarperir yn eich hysbysiad. 

Fel rhan o'ch hysbysiad, gofynnir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion i gael eich ychwanegu at y gofrestr o ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau o dan eich categori dewisol. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno hysbysiad fel cwmni, gofynnir i chi ddarparu rhif cofrestru eich cwmni a thystiolaeth eich bod yn cynnal busnes yn y DU.

Datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd

Mae rhwymedigaethau gwahanol o ran gwariant, rhoddion ac adrodd i ymgeiswyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau yn dibynnu ar y datganiad a wneir yn yr hysbysiad.

Fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Etholiadau 2022, pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiad, gallwch ddatgan eich bod yn bwriadu parhau i fod o dan y trothwyon adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Y trothwyon hyn yw gwario mwy nag £20,000 yn Lloegr neu £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Os byddwch yn gwneud y datganiad hwn, a bod eich gwariant yn parhau i fod o dan y trothwyon adrodd, mae'n rhaid i chi barhau i gydymffurfio â'r cyfreithiau o ran a ganiateir rhoddion ond byddwch wedi'ch eithrio rhag rhwymedigaethau adrodd.

Gweler Trothwyon adrodd am ragor o wybodaeth.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Person cyfrifol

Pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiad fel ymgyrchydd nad yw'n blaid, mae'n rhaid i chi benodi person cyfrifol. Y person hwn sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn dilyn y cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Os ydych yn cyflwyno hysbysiad fel unigolyn, chi fydd y person cyfrifol yn awtomatig.1  Rhaid i bob categori arall o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau enwebu rhywun i weithredu fel person cyfrifol wrth gyflwyno hysbysiad. 2

Os ydych yn cofrestru fel ymgyrchydd unigol nad yw'n blaid neu eisoes yn gweithredu fel y person cyfrifol ar ran ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw'n blaid, ni allwch gael eich penodi'n berson cyfrifol ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw'n blaid. 3

Mae'n rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod systemau addas ar waith i sicrhau yr ymdrinnir â gwariant a rhoddion yn gywir. Mae'n rhaid iddo hefyd wneud datganiad ar gyfer pob adroddiad i ddweud ei fod yn gyflawn ac yn gywir. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.4
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol

Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rai sefydliadau ddarparu enwau'r bobl sy'n rhan o'u cyrff llywodraethu neu bwyllgorau pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Yn y gyfraith, ‘cyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad yw'r enw ar y rhain.

Nodir y cyfranogwyr perthnasol a'r manylion perthnasol ar gyfer pob math o sefydliad yn y tablau canlynol:
 

Cyfranogwyr perthnasol

SefydliadCyfranogwyr perthnasol 1
Cwmni cofrestredigCyfarwyddwyr y cwmni
Undeb llafurSwyddogion yr undeb llafur
Cymdeithas adeiladuCyfarwyddwyr y gymdeithas
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedigAelodau'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
Cymdeithasau cyfeillgarAelodau pwyllgor rheoli'r gymdeithas
Cymdeithasau diwydiannol a darbodusAelodau pwyllgor rheoli neu gorff cyfarwyddo arall y gymdeithas
Cymdeithasau anghorfforedigLle mae gan y gymdeithas anghorfforedig fwy na 15 aelod ynghyd â swyddogion neu gorff llywodraethu, swyddogion neu aelodau'r corff llywodraethu. Fel arall, aelodau'r corff.

Manylion perthnasol

SefydliadManylion perthnasol 2
Cyrff sydd wedi eu corffori gan Siarter FrenhinolSwyddogion y corff neu aelodau ei gorff llywodraethu
Partneriaethau AlbanaiddY partneriaid
Sefydliad anghorfforedig elusennol yn y DUYmddiriedolwyr yr elusen
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl i'ch hysbysiad gael ei roi ar waith?

Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â chyfreithiau gwariant a rhoddion a gofynion adrodd.

Fel trosolwg, mae'n rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid:

  • gael system ar waith ar gyfer awdurdodi gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
  • cadw anfonebau a derbynebau ar gyfer taliadau dros £200 a wneir fel rhan o'ch gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
  • cadarnhau y gallwch dderbyn unrhyw roddion a gewch sydd dros £500 a'u cofnodi

Ar ôl yr etholiad, efallai y bydd angen i chi ddarparu datganiad cyfrifon yn cwmpasu'r cyfnod a reoleiddir i ni.

Yn ogystal, os bydd eich gwariant yn bodloni'r trothwyon adrodd, mae'n rhaid i chi hefyd:

  • adrodd ar rai rhoddion rydych yn eu cael ar gyfer gwario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir cyn ac ar ôl yr etholiad
  • cyflwyno adroddiadau i ni ar eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir cyn ac ar ôl yr etholiad

Rhagor o wybodaeth am roddion a gofynion adrodd ar ôl yr etholiad 

Gwneud newidiadau

Os ydych am newid unrhyw rai o'ch manylion, gallwch ddiwygio eich hysbysiad unrhyw bryd gan ddefnyddio Ffurflen TP2. 1
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Am ba hyd y bydd eich hysbysiad yn aros ar y gofrestr?

Byddwch yn aros ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am 15 mis o'r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno'r hysbysiad i ni.1  Os disgwylir i'ch hysbysiad ddod i ben yn ystod cyfnod a reoleiddir, caiff ei estyn yn awtomatig hyd at ddiwedd y cyfnod a reoleiddir hwnnw.2

Os hoffech adnewyddu eich hysbysiad er mwyn aros ar y gofrestr, mae'n rhaid i chi anfon Ffurflen TP3 atom heb fod yn gynt nag 11 mis ar ôl eich hysbysiad gwreiddiol a heb fod yn hwyrach na thri mis wedi hynny.3  Gallwch hefyd gofrestru gan ddefnyddio CPE Ar-lein. 

Os bydd unrhyw rai o'ch manylion cofrestredig wedi newid, mae'n rhaid i chi ddiweddaru'r rhain pan fyddwch yn adnewyddu. 4

Er y byddwn yn ceisio anfon nodyn atgoffa atoch cyn i'ch hysbysiad ddod i ben, chi sy'n gyfrifol o hyd am gyflwyno hysbysiad adnewyddu o fewn y terfyn amser os ydych am barhau ar y gofrestr.

Daw eich hysbysiad i ben os nad ydych yn gwneud cais i adnewyddu eich cofrestriad yn ystod y cyfnod hwn. 5  Os bydd eich hysbysiad yn dod i ben a'ch bod am gael eich ailychwanegu at y gofrestr, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad newydd.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Trothwyon adrodd

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n gwario mwy nag: 

  • £20,000 yn Lloegr, neu
  • £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon 

gofnodi eu gwariant a'u rhoddion a chyflwyno adroddiad arnynt.1  Mae’r rhain yn cael eu galw’n drothwyon adrodd. Maen nhw wedi’u diffinio fel y ‘lower tier spending limits’ yn Neddf 2000.

Hysbysu'r Comisiwn

Mae pob ymgyrchydd di-blaid sy’n cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn yn dod o dan y gofynion adrodd pan fydd eu gwariant yn cyrraedd y trothwyon adrodd. 

Caiff ymgyrchwyr di-blaid sy’n cyrraedd y trothwy hysbysu ond nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd, gyflwyno datganiad i’r perwyl hwnnw. 2

Os na fydd datganiad yn cael ei wneud gan yr ymgyrchydd di-blaid adeg hysbysu, bydd yr ymgyrchydd di-blaid yn dod o dan y gofynion adrodd os yw’n cyrraedd y trothwyon adrodd. 3

Efallai y bydd ymgyrchwyr di-blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd yn bodloni’r trothwy adrodd o ganlyniad i’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd, a hynny heb achosi gwariant uniongyrchol eu hunain. Gweler yr adran ar ymgyrchu ar y cyd.
 

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau heb y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau heb y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd

Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, dim ond gan ffynonellau a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £500 ac mae'n ofynnol i chi gyflwyno adroddiadau ar eich rhoddion yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad (adrodd cyn y bleidlais). Mae'r gofynion hyn o ran rhoddion yn gymwys ni waeth faint y byddwch yn ei wario.

Yn ogystal, os byddwch yn bodloni'r trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiad ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad.

Os nad yw eich gwariant yn bodloni'r trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, cewch eich eithrio rhag adrodd ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad. Fodd bynnag, fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiadau ar roddion i ni yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad o hyd.

Non-party campaigners who have declared they intend to remain below the reporting thresholds

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd

Nid yw’n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig di-blaid sy’n cynnwys datganiad nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd gyflwyno adroddiad am eu gwariant na’u rhoddion cyn belled ag nad yw eu gwariant yn uwch na’r trothwyon adrodd. Maen nhw’n dal yn dod o dan y gyfraith ar ganiatáu rhoddion.

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd

Ni fydd angen i chi adrodd ar unrhyw wariant na rhoddion, naill ai yn y cyfnod cyn yr etholiad neu ar ôl yr etholiad, os bodlonir y ddau amod canlynol:

  • rydych yn datgan eich bod yn bwriadu cadw o dan y trothwyon adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn eich hysbysiad
  • mae eich gwariant yn aros o dan y trothwyon adrodd

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r cyfreithiau ar roddion o hyd a dim ond derbyn rhoddion sy'n werth dros £500 gan ffynonellau a ganiateir, hyd yn oed os nad oes angen i chi gyflwyno adroddiad i ni.

Dim ond os bydd eich gwariant yn parhau i fod o dan y trothwyon adrodd y bydd eich datganiad yn parhau i fod ar waith. Os byddwch yn gwario dros y trothwyon adrodd, ni fyddwch wedi'ch eithrio rhag y gofynion adrodd mwyach a bydd yn rhaid i chi gyflwyno adroddiad ar eich gwariant a'ch rhoddion i ni. Mae hefyd yn drosedd gwario dros y trothwyon adrodd pan fydd y datganiad ar waith. 4

Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd

Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd

Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd

Unwaith y bydd ymgyrchydd di-blaid wedi’i gofrestru, caiff dynnu yn ôl ei ddatganiad nad yw’n bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd os bydd ei fwriadau o ran gwariant yn newid ar ôl cofrestru. 5

Mae’n drosedd achosi gwariant a reolir sy’n uwch na’r trothwyon adrodd os yw’r ymgyrchydd di-blaid wedi hysbysu’r Comisiwn na fyddai’n gwario mwy na’r terfynau hynny.6  Byddai unrhyw ymgyrchydd di-blaid sy’n gwneud hynny hefyd yn dod o dan y gofynion ynglŷn ag adroddiadau. 7

Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd

Os ydych yn dymuno diwygio eich hysbysiad i dynnu'r cyfyngiad gwariant, gallwch ddiwygio eich cofnod ar y gofrestr unrhyw bryd drwy gyflwyno Ffurflen TP2. 8  Mae'n rhaid i'ch diwygiad fod ar waith cyn i chi wario dros y trothwyon adrodd. 

Byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd eich hysbysiad wedi'i ddiwygio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Enghreifftiau

Enghraifft A: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir o dan y trothwy adrodd

Dewisodd ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, Save the Trees, gynnwys datganiad na fyddai'n mynd dros y trothwy adrodd yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU wrth gyflwyno ei hysbysiad i gofrestru â ni. 

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol i Senedd y DU a gynhaliwyd ar ôl mis Tachwedd 2023, gwariodd gyfanswm o £33,000 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Gwariodd Save the Trees £18,000 yn Lloegr, £9,000 yn yr Alban a £6,000 yng Nghymru ar weithgareddau ymgyrchu yn yr etholiad. 

Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, roedd yn ofynnol i Save the Trees:

  • sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ar gael a derbyn rhoddion a ganiateir gwerth dros £500 
  • sicrhau nad oedd wedi gwario dros y trothwy adrodd cyn tynnu ei ddatganiad i'r Comisiwn yn ôl (nad oedd angen iddo ei wneud yn yr achos hwn) 

Gan fod datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd ar waith gan Save the Trees ac nid oedd wedi mynd dros y trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, nid oedd angen iddo gyflwyno adroddiadau chwarterol nac wythnosol ar roddion cyn yr etholiad yn ystod y cyfnod a reoleiddir nac adrodd ar ei wariant a'i roddion ar ôl yr etholiad.
 

Enghraifft B: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir uwchlaw'r trothwy adrodd

Enghraifft B: Gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir uwchlaw'r trothwy adrodd

Mae gan Alex Smith, sef unigolyn sydd ar y gofrestr etholiadol, gyllideb o £33,000 i'w gwario yn ystod etholiad cyffredinol i Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2024. Mae'n bwriadu defnyddio'r arian hwn ar hysbysebion gwleidyddol i gefnogi'r pleidiau a ffefrir ganddo ac mae'n dymuno gwario £25,000 yn Lloegr ac £8,000 yng Ngogledd Iwerddon. 

Gan fod Alex yn bwriadu gwario mwy na £10,000 yn y DU, mae'n rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i ni cyn gwario'r swm hwn. Ni all ei hysbysiad gynnwys datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd, gan ei fod yn bwriadu gwario dros £20,000 yn Lloegr, sy'n uwch na'r trothwy adrodd. Unwaith y bydd ei hysbysiad ar waith, bydd Alex yn ddarostyngedig i'r gofynion sy'n berthnasol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.

Ar ôl i Alex wario dros £20,000 yn Lloegr, bydd wedi gwario mwy na'r trothwy adrodd. Fel trosolwg, rhaid iddo:

  • sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ar gael a derbyn rhoddion a ganiateir gwerth dros £500 
  • cyflwyno adroddiadau ar roddion yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau
  • cadw cofnodion o wariant a sicrhau ei fod yn parhau o fewn y terfynau perthnasol
  • adrodd ar ei wariant a'i roddion ar ôl yr etholiad
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Awdurdodi a thalu gwariant ymgyrchu

Yn unol â'r gyfraith, dim ond rhai unigolion all awdurdodi a gwneud taliadau ar ran ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau. 

Mynd i wariant 

Ar gyfer pob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, dim ond y ‘person cyfrifol’ sydd wedi'i gofrestru â ni, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol, a all fynd i gostau sy'n ymwneud â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.1  Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.

Gwneud taliadau am wariant

Mae cyfyngiadau ychwanegol ar wneud taliadau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd naill ai:

  • heb ddatgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd yn eu hysbysiad
  • wedi datgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd ond sydd wedi gwario mwy na'r trothwyon mewn gwirionedd. 2

Dim ond y person cyfrifol sydd wedi'i gofrestru â ni, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol, a all fynd i gostau a gwneud taliadau am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 3

Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi gan y person cyfrifol i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.

Rhaid i bob taliad dros £200 gael ei ategu gan anfoneb neu dderbynneb. 4

Pan fydd person a awdurdodwyd yn gwneud taliad dros £200, rhaid iddo ddarparu:

  • yr anfoneb neu'r dderbynneb ategol
  • hysbysiad ei fod wedi gwneud y taliad

i'r person cyfrifol cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud y taliad. 5

Mae'r cyfreithiau hyn ar waith er mwyn sicrhau y gellir rheoli gwariant a'i gofnodi ac adrodd arno yn gywir.

Dylech sicrhau bod eich staff, eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Terfynau gwariant

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae terfynau ar faint y gallwch ei wario fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (UKPGE).

Mae terfynau ar: 

  • gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ym mhob rhan o'r DU
  • gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol

Rhaid priodoli'r holl wariant ymgyrchu a reoleiddir lle mae'n cael effaith: ar un neu fwy o rannau o'r DU ac un neu fwy o etholaethau. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wariant yn cyfrif tuag at derfyn ar gyfer rhan o'r DU a therfyn etholaethol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Priodoli eich gwariant.

Mae terfyn hefyd ar wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir y gellir yn rhesymol ei ystyried fel un y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid wleidyddol gofrestredig benodol neu unrhyw un o'i hymgeiswyr. Gelwir hyn yn wariant a dargedir.

Mae'r terfynau gwariant fel a ganlyn. Sylwch ein bod wedi talgrynnu'r terfynau hyn i'r bunt agosaf er hwylustod.

Terfynau ar wariant ym mhob rhan o'r DU

Y terfynau hyn yw:1

Rhan o'r DUTerfyn gwariant
Lloegr£586,548
Yr Alban£81,571
Cymru£54,566
Gogledd Iwerddon£39,443

Gwariant ar ymgyrchoedd ledled y DU

Cyfanswm cyfunol y terfynau gwariant ar gyfer pob rhan o'r DU yw £762,130. Fodd bynnag, oherwydd y ffordd y mae'r terfynau gwariant hyn yn gweithio, yr uchafswm y gallwch ei wario ar ymgyrchoedd ledled y DU yn unig yw £702,130. Byddai unrhyw wariant neu wariant pellach ledled y DU yn Lloegr yn mynd â chi dros y terfyn gwariant ar gyfer Lloegr.

Dim ond os oes gennych ymgyrchoedd ar wahân yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon lle nad oes angen priodoli unrhyw wariant ychwanegol i Loegr y gallwch gyrraedd cyfanswm cyfunol y terfynau gwariant ar gyfer pob rhan o’r DU.

Os ydych yn cynllunio ymgyrchoedd sylweddol ledled y DU a gweithgaredd ymgyrchu ychwanegol yn Lloegr, cysylltwch â ni am gyngor ar sut i gymhwyso'r rheolau priodoli i'ch ymgyrchoedd.

Terfynau ar wariant ym mhob etholaeth 

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU, ni all ymgyrchydd nad yw'n blaid wario mwy na £17,553 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol.2  Mae'r terfyn hwn yn berthnasol i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid, cyn i chi gyflwyno hysbysiad, a thra byddwch wedi cofrestru.

Mae’n drosedd gwario mwy na £17,553 mewn etholaeth yn ystod y cyfnod a reoleiddir.3  Os byddwch yn gwario mwy na'r terfyn etholaethol tra eich bod wedi cofrestru, bydd gofyn i chi gyflwyno adroddiadau rhoddion cyn y bleidlais ac adrodd ar eich gwariant a'ch rhoddion ar ôl yr etholiad.

Terfynau ar wariant a dargedir

O dan y gyfraith, mae terfynau hefyd ar faint y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau ei wario i gefnogi un blaid wleidyddol benodol neu ei hymgeiswyr yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Rhaid i chi beidio â mynd dros y terfynau gwariant cenedlaethol neu etholaethol, hyd yn oed os yw'r blaid wleidyddol yn eich awdurdodi i wario mwy na'r symiau hyn.

Terfynau pan nad yw plaid wleidyddol gofrestredig yn awdurdodi gwariant a dargedir

Os nad yw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr ydych am ddylanwadu ar bobl i bleidleisio drosti yn eich awdurdodi i fynd i swm o wariant ymgyrchu a dargedir, gallwch ond gwario hyd at y symiau canlynol (‘terfynau gwariant a dargedir’) ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir sy’n targedu plaid benodol yn ystod y cyfnod a reoleiddir:4

Rhan o'r DUTerfyn gwariant
Lloegr£58,654
Yr Alban£6,157
Cymru£3,456
Gogledd Iwerddon£1,944

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Gwariant a dargedir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2024

Priodoli eich gwariant

Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, mae gofynion cyfreithiol ynghylch sut y mae'n rhaid priodoli'ch gwariant i:

  • etholaethau seneddol
  • rhannau o'r DU

Cyfeiriwn at y rhain fel y ‘rheolau priodoli’. Diben y rheolau priodoli yw aseinio eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir i bob rhan o'r DU a phob etholaeth y mae'n cael effaith ynddi.

Mae'r gwariant a briodolir i bob rhan o’r DU yn cyfrif yn tuag at y terfyn gwariant ar gyfer y rhan honno. Mae'r gwariant a briodolir i bob etholaeth yn cyfrif yn tuag at y terfyn gwariant ar gyfer yr etholaeth honno. Bydd yr holl wariant yn cyfrif tuag at y terfynau ar gyfer o leiaf un rhan o'r DU ac o leiaf un etholaeth.

Yn gyntaf dylech nodi lle mae eich gwariant yn cael effaith. Gall ymgyrch gynnwys nifer o eitemau gwariant y mae eu heffaith wedi’i chyfyngu i etholaethau neu rannau penodol o’r DU. Er enghraifft, ymgyrch daflenni ar draws etholaethau lluosog lle gwyddoch faint sy'n cael ei wario ar ddosbarthu taflenni ym mhob etholaeth. Lle bo modd, dylech nodi a rhannu eitemau gwariant y mae eu heffaith wedi'i chyfyngu i feysydd ar wahân.

Yna mae'n rhaid i chi gymhwyso'r rheolau priodoli isod.

Etholaethau

Rhaid i chi rannu eich gwariant yn hafal rhwng yr holl etholaethau y mae’n cael effaith ynddynt.1  Er enghraifft, mae'n rhaid i chi briodoli gwariant ar ymgyrch ledled y DU yn hafal i bob un o’r 650 o etholaethau yn y DU.

Os ydych yn ymgyrchu ar draws un rhan o'r DU, mae'n rhaid i chi briodoli'r gwariant yn hafal i bob etholaeth yn y rhan honno.2  

Os gwariwch y terfyn cyfan ar ymgyrchu etholaethol mewn etholaeth benodol, byddwch yn torri'r terfyn gwariant ar gyfer etholaeth os byddwch wedyn yn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu arall a reoleiddir y mae'n rhaid ei briodoli i'r etholaeth honno.

Rhannau o'r DU

Rhaid i chi rannu eich gwariant rhwng y rhannau o’r DU y mae eich gwariant yn cael effaith ynddynt:

  • Os mai dim ond mewn un rhan o’r DU y mae eich gwariant wedi cael effaith, rhaid i chi ei briodoli i’r rhan honno.3
  • Os yw eich gwariant yn cael effaith mewn mwy nag un rhan o’r DU, rhaid i chi ei briodoli i bob rhan yn gymesur â faint o etholaethau sydd ym mhob rhan.4

Yr etholaethau a ddefnyddir yw'r rhai a fydd yn eu lle yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae nifer yr etholaethau ym mhob rhan o’r DU fel a ganlyn:

Rhan o'r DUNifer o etholaethau5
Lloegr543
Yr Alban57
Cymru32
Gogledd Iwerddon18
Cyfanswm650
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2024

Enghreifftiau o briodoli gwariant

Ymgyrchu yn un rhan o'r DU:

Er enghraifft, rydych yn gwario £35,000 ar gynhyrchu deunydd etholiadol ac yn ei ddosbarthu ledled Lloegr gyfan.

Gwariant ym mhob etholaeth

Gan fod y gwariant wedi cael effaith ar draws Lloegr gyfan, rhaid i chi briodoli’r gwariant i bob un o’r 543 o etholaethau yn Lloegr yn hafal:1

£35,000 ÷ 543 = £64.46

Rydych wedi gwario £64.46 tuag at y terfyn etholaethol o £17,553 ym mhob etholaeth yn Lloegr.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid i chi briodoli'r gwariant ar yr ymgyrch i'r rhan o'r DU y cafodd effaith ynddi. Gan mai dim ond yn Lloegr y cafodd y gwariant hwn effaith, rydych wedi gwario £35,000 tuag at y terfyn o £586,548 ar wariant a reoleiddir yn Lloegr.2

Ymgyrchu ar draws mwy nag un rhan o'r DU:

Esiampl 1

Er enghraifft, fel rhan o ymgyrch ehangach, rydych yn cynnal rali etholiadol yn Llundain a rali arall yng Nghaeredin ac yn gwario £30,000 ar bob rali. Mae pob rali yn canolbwyntio ar annog pleidleiswyr i gefnogi plaid yng nghyd-destun Lloegr a'r Alban yn y drefn honno ac wedi cael ei hysbysebu'n eang ledled y rhan benodol honno.

Gwariant ym mhob etholaeth

Er i’r ralïau gael eu cynnal mewn etholaeth benodol, mae’r gwariant yn cael effaith ar draws Lloegr a’r Alban gyfan. Felly, rhaid priodoli’r gwariant ar bob rali i bob etholaeth yn y rhan honno o’r DU. Rhaid i’r gwariant gael ei briodoli’n hafal i bob etholaeth y mae’n cael effaith ynddi:3

  • rhaid priodoli gwariant ar y rali yn Llundain yn hafal ar draws pob un o’r 543 o etholaethau ar draws Lloegr
  • rhaid priodoli gwariant ar y rali yng Nghaeredin yn hafal ar draws pob un o’r 57 o etholaethau ar draws yr Alban

Mae’n rhaid i chi wneud y cyfrifiadau canlynol:

Cyfran o’r gwariant a briodolwyd i bob un o’r 543 o etholaethau yn Lloegr:

£30,000 (gwariant ar y rali yn Llundain) ÷ 543 = £55.25

Cyfran o’r gwariant a briodolwyd i bob un o’r 57 o etholaethau yn yr Alban:

£30,000 (gwariant ar y rali yng Nghaeredin) ÷ 57 = £526.32

Rydych wedi gwario £55.25 tuag at y terfyn etholaethol o £17,553 ar gyfer pob etholaeth yn Lloegr a £526.32 tuag at y terfyn etholaethol ar gyfer pob etholaeth yn yr Alban.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid i’r gwariant ar bob rali gael ei briodoli i’r rhan (neu’r rhannau) o’r DU y cafodd effaith ynddi. Er bod y ralïau yn rhan o ymgyrch ehangach, dim ond yn Lloegr y cafodd y rali yn Llundain effaith, a dim ond yn yr Alban y cafodd y rali yng Nghaeredin effaith. Felly, rhaid i chi briodoli’r gwariant ar bob rali yn llawn i Loegr a’r Alban yn y drefn honno.4

Felly, rydych wedi gwario £30,000 tuag at y terfyn o £586,548 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yn Lloegr, a £30,000 tuag at y terfyn o £81,571 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yn yr Alban.

Esiampl 2

Er enghraifft, rydych yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n costio £20,000 gan dargedu pleidleiswyr yng Nghymru a Lloegr. Ni allwch nodi faint o’r gwariant sy’n cael effaith yng Nghymru neu Loegr; dim ond y ffigur cyfan sydd gennych.

Mae’r gwariant yn cael effaith ar draws Cymru a Lloegr ac felly mae’n rhaid ei briodoli i’r ddwy ran yn y DU yn gymesur â nifer yr etholaethau ym mhob rhan ac i’r holl etholaethau yng Nghymru a Lloegr yn hafal.5

Gan mai un ymgyrch yw hwn ar draws mwy nag un rhan o’r DU, rydym yn cyfrifo’r swm y dylid ei briodoli i bob etholaeth yn gyntaf cyn cyfrifo’r swm y gellir ei briodoli i bob rhan o’r DU.

Gwariant ym mhob etholaeth

Mae’r gwariant yn cael effaith ym mhob un o’r 543 o etholaethau yn Lloegr a’r 32 o etholaethau yng Nghymru – 575 o etholaethau yn gyfan gwbl.

Cyfran o’r gwariant a briodolwyd i bob un o’r 575 o etholaethau yng Nghymru a Lloegr:

£20,000 ÷ 575 = £34.78

Rydych wedi gwario £34.78 tuag at y terfyn etholaethol (£17,553) ym mhob un o’r etholaethau yng Nghymru a Lloegr.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid priodoli’r gwariant i bob rhan o’r DU y mae’n cael effaith ynddi, yn gymesur â nifer yr etholaethau ym mhob rhan.

Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio'r cyfrifiad canlynol:

Cyfanswm gwariant × (nifer yr etholaethau yn y rhan honno o’r DU ÷ cyfanswm nifer yr etholaethau y mae’r gwariant yn cael effaith ynddynt)

Swm y gwariant a briodolwyd i Loegr:

£20,000 × (543 ÷ 575) = £18,886.96

Swm y gwariant a briodolwyd i Gymru:

£20,000 × (32 ÷ 575) = £1,113.04

Rydych wedi gwario £18,886.96 tuag at y terfyn o £586,548 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yn Lloegr, a £1,113.04 tuag at y terfyn o £54,566 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru.

Ymgyrch ar draws y DU gyfan:

For example, your organisation carries out a UK-wide campaign encouraging voters to support parties who are in favour of a particular policy. You spend £75,000 on producing and distributing election material on social media. 

Gwariant ym mhob etholaeth

Mae’r gwariant yn cael effaith ar draws y DU gyfan. Mae'n rhaid i chi briodoli’r gwariant ar yr ymgyrch yn hafal i bob un o’r 650 o etholaethau yn y DU:6

£75,000 ÷ 650 = £115.38

Rydych wedi gwario £115.38 tuag at y terfyn o £17,553 ym mhob etholaeth.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid priodoli’r gwariant i bob rhan o’r DU yn gymesur â nifer yr etholaethau ym mhob rhan.7

Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio'r cyfrifiad canlynol:

Cyfanswm gwariant × (nifer yr etholaethau yn y rhan honno o’r DU ÷ cyfanswm nifer yr etholaethau y mae’r gwariant yn cael effaith ynddynt)

Yn yr enghraifft hon dyma:

Cyfran Lloegr o’r ymgyrch ledled y DU:

£75,000 × (543 ÷ 650) = £62,653.85

Cyfran yr Alban o’r ymgyrch ledled y DU:

£75,000 × (57 ÷ 650) = £6,576.92

Cyfran Cymru o’r ymgyrch ledled y DU:

£75,000 × (32 ÷ 650) = £3,692.31

Cyfran Gogledd Iwerddon o’r ymgyrch ledled y DU:

£75,000 × (18 ÷ 650) = £2,076.92

Bydd cyfran yr ymgyrchu ledled y DU a briodolir i bob rhan yn cyfrif yn erbyn y terfyn gwariant ar gyfer y rhan honno.  

Ymgyrchu mewn etholaeth unigol:

Os ydych yn ymgyrchu mewn un etholaeth, mae’n debygol mai ymgyrchu lleol fydd hyn. Mae hyn yn ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr mewn etholaeth benodol, neu ardal etholiadol arall. Os yw hyn yn berthnasol i'ch ymgyrch, dylech ddarllen ein canllawiau ar gyfer ymgyrchwyr lleol yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Os ydych yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr mewn un etholaeth, rhaid i chi briodoli’r gwariant ymgyrchu a reoleiddir sy’n cael effaith yn yr etholaeth honno i derfyn eich etholaeth yn yr etholaeth hon. Bydd y gwariant hwn hefyd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant yn y rhan o’r DU lle mae’r etholaeth.

Ymgyrchu mewn nifer o etholaethau yn un rhan o’r DU:

Er enghraifft, rydych yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n targedu pleidleiswyr ar draws 10 etholaeth yng Nghymru. Rydych chi’n gwario £5,000 ar yr ymgyrch hwn. Ni allwch nodi gwariant sydd ond yn cael effaith ym mhob etholaeth.

Gwariant ym mhob etholaeth

Mae’r gwariant yn cael effaith ar 10 etholaeth yng Nghymru. Mae'n rhaid i chi briodoli’r gwariant ar yr ymgyrch yn hafal i bob un o’r etholaethau:8   

£5,000 ÷ 10 = £500

Rydych wedi gwario £500 tuag at y terfyn etholaethol (£17,553) ym mhob un o’r 10 etholaeth a dargedwyd.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid i chi briodoli'r gwariant ar yr ymgyrch i'r rhan o'r DU y cafodd effaith ynddi. Gan mai dim ond yng Nghymru y cafodd y gwariant hwn effaith, rydych wedi gwario £5,000 tuag at y terfyn o £54,566 ar wariant a reoleiddir yng Nghymru.9

Ymgyrchu mewn nifer o etholaethau mewn mwy nag un rhan o’r DU:

Yn y rhan fwyaf o achosion, ar gyfer y math hwn o ymgyrch byddwch yn gallu nodi gwariant sy'n cael effaith naill ai ym mhob rhan o'r DU neu ym mhob etholaeth.   

Er enghraifft, rydych yn cynnal ymgyrch dosbarthu taflenni mewn pum etholaeth, dwy yng Nghymru a thair yn Lloegr. Rydych yn gwario £1,500 ar 2,000 o daflenni, yr ydych yn dosbarthu hanner ohonynt yng Nghymru a hanner yn Lloegr. Mae gwariant ar daflenni a ddosberthir yng Nghymru yn £750 ac yn Lloegr yn £750.

Gwariant ym mhob etholaeth

Mae’r gwariant ar y taflenni yng Nghymru yn cael effaith mewn dwy etholaeth yng Nghymru. Mae'n rhaid i chi briodoli’r gwariant ar yr ymgyrch yn hafal i bob un o’r etholaethau:10

£750 ÷ 2 = £375

Mae’r gwariant ar y taflenni yn Lloegr yn cael effaith mewn tair etholaeth yn Lloegr. Mae'n rhaid i chi briodoli’r gwariant ar yr ymgyrch yn hafal i bob un o’r etholaethau:

£750 ÷ 3 = £250

Rydych wedi gwario £375 tuag at y terfyn etholaethol (£17,553) ym mhob un o’r etholaethau yng Nghymru a Lloegr a £250 tuag at y terfynau ym mhob un o’r etholaethau yn Lloegr.

Gwariant ym mhob rhan o'r DU

Rhaid i chi briodoli'r gwariant ar yr ymgyrch i'r rhan o'r DU y cafodd effaith ynddi. Dim ond yng Nghymru y cafodd y taflenni a ddosbarthwyd yng Nghymru effaith, a dim ond yn Lloegr y cafodd y taflenni a ddosbarthwyd yn Lloegr effaith. Felly, rhaid i chi briodoli’r gwariant ar gyfer pob set o daflenni i Gymru a Lloegr, yn y drefn honno.11

Rydych wedi gwario £750 tuag at y terfyn o £54,566 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru, a £750 tuag at y terfyn o £586,548 ar wariant ymgyrchu a reoleiddir yn Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2024

Gwariant tybiannol

Mae'r adran hon yn trafod gwariant tybiannol, lle byddwch yn defnyddio unrhyw eitemau, nwyddau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim, neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Mae'n rhoi manylion am y senarios lle caiff y gwariant hwn ei reoleiddio a chanllawiau ar brisio'r gwariant hwn ac adrodd arno yn eich ffurflen. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth yw gwariant tybiannol?

Weithiau gall ymgyrchwyr di-blaid ddefnyddio eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau yn eu hymgyrch nad oedd rhaid iddyn nhw wario arian arnyn nhw, am fod yr eitem neu’r gwasanaethau wedi’u darparu fel budd mewn da, am ddim, neu am ddisgownt anfasnachol.

Yr enw ar hyn yw ‘gwariant tybiannol’.

Beth yw gwariant tybiannol?

Gallwch fynd i wariant tybiannol o dan amgylchiadau pan fyddwch yn defnyddio unrhyw eitemau, nwyddau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim, neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Os caiff unrhyw rai o'r pethau hyn eu defnyddio i'ch helpu i ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, gall gwerth yr hyn rydych yn ei ddefnyddio gyfrif tuag at eich terfyn gwariant ac mae'n bosibl y bydd angen adrodd arno yn eich ffurflen gwariant. Yn unol â'r gyfraith, dim ond trafodion sy'n bodloni meini prawf penodol gaiff eu trin fel gwariant tybiannol.

Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae gwariant tybiannol yn gymwys, sef gostyngiadau arbennig a roddir i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol.

Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?

Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?

Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?

Bydd eitemau neu wasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan neu ar ran ymgyrchydd di-blaid yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:

  • os darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o’r gyfradd fasnachol at ddibenion neu er budd yr ymgyrchydd di-blaid, neu yn achos trosglwyddiad eiddo os yw’n cael ei drosglwyddo am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o’r gwerth ar y farchnad1  
  • os yw’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng yr hyn a ddarperir a’r hyn sy’n cael ei dalu gan yr ymgyrchydd di-blaid yn fwy na £2002  
  • os cânt eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid, ac
  • os byddai’r treuliau wedi bod yn wariant a reolir pe baen nhw wedi cael eu hachosi gan neu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid mewn perthynas â’r defnydd hwnnw.3

Dim ond os yw’r defnydd hwnnw’n cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgyrchydd di-blaid neu’r person cyfrifol y mae’r eitemau neu’r gwasanaethau yn cael eu defnyddio ar ran yr ymgyrchydd di-blaid.4

Rhaid i’r ymgyrchydd di-blaid gofnodi’r ddau beth a ganlyn: 

  • gwerth y gwariant tybiannol
  • y cyfanswm a dalwyd.

Ni fydd eitemau neu wasanaethau yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:

  • os cawson nhw eu derbyn am ddisgownt o 10% neu lai, neu
  • os yw gwerth y disgownt yn £200 neu lai.

Rhoddion

Rhoddion

Rhoddion

Rhaid i’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau gael eu darparu neu eu trosglwyddo’r i’r ymgyrchydd di-blaid er mwyn cael eu trin fel gwariant tybiannol.

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r ymgyrchydd di-blaid.

Rhaid i’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gwerth ar y farchnad neu’r gyfradd fasnachol a’r pris a dalwyd, os talwyd pris o gwbl, gael ei drin yn unol â’r cyfreithiau ar roddion i ymgyrchwyr di-blaid ac efallai y bydd angen cyflwyno adroddiad arno i’r Comisiwn.

Rhoddion

Bydd gwariant tybiannol â gwerth o fwy na £500 hefyd yn rhodd i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid. Gweler Sut i brisio rhodd? i gael rhagor o wybodaeth am roddion anariannol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Prisio gwariant tybiannol ac adrodd arno

Sut rydych yn prisio gwariant tybiannol?

Er mwyn cyfrifo gwerth gwariant tybiannol, ac asesu a yw rhywbeth yn wariant tybiannol, mae'n rhaid i chi gyfrifo yn gyntaf y gyfradd fasnachol neu werth masnachol yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth a gawsoch. Mae'r gyfradd masnachol neu'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.1

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth yr eitemau, y nwyddau neu'r gwasanaeth a gawsoch. Dylech gadw cofnod o'r modd y daethoch i'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a gewch.

Os yw'r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Fel arall, os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau marchnad opsiwn cyfatebol rhesymol.

Pa wariant tybiannol y mae angen adrodd arno?

Pan fo eitem yn cael ei thrin fel gwariant tybiannol, rhaid i ‘swm priodol’ gael ei adrodd gan yr ymgyrchydd di-blaid fel gwariant a reolir.

Pan fo’r gwariant tybiannol yn eiddo sydd wedi’i drosglwyddo i’r ymgyrchydd di-blaid, y swm priodol yw’r gyfran y mae’n rhesymol ei phriodoli i ddefnyddio’r eitem, o blith naill ai:

  • ei gwerth ar y farchnad (pan gaiff ei throsglwyddo’n rhad ac am ddim), neu
  • werth y disgownt.2

Pan fo’r gwariant tybiannol yn eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddefnyddir gan yr ymgyrchydd di-blaid, y swm priodol yw’r gyfran y mae’n rhesymol ei phriodoli i ddefnyddio’r eitem, o blith naill ai:

  • y gyfradd fasnachol (pan gaiff ei darparu yn rhad ac am ddim), neu 
  • y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol am eitem neu wasanaeth a’r pris a dalwyd mewn gwirionedd gan yr ymgyrchydd di-blaid.3

Gweithio gyda phleidiau gwleidyddol cofrestredig

Gall ymgyrchwyr di-blaid hefyd weithio gyda phlaid wleidyddol gofrestredig, a darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn rhad ac am ddim neu am ddisgownt anfasnachol.

Os bydd y blaid wleidyddol gofrestredig yn defnyddio’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn ystod ei hymgyrch, rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol ar ran y blaid wleidyddol.4  Bydd hyn hefyd yn cael ei drin fel rhodd gan yr ymgyrchydd di-blaid i’r blaid wleidyddol.5

Rhaid i’r blaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiad ar hyn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid.

Ni fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd di-blaid a rhaid peidio â’i gofnodi yn ffurflen gwariant yr ymgyrchydd di-blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Enghreifftiau o wariant tybiannol

Eitemau a geir am ddim

Cewch swyddfeydd y gallwch redeg eich ymgyrch ohonynt am ddim, a ddefnyddiwch am dri allan o'r pedwar mis o'r cyfnod a reoleiddir.

Mae'n rhaid i chi adrodd ar swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd a wnaed o'r swyddfa:

  • Cost arferol rhent fesul mis ar gyfer y swyddfa: £1,200
  • Y swm a godwyd arnoch: £0
  • Gwariant tybiannol y dylid adrodd arno: £3,600 (3 × £1,200)

Eitemau a roddir am bris gostyngol

Yn yr achos pan fyddwch wedi cael eitem, nwyddau neu wasanaeth am ostyngiad masnachol, rhaid adrodd ar werth y gostyngiad fel gwariant tybiannol ac adrodd ar y swm a delir gennych fel taliad gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid. Cyfanswm y ddau werth fydd cyfanswm gwerth yr eitem.

Er enghraifft, rydych yn cael gwasanaethau ymgynghori ar gyfer ymgyrchu am gyfradd ostyngol anfasnachol. Mae'r darparwr yn cynnig gostyngiad o 15% oddi ar y gyfradd y mae'n ei chodi ar gleientiaid eraill ac rydych yn defnyddio ei wasanaethau yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Mae'n rhaid i chi adrodd ar swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd a wnaed o'r gwasanaethau ymgynghori:

  • Cyfradd fasnachol am y gwasanaethau ymgynghori: £8,000
  • Swm a godwyd arnoch ac y dylid adrodd arno fel taliad a wnaed gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid: £6,800 (£8,000 - £1,200)
  • Gwariant tybiannol y dylid adrodd arno: £1,200 (£8,000 × 0.15)

Staff ar secondiad

Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwerth tybiannol.

Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Ymgyrchu ar y cyd

Gall ymgyrchwyr di-blaid benderfynu cydweithio ar ymgyrch. Pan fo’r ymgyrchwyr di-blaid yn cydweithio ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir, fe all y rheolau ar ymgyrchu ar y cyd fod yn gymwys.

Mae’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd yn gymwys i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig ac ymgyrchwyr di-blaid sydd heb eu cofrestru.1  

Ymgyrchu ar y cyd

Mae cyfreithiau penodol yn gymwys pan fyddwch am gydweithio ag ymgyrchydd arall nad yw'n blaid fel rhan o ymgyrch ar y cyd. Pan fyddwch yn gwario arian fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gall y gwariant hwnnw gyfrif tuag at derfynau pob ymgyrchydd dan sylw. Diben hyn yw atal pobl rhag osgoi'r terfynau gwariant drwy gydgysylltu sawl ymgyrch ar yr un pryd.

Gallwch ddewis gweithio gydag un ymgyrchydd neu fwy ar ymgyrch ar y cyd, efallai er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch gyffredinol yn fwy effeithiol.

Mae'r cyfreithiau yn nodi terfynau gwariant a threfniadau adrodd sy'n gymwys os byddwch chi neu ymgyrchydd rydych yn gweithio gydag ef yn gwario arian ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, fel rhan o gynllun neu drefniant cydgysylltiedig. Gelwir y rhain yn rheolau ‘ymgyrchu ar y cyd’.

Mae'r adran hon yn nodi egwyddorion ymgyrchu ar y cyd, sut y gellir strwythuro'r ymgyrchoedd hyn a sut y dylid cyfrif am wariant ar ymgyrchoedd ar y cyd ac adrodd arno.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Beth yw ymgyrchu ar y cyd?

Mae ymgyrchydd di-blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd pan fo’r amgylchiadau a ganlyn i gyd yn bresennol:

  • pan fydd yn ymuno â chynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr di-blaid eraill
  • pan fydd pob ymgyrchydd di-blaid dan sylw yn bwriadu achosi gwariant a reolir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant hwnnw
  • pan fydd un neu fwy o’r ymgyrchwyr di-blaid dan sylw yn wirioneddol yn achosi gwariant a reolir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant, a 
  • phan fo’n rhesymol ystyried bod y cynllun neu’r trefniant hwnnw’n un sy’n bwriadu cyflawni diben cyffredin.1

Beth yw ymgyrchu ar y cyd?

Ni allwch fynd i wariant ar y cyd os nad ydych yn bwriadu gwario arian – er enghraifft os bydd gwaith yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr.

Rydym yn cydnabod y gall ymgyrchwyr fod wedi dod ynghyd i ymgyrchu mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ac y gall y ffyrdd y mae ymgyrchwyr yn rhyngweithio ag ymgyrchwyr eraill newid yn ystod ymgyrch.

Os ydych yn ystyried dechrau ymgyrch ar y cyd a hoffech gael cyngor, neu rydych yn ansicr a ydych chi ac ymgyrchydd arall yn cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Egwyddorion allweddol ymgyrchu ar y cyd

Rhaid bod yna fwy nag un ymgyrchydd di-blaid

Ni fydd sefydliad ymbarél presennol sy’n gwneud penderfyniadau am ei weithgaredd ymgyrchu yn annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd oni bai ei fod yn ymuno â chynllun neu drefniant gydag ymgyrchwyr di-blaid eraill lle maen nhw i gyd yn bwriadu achosi gwariant a reolir, p'un a fwriedir i'r gwariant hwnnw gael ei achosi gan, neu ar ran, pob ymgyrchydd di-blaid.

Nid ymgyrchu ar y cyd yw ffurfio sefydliad newydd sy’n cynnwys grŵp o sefydliadau eraill ac yna yn gwario arian.

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn y bydd gwariant a reolir yn cael ei achosi er mwyn cyflawni’r diben cyffredin

Os nad oes bwriad i achosi gwariant, does dim ymgyrchu ar y cyd. Er enghraifft, os cytunir y bydd yr holl weithgaredd yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ni fydd unrhyw wariant yn cael ei achosi ac ni fydd yna ymgyrchu ar y cyd.

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn ynghylch rhychwant a diben yr ymgyrch

Nid ymgyrchwyr ar y cyd yw ymgyrchwyr di-blaid sy’n digwydd ymgyrchu ar faterion tebyg neu berthynol.

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn rhwng yr ymgyrchwyr di-blaid y bydd pob un ohonynt yn achosi gwariant a reolir er mwyn cyflawni’r diben cyffredin, p'un a fwriedir i'r gwariant hwnnw gael ei achosi gan, neu ar ran, yr ymgyrchydd di-blaid dan sylw.

Bydd yr holl wariant a reolir a achosir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant yn dod o fewn y rheolau ymgyrchu ar y cyd.

Mae ymgyrchu ar y cyd yn fwy na 

  • throsglwyddo neu fenthyg eitemau i ymgyrchydd arall, neu
  • ddarparu arian i ymgyrchydd arall

Rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol neu rodd a’i drin yn unol â’r rheolau priodol.

Hyd yn oed os nad yw un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn achosi eu cyfran nhw o’r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a achoswyd yn dal yn ymgyrchu ar y cyd ac mae’n rhaid iddo gael ei adrodd gan bob ymgyrchydd di-blaid.

Nid yw unrhyw wariant a reolir sy’n cael ei achosi gan ymgyrchydd di-blaid sy’n mynd y tu hwnt i’r cynllun neu’r trefniant y cytunwyd arno neu a achosir y tu allan iddynt, yn rhan o’r ymgyrch ar y cyd ond fe fydd yn dal i gyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd di-blaid sy’n achosi’r gwariant.

Dim ond gwariant y cytunwyd arno fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd sy’n cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr eraill nad oedden nhw’n rhan o’r cynllun ar y cyd.

Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd

Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd

Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd

Mae ymgyrchwyr di-blaid sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw’n gynhwysfawr, yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:

  • ymgyrch hysbysebu ar y cyd, boed yn ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill, sy’n cynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd
  • ymgyrch gydlynol; er enghraifft pan gytunir pa ardaloedd i’w cynnwys, pa faterion i’w codi neu ba bleidleiswyr i’w targedu
  • gweithio ar y cyd pan fo un blaid yn cael rhoi feto neu’n gorfod rhoi cymeradwyaeth i ddeunydd plaid arall.

Enghraifft

Enghraifft

Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar dargedu pleidleiswyr gogwydd mewn etholaethau ymylol ac mae'r ail ymgyrch yn ceisio annog y cyhoedd i gefnogi ymgeiswyr a phleidiau sydd o blaid mabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau'r DU yn unig.

Yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y DU, mae'r ddau ymgyrchydd yn penderfynu lansio ymgyrch gyda'i gilydd gyda'r nod o hyrwyddo pleidiau sydd o blaid cynrychiolaeth gyfrannol. At ddiben yr enghraifft hon, mae'r ymgyrch arfaethedig yn cynnwys gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Mae'r ddau yn codi £1,000 gyda'r bwriad o wario'r arian hwn gyda'i gilydd ar yr ymgyrch.

Maent yn cynllunio'r ymgyrch drwy gytuno ar bum nod allweddol ac amserlen ar gyfer yr ymgyrch, sy'n cynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ar lwyfan y ddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb y maent yn eu cynnal gyda'i gilydd. Mae'r timau y tu ôl i'r ymgyrchoedd yn cytuno ar gynnwys y deunydd cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd

Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd

Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd

Nid yw ymgyrchwyr di-blaid sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw’n gynhwysfawr, yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd: 

  • cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i’ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb unrhyw ymrwymiad ariannol neu ymwneud pellach
  • ychwanegu’ch llofnod i lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr di-blaid eraill heb unrhyw ymrwymiad ariannol
  • siarad am ddim mewn digwyddiad a drefnir gan ymgyrchydd di-blaid arall heb unrhyw ymrwymiad ariannol
  • cynnal trafodaethau am feysydd sydd o ddiddordeb cyffredin heb gydlynu gweithgaredd ymgyrchu
  • nid ymgyrchu ar y cyd yw rhoi rhodd i ymgyrchydd di-blaid arall. Gweler yr adrannau ar wariant tybiannol a rhoddion.

Enghreifftiau

Enghraifft A

Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Nod y ddau sefydliad yw annog pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol.

Mae'r sefydliad cyntaf yn creu deiseb lle mae'n gofyn i bobl ychwanegu eu henw er mwyn galw ar Senedd y DU i fabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol. Mae'n gofyn i'r ail sefydliad lofnodi'r ddeiseb a'i rhannu â'i gefnogwyr. Ar ôl i'r ddeiseb gau, mae hefyd yn gofyn i'r ail sefydliad ychwanegu ei enw at lythyr agored y bydd yn ei roi mewn papurau newydd sy’n galw ar bleidleiswyr i gefnogi pleidiau o blaid systemau pleidleisio amgen yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod.

Yn y sefyllfa hon, er bod y llythyr agored yn weithgaredd a reoleiddir, nid yw'r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant gyda'i gilydd ac nid oes bwriad i’r ddau ymgyrchydd fynd i wariant. Felly, nid yw hyn yn ymgyrchu ar y cyd.

Enghraifft B

Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar dargedu pleidleiswyr gogwydd mewn etholaethau ymylol ac mae'r ail ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fanteision cynrychiolaeth gyfrannol.

Ar ôl i is-etholiad gael ei alw mewn etholaeth ymylol, mae'r sefydliad cyntaf yn trefnu digwyddiadau yn yr etholaeth er mwyn cyrraedd pleidleiswyr. Mae'n gofyn i'r ail sefydliad siarad yn un o'r digwyddiadau a hyrwyddo'r digwyddiadau ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Nid oes ymrwymiad ariannol rhwng y sefydliadau nac unrhyw wariant cydgysylltiedig. Nid ymgyrchu ar y cyd yw hyn.

Enghraifft C

Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu polisïau penodol ar newid hinsawdd. Mae’r sefydliad cyntaf yn galw ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi ymrwymo i’r materion a nodwyd ganddynt, ac mae’r sefydliad yn gofyn i’r ail sefydliad rannu ei ddeunydd a hyrwyddo ei ymgyrch ar X/Twitter a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae’r ail sefydliad yn cytuno i gyhoeddi gwaith y sefydliad cyntaf ond nid yw’n mynd i unrhyw wariant cydgysylltiedig nac yn cynnal unrhyw ymgyrchu a reoleiddir.

Yn y sefyllfa hon, mae'r sefydliad cyntaf yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Rhaid i'r ail sefydliad asesu a ydynt wedi gwario unrhyw arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Er bod yr ail sefydliad wedi rhannu deunydd etholiadol y sefydliad cyntaf â’u dilynwyr, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun neu drefniant i fynd i wariant ar ymgyrchu a reoleiddir gyda’i gilydd. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.

Enghraifft D

Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch sy'n annog pleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi addo cyflwyno deddfau i amddiffyn tenantiaid. Mae’n nodi ymgyrchwyr ac elusen sydd â nodau cyffredin ac yn hyrwyddo'r sefydliadau hyn i'w gefnogwyr ac yn gyhoeddus ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn rhoi rhodd i un o'r ymgyrchwyr eraill sy'n cefnogi tenantiaid.

Yn y sefyllfa hon, mae'r sefydliad yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Hyd yn oed os yw'r sefydliadau eraill y maent wedi'u hyrwyddo hefyd yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes unrhyw ymrwymiad ariannol na gwariant cydgysylltiedig rhwng unrhyw un o'r ymgyrchwyr.

Yn ogystal, nid yw rhodd yn golygu bod ymgyrchwyr yn gweithio (neu'n gwario arian) gyda'i gilydd. Byddai'n ofynnol i bob sefydliad asesu'n unigol a ydynt yn gwario arian ar unrhyw weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mai 2024

Sefydlu sefydliad newydd

Os ydych yn gweithio gyda nifer o ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau, mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu llunio corff neu sefydliad newydd i gynnal ymgyrch. Gallai'r corff newydd fod yn gwmni, yn elusen neu'n gymdeithas anghorfforedig.

Ar yr amod bod y corff newydd yn gorff ar wahân ac annibynnol ar y sefydliadau a'i creodd, yna caiff y corff ei drin fel sefydliad gwahanol i'r ymgyrchwyr a greodd y corff newydd. Fel sefydliad, mae'n rhaid i'r corff newydd allu gwneud penderfyniadau yn annibynnol. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os bydd aelodau'r sefydliadau a greodd y corff newydd yn rhan o'i strwythur rheoli.

Ni fydd gweithgarwch ymgyrchu'r corff newydd yn rhan o gynllun ar y cyd, oni fydd y sefydliad newydd yn gweithio gydag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau. Nid yw gwneud rhodd i'r corff newydd yn gyfystyr ag ymgyrchu ar y cyd.

Os bydd y sefydliad newydd yn gwario neu'n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i ni a dilyn y cyfreithiau ar roddion, gwariant ac adrodd. Gweler Pryd y mae'n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn? am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Eich ymgyrch ar y cyd – gwariant ac adrodd

Sut y gellir strwythuro ymgyrchoedd ar y cyd 

Mae ffyrdd gwahanol o strwythuro eich ymgyrch ar y cyd:

  • gallwch fod yn gweithio gydag ymgyrchwyr eraill fel ‘ymgyrchydd cyffredin ar y cyd’
  • gallwch fod yn rhan o ymgyrch ar y cyd naill ai fel ‘prif ymgyrchydd’ neu ‘fân ymgyrchydd’. Galwn ymgyrch â phrif ymgyrchydd yn ‘brif ymgyrch’
  • gallai eich ymgyrch ar y cyd fod yn gyfuniad o'r ddau 

Gall y ffordd rydych yn strwythuro eich ymgyrch ar y cyd effeithio ar ba wariant sy'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a'r hyn sydd gennych i adrodd arno. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Ymgyrchoedd cyffredin ar y cyd

Pan geir ymgyrch ar y cyd, mae’r holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd honno yn cyfrif tuag at derfyn gwariant pob un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd. 

Ymgyrchoedd cyffredin ar y cyd

Os bydd ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o ymgyrch ar y cyd heb brif ymgyrchydd, galwn hynny'n ‘ymgyrch gyffredin ar y cyd’.

Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid mewn ymgyrch gyffredin ar y cyd, mae'n rhaid i chi gofnodi'r gwariant cyfunol a reoleiddir ar yr ymgyrch ar y cyd gan y bydd yn cyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw'n blaid dan sylw, gan gynnwys chi eich hun.
 
Pe baech am wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ledled y DU, gan gynnwys ymgyrchu ar y cyd, mae'n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn Etholiadol.

Os na fyddwch yn cyflwyno hysbysiad, ni allwch wario mwy na £10,000 yn ystod cyfnod a reoleiddir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ar ymgyrchu ar y cyd gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd.

Os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid sy'n ymwneud ag ymgyrch ar y cyd ac rydych yn gwario mwy na'r trothwyon adrodd, mae'n rhaid i chi adrodd ar eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes rhaid i chi adrodd ar wariant eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd, ond mae'r gwariant hwnnw yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir. Dylech adrodd ar gyfanswm yr hyn y gwnaeth eich partneriaid ei wario ar yr ymgyrch ar y cyd.

Enghraifft

Rydych chi ac ymgyrchydd arall nad yw'n blaid yn cytuno i wario £8,000 ar ymgyrch gyffredin ar y cyd yn yr Alban. Felly, caiff cyfanswm o £16,000 ei wario ar yr ymgyrch ar y cyd.
 
Mae'n rhaid i'r ddau ohonoch gyfrif £16,000 tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir. 

Gan fod y cyfanswm hwn dros £10,000, sef y trothwy hysbysu ledled y DU a'r trothwy adrodd yn yr Alban, mae'n rhaid i chi a'r ymgyrchydd arall gyflwyno hysbysiadau i'r Comisiwn cyn gwario dros y swm hwn. Gan eich bod yn bwriadu gwario dros y trothwy adrodd, ni all yr hysbysiadau gynnwys y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd.

Mae'n rhaid i bob ymgyrchydd adrodd ar ei wariant ei hun yn ei ffurflen gwariant. Dylai pob ymgyrchydd hefyd adrodd ar gyfanswm gwariant ei bartner ymgyrchu ar y cyd.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Prif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Pan geir ymgyrch ar y cyd, gall un o’r ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig gytuno i gyflwyno adroddiad ar yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd gan bob un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd.

Mae’r ymgyrchydd di-blaid cofrestredig sy’n cytuno i adrodd am holl wariant yr ymgyrch ar y cyd yn cael ei adnabod fel y prif ymgyrchydd.1  Mae ymgyrchydd di-blaid y mae ei wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei adrodd gan brif ymgyrchydd yn cael ei adnabod fel mân ymgyrchydd.2

Pan fo grŵp o ymgyrchwyr yn gwario ar y cyd dros y trothwy hysbysu ond nad yw rhai o’r ymgyrchwyr hynny’n cyrraedd y trothwy hysbysu, mae’r cyfreithiau ynghylch prif ymgyrchwyr/mân ymgyrchwyr yn caniatáu i un ymgyrchydd, sef y prif ymgyrchydd, gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac adrodd yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Does dim rhaid i’r mân ymgyrchwyr gyflwyno hysbysiad.

Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Bydd yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, boed gan y prif ymgyrchydd neu’r mân ymgyrchydd/ymgyrchwyr, yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y prif ymgyrchydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.3  

Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Os ydych yn brif ymgyrchydd, bydd eich gwariant chi ac unrhyw wariant gan eich mân ymgyrchwyr fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant chi yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Galwn fân ymgyrchwyr sydd wedi cytuno i chi adrodd ar eu rhan yn ‘eich mân ymgyrchwyr’.

Mae'n rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru, ond ni all mân ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru.

Os ydych yn fân ymgyrchydd, yna nid yw unrhyw wariant ar y brif/mân ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant. Mae hyn yn gymwys i'r canlynol: 

  • eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd
  • gwariant y prif ymgyrchydd ar yr ymgyrch ar y cyd
  • gwariant unrhyw fân ymgyrchydd arall ar yr ymgyrch ar y cyd

Felly, ar gyfer cyfanswm eich gwariant eich hun, dim ond y canlynol y mae angen i chi ei gyfrif:

  • eich gwariant eich hun y tu allan i unrhyw ymgyrch ar y cyd 
  • unrhyw wariant gan eich partneriaid mewn ymgyrch gyffredin ar y cyd 

Gwariant gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Er mwyn penderfynu a yw mân ymgyrchydd yn cyrraedd y trothwy hysbysu neu’r trothwy adrodd, rhaid peidio â chynnwys gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd wrth benderfynu ar y terfynau:

  • os yw’r gwariant yn rhan o ymgyrch ar y cyd sydd wedi’i hysbysu i’r Comisiwn (ac os felly bydd gwariant y mân ymgyrchwyr ar yr ymgyrch ar y cyd yn cael ei drin fel pe bai wedi’i achosi gan y prif ymgyrchydd a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y prif ymgyrchydd), ac
  • os yw’r ymgyrchydd di-blaid yn fân ymgyrchydd pan fo’n achosi’r gwariant, ac
  • os yw cyfanswm y gwariant gan yr ymgyrchydd di-blaid, ac eithrio unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, yn llai na’r trothwyon adrodd.4  

Adroddiadau gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Mae hyn yn golygu y gall mân ymgyrchwyr barhau i fod yn anghofrestredig, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd pan fo cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd dros y trothwy hysbysu.

Adroddiadau gan brif ymgyrchwyr a mân ymgyrchwyr

Os mai chi yw'r prif ymgyrchydd, mae'n rhaid i chi adrodd ar y canlynol:

  • eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd 
  • unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd gan eich mân ymgyrchwyr 
  • unrhyw wariant arall a reoleiddir yr aethoch iddo ar wahân i'r ymgyrch ar y cyd.

Mae'n rhaid i'ch ffurflen gwariant hefyd gynnwys derbynebau neu anfonebau ar gyfer unrhyw wariant dros £200 yr aed iddo gennych chi a'ch mân ymgyrchwyr.5

Mae hyn yn golygu y dylech ofyn i'ch holl fân ymgyrchwyr:

  • roi gwybod i chi faint maent wedi'i wario ar yr ymgyrch ar y cyd ym mhob rhan o'r DU
  • rhoi derbynebau ac anfonebau i chi ar gyfer unrhyw wariant dros £200 ar yr ymgyrch ar y cyd

Os ydych yn fân ymgyrchydd, ac rydych yn gwario hyd at £10,000 (y trothwy hysbysu), a'r terfyn etholaethol, ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad ydynt yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar y cyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, nid oes rhaid i chi gyflwyno hysbysiad nac adrodd ar unrhyw wariant gennych.

Y prif ymgyrchydd sy'n gyfrifol am adrodd ar eich gwariant ar y cyd i ni. Er mwyn galluogi'r prif ymgyrchydd i adrodd yn llawn ar yr ymgyrchu ar y cyd, dylech:

  • gytuno â'r holl ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd faint y gallwch ei wario
  • dweud wrth eich prif ymgyrchydd faint rydych wedi'i wario ym mhob rhan o'r DU
  • dweud wrth eich prif ymgyrchydd faint rydych wedi'i wario ym mhob etholaeth
  • darparu derbynebau ac anfonebau ar wariant ar ymgyrchu a reoleiddir sydd dros £200 i'ch prif ymgyrchydd

Enghraifft

Mae Save the Rivers a thri ymgyrchydd arall yn penderfynu cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd yng Nghymru. Mae pob un wedi cytuno y bydd pob un yn gwario £9,000 ar yr ymgyrch ar y cyd. Mae Save the Rivers hefyd yn bwriadu gwario £5,000 ychwanegol ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad ydynt yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar y cyd. Nid yw'r tri ymgyrchydd arall yn gwario unrhyw arian arall ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Y trothwy adrodd ar gyfer gwariant yng Nghymru yw £10,000. Gan y bydd cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn £36,000 (sydd dros y trothwy adrodd), os caiff yr ymgyrch hon ei rhedeg fel ymgyrch gyffredin ar y cyd yna bydd angen i'r pedwar ymgyrchydd gofrestru ac adrodd ar y gwariant yn unigol.

Gan mai Save the Rivers sy'n bwriadu gwario'r swm mwyaf o arian ar ymgyrchu, ac i leihau'r baich rheoliadol ar y tri ymgyrchydd arall, mae'n penderfynu bod yn brif ymgyrchydd. Cyn yr eir i unrhyw wariant, mae'n cyflwyno hysbysiad heb ddatganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd. Nid yw Save the Rivers yn gwneud y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd gyda'i hysbysiad gan fod cyfanswm bwriadedig ei wariant a reoleiddir (£41,000 sy'n cynnwys cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd, sef £36,000, yn ogystal â'i wariant ei hun ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, sef £5,000) yn uwch na'r trothwy adrodd.

Mae Save the Rivers hefyd yn hysbysu'r Comisiwn mai ef yw'r prif ymgyrchydd, ac mai mân ymgyrchwyr yn yr ymgyrch ar y cyd yw'r tri ymgyrchydd arall.

Gan fod y tri ymgyrchydd arall wedi cael eu hysbysu fel mân ymgyrchwyr ac, y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd nid ydynt wedi mynd dros y trothwy hysbysu (£10,000) na'r terfyn etholaethol, nid oes angen iddynt gyflwyno hysbysiad i ni nac adrodd ar eu gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd.

Fel y prif ymgyrchydd, mae'n rhaid i Save the Rivers adrodd ar werth £36,000 o wariant, sef cyfanswm ei wariant a gwariant y tri mân ymgyrchydd ar yr ymgyrch ar y cyd ar ôl yr etholiad. Mae'n rhaid iddo hefyd adrodd ar y £5,000 ychwanegol y mae'n ei wario y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd.

Mae'r tri mân ymgyrchydd yn rhoi manylion i Save the Rivers am y gwariant, ynghyd â derbynebau ac anfonebau ar gyfer unrhyw wariant yr aethant iddo dros £200, fel y gall gynnwys y wybodaeth hon yn y ffurflen.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Sut i ddod yn brif ymgyrchydd neu'n fân ymgyrchydd

Rhaid i ymgyrchydd di-blaid sy’n rhan o ymgyrch ar y cyd ac sy’n cytuno i adrodd am holl wariant yr ymgyrch ar y cyd:

  • hysbysu’r Comisiwn eu bod yn rhan o ymgyrch ar y cyd, ac mai nhw fydd y prif ymgyrchydd, a 
  • hysbysu’r Comisiwn am y mân ymgyrchwyr sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd. 

    Mae ymgyrchydd di-blaid yn cael hysbysu’r Comisiwn o’u statws fel prif ymgyrchydd, neu am y mân ymgyrchwyr sy’n cymryd rhan, unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod a reoleiddir.92

Sut i ddod yn brif ymgyrchydd neu'n fân ymgyrchydd

Nid oes terfyn ar nifer y prif ymgyrchwyr mewn ymgyrch ar y cyd. Hefyd, nid oes terfyn ar nifer y mân ymgyrchwyr all weithio gydag unrhyw brif ymgyrchydd mewn ymgyrch ar y cyd. Fodd bynnag, ni all mân ymgyrchydd hefyd fod yn brif ymgyrchydd yn yr un ymgyrch.

Mae'n rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru, ond ni all mân ymgyrchwyr fod wedi'u cofrestru.
 
Os bydd mân ymgyrchydd yn cyflwyno hysbysiad (er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gwario £10,000 o'i wariant a reoleiddir ei hun y tu allan i'r ymgyrch ar y cyd) ni fydd yn fân ymgyrchydd mwyach. Bydd unrhyw ymgyrch ar y cyd y mae'n rhan ohoni, gyda phrif ymgyrchydd neu gydag unrhyw fân ymgyrchwyr eraill, yn dychwelyd i fod yn ymgyrch gyffredin ar y cyd.

Dylech ddefnyddio Ffurflen TP7: Hysbysiad o Brif Ymgyrchydd, i roi gwybod i ni fod prif ymgyrchydd wedi'i benodi ac i roi gwybod am unrhyw fân ymgyrchwyr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Gwariant a dargedir

O dan y gyfraith, mae cyfyngiadau ar faint y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau ei wario i gefnogi un blaid wleidyddol benodol neu ei hymgeiswyr yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU (UKPGE). Gelwir hyn yn ‘wariant wedi’i dargedu’.

Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar:

  • pa wariant sy'n cyfrif fel gwariant wedi'i dargedu
  • faint y gallwch ei wario ar wariant wedi'i dargedu
  • awdurdodi a thynnu awdurdodiad ar gyfer gwariant wedi'i dargedu yn ôl
  • adrodd ar wariant wedi'i dargedu
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Gwariant a dargedir

Mae gwariant ymgyrchu a reoleiddir gan bob ymgyrchydd di-blaid cofrestredig yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig sydd â’r nod o hybu llwyddiant etholiadol un blaid wleidyddol gofrestredig benodol neu unrhyw un neu ragor o’i hymgeiswyr yn cael ei alw’n wariant wedi’i dargedu.1

Bydd gwariant wedi’i dargedu yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant cyffredinol ar gyfer ymgyrchydd di-blaid ac mae’n dod o dan y cyfreithiau cyffredinol ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Gwariant a dargedir

Beth yw gwariant a dargedir?

Gwariant a dargedir

Ni fydd gwariant ar weithgarwch ymgyrchu yn cael ei ystyried yn wariant wedi’i dargedu oni bai bod yr ymgyrch yn dynodi’r blaid wleidyddol neu ei hymgeiswyr.

  • Bydd gweithgaredd ymgyrchu sy’n enwi un blaid wleidyddol neu ei hymgeiswyr mewn ffordd y gellir ystyried ei bod wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid wleidyddol honno yn unig yn cyfrif fel gwariant wedi’i dargedu.
  • Bydd gweithgaredd ymgyrchu sy’n dynodi un blaid wleidyddol neu ei hymgeiswyr mewn ffordd y mae’n rhesymol ystyried ei bod wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid wleidyddol honno yn unig yn cyfrif fel gwariant wedi’i dargedu. Gallai hyn ddigwydd drwy ddefnyddio slogan ymgyrch, logo plaid, neu bolisi sy’n gyfystyr â dim ond un blaid wleidyddol.

Beth yw gwariant a dargedir?

Er mwyn cyfrif fel gwariant a dargedir, mae'n rhaid ystyried yn rhesymol mai bwriad gwariant yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid wleidyddol yn unig neu unrhyw un o'i hymgeiswyr. Ni fydd yn wariant a dargedir os bwriedir iddo hefyd ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros unrhyw blaid arall neu unrhyw un o'i hymgeiswyr.

Beth na gaiff ei ystyried yn wariant a dargedir?

Beth na gaiff ei ystyried yn wariant a dargedir?

Beth na gaiff ei ystyried yn wariant a dargedir?

Nid yw ymgyrch negyddol sydd â’r nod o ddylanwadu ar bleidleiswyr i beidio â phleidleisio dros blaid wleidyddol benodol nac unrhyw un neu ragor o’i hymgeiswyr yn wariant wedi’i dargedu.

Nid yw rhoddion i blaid wleidyddol gofrestredig yn dod o fewn y diffiniad o wariant wedi’i dargedu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Terfynau ar wariant a dargedir

Mae'r swm y gallwch ei wario ar wariant a dargedir yn dibynnu ar eich trefniant â'r blaid wleidyddol.

Gwariant nas awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Yn unol â'r gyfraith, caiff y terfynau ar gyfer gwariant a dargedir anawdurdodedig eu cyfrifo'n gymesur â'r terfynau gwariant ym mhob etholiad cyffredinol i Senedd y DU. Mae trothwyon gwahanol ar gyfer gwariant a dargedir yr eir iddo ym mhob rhan o'r DU.1

Rhan o'r DUTerfynau gwariant a dargedir
Lloegr£58,654
Yr Alban£6,157
Cymru£3,456
Gogledd Iwerddon£1,944

Os nad ydych wedi'ch awdurdodi i fynd i wariant a dargedir, bydd eich holl wariant a dargedir yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir a rhaid adrodd arno yn eich ffurflen gwariant.

Gwariant nas awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Rhaid i unrhyw wariant sy’n fwy na’r terfynau gwariant wedi’i dargedu gael ei awdurdodi gan y blaid wleidyddol gofrestredig berthnasol. 

Gwariant nas awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Ni chewch wario dros y terfynau cyfreithiol ar wariant anawdurdodedig a dargedir heb gael awdurdodiad gan y blaid. Hefyd, ni chaiff y gwariant anawdurdodedig a dargedir y byddwch yn mynd iddo fynd dros y terfyn ar faint y gallwch ei wario ym mhob rhan o'r DU, na'r terfyn etholaethol. Gweler Terfynau gwariant am ragor o wybodaeth am eich terfynau gwariant cyffredinol.

Gwariant nas awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Mae’n drosedd i ymgyrchwyr di-blaid wario mwy na’r terfyn gwariant wedi’i dargedu heb awdurdodiad gan y blaid wleidyddol gofrestredig berthnasol.2

Gwariant a awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Gwariant a awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Er y gallwch fynd i wariant a dargedir heb awdurdodiad, gall pleidiau cofrestredig eich awdurdodi i wario hyd at swm a nodir ganddi ar wariant a dargedir.

Os na fydd gwariant a dargedir wedi'i awdurdodi, mae'n rhaid i'r gwariant fod o fewn y terfynau cyfreithiol ar wariant anawdurdodedig a dargedir a nodwyd uchod o hyd. Gydag awdurdodiad gan y blaid gallwch, yn hytrach, wario hyd at y swm a awdurdodwyd ganddi.

Gwariant a awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Bydd unrhyw wariant wedi’i dargedu dros y terfyn gwariant wedi’i dargedu hyd at y swm a awdurdodwyd gan y blaid wleidyddol berthnasol hefyd yn cyfrif tuag at wariant ymgyrchu’r blaid wleidyddol gofrestredig.3

Gwariant a awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Caiff gwariant yr ewch iddo sydd dros y terfynau gwariant a dargedir hyd at y swm a awdurdodwyd ei drin fel pe baech chi a'r blaid wleidyddol wedi mynd iddo. Am y rheswm hwn, bydd y gwariant hwn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant chi a therfyn gwariant y blaid yn yr etholiad a rhaid adrodd arno yn ffurflen gwariant y ddau ohonoch.

Ni chaiff unrhyw wariant a dargedir y byddwch yn mynd iddo fynd dros y terfyn ar faint y gallwch ei wario ym mhob rhan o'r DU, na'r terfyn etholaethol. Mae'r terfynau hyn yn gymwys i'ch holl wariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, hyd yn oed os bydd y swm y mae plaid wedi'ch awdurdodi i'w wario yn fwy na'r terfynau hyn. Gweler Terfynau gwariant am ragor o wybodaeth am eich terfynau gwariant cyffredinol.

Gwariant a awdurdodir gan y blaid wleidyddol

Mae’n drosedd i ymgyrchwyr di-blaid wario mwy na’r swm a awdurdodwyd gan y blaid wleidyddol gofrestredig berthnasol.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024

Sut i awdurdodi gwariant a dargedir

Os yw plaid wleidyddol yn dymuno eich awdurdodi i fynd i wariant a dargedir hyd at derfyn penodol, rhaid iddo roi awdurdodiad i ni.

Sut i awdurdodi gwariant a dargedir

Mae awdurdodiad gan blaid wleidyddol gofrestredig:

  • yn gorfod bod mewn ysgrifen
  • yn gorfod cael ei lofnodi gan naill ai trysorydd neu ddirprwy drysorydd y blaid 
  • yn gorfod pennu’r rhannau o’r Deyrnas Unedig lle caniateir i’r gwariant wedi’i dargedu gael ei achosi 
  • yn cael pennu terfyn ar swm y gwariant wedi’i dargedu a awdurdodir.1

Rhaid i’r blaid wleidyddol gofrestredig roi copi o’r awdurdodiad ysgrifenedig i’r Comisiwn. Nid yw’r awdurdodiad yn cael effaith nes bod copi wedi’i roi i’r Comisiwn.2

Sut i awdurdodi gwariant a dargedir

Gellir gwneud awdurdodiad gan blaid wleidyddol gan ddefnyddio ffurflen TP5.

 

Dylai'r blaid wleidyddol hefyd roi copi o'r awdurdodiad i chi yn cadarnhau y gallwch fynd i wariant a dargedir.

Os bydd plaid wleidyddol yn rhoi copi i chi o awdurdodiad i fynd i wariant a dargedir, dylech ofyn am gadarnhad ei bod wedi anfon yr awdurdodiad gwreiddiol atom ni. Gallwch gadarnhau hyn drwy edrych ar ein cofrestr o hysbysiadau.

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Gall plaid wleidyddol dynnu awdurdodiad yn ôl unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ni.

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Rhaid i’r penderfyniad i’w dynnu’n ôl:

  • fod mewn ysgrifen
  • cael ei lofnodi gan drysorydd neu ddirprwy drysorydd y blaid.3

Nid yw’r penderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl yn cael effaith nes bod y blaid wleidyddol gofrestredig wedi rhoi copi i’r Comisiwn.4

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Dylai'r blaid wleidyddol hefyd roi copi o'r hysbysiad tynnu awdurdodiad yn ôl i chi yn cadarnhau na chewch fynd i unrhyw wariant pellach a dargedir. Daw'r hysbysiad tynnu awdurdodiad yn ôl i rym ar y dyddiad y bydd yn cyrraedd y Comisiwn Etholiadol.

Os bydd y blaid yn tynnu ei hawdurdodiad yn ôl, ni chewch fynd i unrhyw wariant pellach a dargedir uwchlaw'r terfyn ar gyfer gwariant a dargedir. Dylech wneud yn siŵr bod y blaid wleidyddol yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r awdurdodiad.

Os ydych eisoes wedi gwario mwy na'r terfyn gwariant a dargedir pan dynnir yr awdurdodiad yn ôl, rhaid i chi atal unrhyw wariant pellach a dargedir.

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Pan dynnir awdurdodiad yn ôl, ni fydd unrhyw drosedd ôl-weithredol wedi’i chyflawni gan yr ymgyrchydd di-blaid mewn perthynas â gwariant wedi’i dargedu a achoswyd yn unol â’r awdurdodiad a oedd mewn grym ar y pryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Adrodd ar wariant awdurdodedig

Os bydd plaid wleidyddol yn eich awdurdodi i fynd i wariant a dargedir:

  • dylech gadw cofnod o gyfanswm y gwariant a dargedir
  • bydd yr holl wariant a dargedir yr eir iddo gennych yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant ar yr ymgyrch a rhaid adrodd arno yn eich ffurflen gwariant
  • bydd unrhyw swm o wariant a dargedir sydd dros y terfyn gwariant a dargedir a hyd at y swm a nodwyd yn awdurdodiad y blaid wleidyddol hefyd yn cyfrif tuag at wariant y blaid ar yr ymgyrch a rhaid adrodd arno yn ffurflen gwariant y blaid wleidyddol
  • mae'n rhaid i'r blaid wleidyddol ddatgan faint rydych wedi'i wario ar wariant a dargedir a faint y mae wedi'ch awdurdodi i fynd iddo
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Dosrannu gwariant

Efallai y bydd angen i chi ddosrannu costau rhai eitemau gwariant, fel y gallwch gofnodi ac adrodd ar y gwerth a wariwyd ar eich gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn gywir. Weithiau, byddwn yn galw hyn yn wahanu gwariant.

Gall hyn gynnwys:

  • gwariant ar weithgareddau cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir
  • eitemau a gwasanaethau a ddefnyddiwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
  • gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir a'r rheini nad ydynt yn cyfrif 

Yr egwyddor asesu gonest

Ym mhob achos dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 

Dylech gymhwyso'r egwyddor arweiniol at bob sefyllfa lle mae angen i chi ddosrannu gwariant ar ymgyrchu.

Bydd hyn yn syml ar gyfer llawer o eitemau. Fodd bynnag, bydd yn fwy cymhleth i rai. Dylai'r enghreifftiau yn yr adran hon eich helpu i ddeall sut y dylech fynd ati i gynnal eich asesiad.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo

Dosrannu gwariant

Pan gafodd gwariant ar eitem neu weithgaredd ei achosi’n rhannol mewn cysylltiad â gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ac yn rhannol mewn cysylltiad â gweithgaredd nad yw’n cael ei reoleiddio, y swm y mae’n rhaid ei adrodd yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’n rhesymol y swm a wariwyd mewn cysylltiad â’r gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 

Dim ond y gwariant ymgyrchu a reoleiddir sy’n gorfod cael ei adrodd yn y ffurflen gwariant.
 

Gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo

Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddosrannu eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a gynhelir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth y gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac y gwnaethoch barhau i'w ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yn y senarios hyn, dim ond y gwariant yr aed iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy'n adroddadwy ac a fydd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. 

Enghraifft A: Canfasio yn ystod ac ar ôl y cyfnod a reoleiddir 

Rydych yn gwneud gwaith canfasio ddeufis cyn y cyfnod a reoleiddir a deufis ar ôl y cyfnod hwnnw. Dim ond y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith canfasio a wneir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir fydd yn cyfrif fel gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 

Gan eich bod wedi treulio yr un faint o amser yn canfasio, er mwyn canfod y gost y mae angen i chi adrodd arni, dylech rannu cyfanswm y gwariant ar ganfasio dros y cyfnod hwn yn ei hanner. Mae'n rhaid i chi gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â chanfasio yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn eich ffurflen gwariant.

Enghraifft B: Costau gwefan cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir

Cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, rydych yn creu ardal ar wefan eich sefydliad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei bwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau nad ydynt yn cefnogi datblygiad lleol arfaethedig. Gallwch barhau i'w defnyddio a'i diweddaru yn ystod y cyfnod a reoleiddir. 

Gan mai dim ond y gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy'n adroddadwy, bydd angen i chi ddosrannu costau'r gwaith dylunio, gwe-letya a chostau perthnasol eraill rhwng y ddau gyfnod.

Os yw'r gwaith dylunio a chostau eraill yn £9,000, a'ch bod yn defnyddio'r ardal am gyfnod o chwe mis, y gost fesul mis fydd £9,000 ÷  6 = £1,500 y mis. 

Os yw'r cyfnod a reoleiddir yn cwmpasu'r 4 mis olaf, yna cyfanswm y costau yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw 4 × £1,500 = £6,000. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Defnyddio eitemau

Os byddwch yn prynu eitemau neu wasanaethau cyn y cyfnod a reoleiddir, ac yn defnyddio'r rhain yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd y gwariant yn cyfrif fel gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.

Defnyddio eitemau

Ailddefnyddio eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol

Mae ymgyrchwyr di-blaid yn cael ailddefnyddio eitemau o etholiadau blaenorol. Does dim angen cyflwyno adroddiad eto am wariant ar eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol ac yr adroddwyd yn llawn amdanynt mewn ffurflen gwariant flaenorol yn y ffurflen gwariant ar gyfer yr un ymgyrchydd di-blaid yn yr etholiad presennol os cânt eu defnyddio eto heb eu newid.  Rhaid i’r holl gostau newydd sy’n ymwneud â’u hailddefnyddio, gan gynnwys storio, glanhau, neu gost newid yr eitemau ymddangos yn y ffurflen gwariant.

Dosrannu eitemau ar gyfer etholiadau dilynol

Ni chaniateir i eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod a reoleiddir gael eu dosrannu neu eu hadrodd dim ond ar y sail y byddant yn cael eu defnyddio eto yn ystod cyfnod a reoleiddir wedyn. Rhaid cyflwyno adroddiad am werth llawn y gwariant yn y ffurflen gwariant.

Eitemau heb eu defnyddio

Does dim angen cyflwyno adroddiad yn y ffurflen gwariant am eitemau y talwyd amdanynt gan ymgyrchydd di-blaid ond sydd heb gael eu defnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Os bydd yr eitemau hynny’n cael eu defnyddio wedyn mewn etholiad yn y dyfodol, byddai angen cyflwyno adroddiad am y gwariant mewn perthynas â’r etholiad hwnnw, a hynny fel eitem y talwyd amdani cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau.

Eitemau y talwyd amdanynt cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau

Pan achoswyd gwariant cyn dechrau cyfnod a reoleiddir ar eitemau sy’n cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid cyflwyno adroddiad am y gwariant ar yr eitemau hynny yn y ffurflen gwariant.1

Enghraifft

Enghraifft

Os byddwch yn cyflogi asiantaeth i greu posteri a hysbysebion digidol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod, y byddwch yn eu cyhoeddi wedyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid adrodd ar gostau cysylltiedig y gwasanaeth hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

TAW, gorbenion a chostau staff

TAW

Rhaid cynnwys TAW wrth gyflwyno adroddiad am wariant, lle bo’n gymwys, hyd yn oed os oes modd adennill y TAW.

Gorbenion 

Rhaid cyflwyno adroddiad am orbenion y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.  Y swm y mae’n rhaid ei gynnwys yn y ffurflen gwariant yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’r defnydd yn rhesymol yn ystod yr ymgyrch. 

Pan nad oes cynnydd yn y gwariant ar orbenion y tu hwnt i’r gwariant arferol a achosir gan ymgyrchydd, ni fydd gwariant ar orbenion yn cael ei reoleiddio. 

Pan fydd yna gynnydd yng nghost y gorbenion a achosir gan ymgyrchydd o ganlyniad i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir, rhaid cyflwyno adroddiad am y cynnydd hwnnw mewn gwariant.

Yn gyffredinol, y gyfran sy’n adlewyrchu’r defnydd yn rhesymol yw’r gost a achosir yn ychwanegol at y costau arferol mewn cyfnod penodol. Pan fo angen dosraniad gorbenion, mae ffigur agregedig ar gyfer pob un o’r gorbenion yn unigol yn ddigon i gyflawni’r rhwymedigaethau ynglŷn ag adroddiadau.

Gall gorbenion gynnwys eitemau fel:

  • lle mewn swyddfa
  • biliau tryn
  • darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
  • ffonau symudol
  • darparu offer swyddfa o unrhyw fath 

Nid yw'r Comisiwn yn ystyried bod cost dŵr, nwy a threth gyngor yn gostau y mae angen eu hadrodd gan nad oes gan y rhain gysylltiad digon agos â’r gweithgaredd a reoleiddir.

Example

Enghraifft

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae ymgyrchydd yn prynu cyfrifiaduron, offer swyddfa a ffonau ychwanegol i helpu ei dîm i gynhyrchu deunydd ymgyrchu a chanfasio. O ganlyniad i'r pryniannau hyn, mae biliau trydan a rhyngrwyd yr ymgyrchydd yn cynyddu y tu hwnt i'w wariant arferol.

Gan fod y gwariant ar orbenion wedi cynyddu y tu hwnt i wariant arferol yr ymgyrchydd o ganlyniad i weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, caiff costau'r gorbenion hyn eu rheoleiddio.

Costau staff

Costau staff

Rhaid cyflwyno adroddiad am gostau staff y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgaredd a reoleiddir.  Dim ond costau staff a achoswyd o ganlyniad i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir y mae angen cyflwyno adroddiad amdanynt. 

Pan fo costau staff yn gallu cael eu priodoli i weithgaredd a reoleiddir yn rhannol yn unig, rhaid i’r costau gael eu dosrannu a dim ond y gyfran a briodolir i weithgaredd a reoleiddir sy’n gorfod cael ei chynnwys yn y ffurflen gwariant. 

Pan fo angen dosrannu amser aelod o staff, mae ffigwr agregedig ar gyfer yr holl amser staff a briodolir i weithgaredd a reoleiddir yn ddigon i gyflawni’r rhwymedigaethau ynglŷn ag adroddiadau. 

Mae'r Comisiwn yn ystyried nad yw costau gofal plant aelodau staff yn dreuliau y mae angen eu hadrodd gan nad oes gan y rhain gysylltiad digon agos â’r gweithgaredd a reoleiddir.1

Enghraifft

Os oes gennych aelod o staff sy'n gweithio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ogystal â gweithgareddau nas rheoleiddir, bydd angen i chi gyfrif cyfran o gyflog yr aelod o staff sy'n adlewyrchu'r amser a dreuliwyd yn gweithio ar y gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Enghraifft

Mae aelod o staff yn gweithio ar ymgyrch etholiadol eich sefydliad ar yr un pryd â'ch busnes o ddydd i ddydd.

Os oes gan eich sefydliad ffordd sefydledig o ddosrannu'r costau hyn ar gyfer gwaith arall eisoes, gallwch benderfynu cyfrifo'r costau yr eir iddynt gan staff mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn yr un ffordd.

Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o gyfran y costau staff y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Er mwyn eich helpu i gynllunio eich gwariant, dylech chi a'r aelod o staff gytuno ar amcangyfrif rhesymol o amser y mae'n debygol o'i dreulio ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Dylech ofyn i'r aelod o staff gadw cofnod o'r amser a gaiff ei dreulio mewn gwirionedd ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir a'ch diweddaru os yw'n treulio cryn dipyn yn fwy o amser na'r hyn y cytunwyd arno'n wreiddiol. Dylai hyn eich helpu i sicrhau nad ydych yn mynd uwchlaw'r terfyn gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2024

Rhoddion

Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn cwmpasu'r cyfreithiau mewn perthynas â'r gofynion i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau o ran rhoddion. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sy'n cyfrif fel rhodd i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau 
  • pa roddion y gellir eu derbyn
  • sut i gadarnhau bod ffynhonnell yn rhoddwr a ganiateir
  • sut i brisio rhodd anariannol
  • sut i ddychwelyd rhoddion na chaniateir neu roddion anhysbys
  • pryd mae angen i chi adrodd ar roddion
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth yw rhodd?

Rhaid i bob ymgyrchydd di-blaid cofrestredig gydymffurfio â’r rheolaethau ynglŷn â rhoddion yn Atodlen 11 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 sy’n nodi pwy sy’n cael rhoi i ymgyrchwyr di-blaid.

Mae’r cyfreithiau ar roddion yn gymwys i roddion sy’n cael eu rhoi i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig yn unig, ac yn benodol roddion tuag at eu gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw’r cyfreithiau’n ymdrin ag arian sy’n dod i law at ddibenion cyffredinol y sefydliad.  

At ddibenion rhoddion i ymgyrchwyr di-blaid, mae rhodd:

  • yn arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau1
  • yn cael ei rhoi at ddibenion gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir2 , ac
  • yn cael ei rhoi heb godi tâl amdani neu ar delerau masnachol ac yn werth mwy na £500.3

Nid yw dim byd sy’n werth £500 neu lai yn rhodd at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
 

Which donations are covered by the law?

Pa roddion a gwmpesir gan y gyfraith?

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfyngiadau ar y rhoddion y gall ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid eu derbyn. Mae'r gyfraith yn cwmpasu pob rhodd a roddir tuag at wariant ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion ar gyfer gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir a ddaw i law cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir.4

Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys: 

  • rhodd o arian neu eiddo 
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad 
  • tanysgrifiad neu daliad ymlyniad 
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa

Mae'n rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid gadw cofnodion o roddion y mae'n eu cael a chadarnhau y gall dderbyn y rhoddion hyn.

Y person cyfrifol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn y cyfreithiau ar roddion.

Hefyd, mae'n rhaid i rai ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau adrodd ar rai rhoddion i'r Comisiwn Etholiadol. Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn ar ein cofrestr gyhoeddus. Nid yw'r manylion hyn yn cynnwys cyfeiriadau unigolion sy'n gwneud rhoddion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Pa roddion nas cwmpesir gan y gyfraith?

Nid yw'r gyfraith yn cwmpasu arian rydych yn ei gael tuag at wariant na chaiff ei reoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.1  Er enghraifft:

  • rhoddion a roddir tuag at weithgareddau a gynhelir cyn y cyfnod a reoleiddir, megis taflenni rydych yn eu cynhyrchu a'u defnyddio cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau
  • rhoddion a roddir tuag at weithgareddau ymgyrchu nas rheoleiddir

Ni chaiff arian a roddir i chi neu'ch sefydliad at ddibenion cyffredinol, yn hytrach nag yn benodol i ariannu gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, ei gwmpasu gan gyfraith etholiadol.

Er enghraifft, os byddwch yn cynnal digwyddiad i godi arian i gefnogi gweithgareddau cyffredinol eich sefydliad, neu fod gennych roddwyr rheolaidd sy'n rhoi arian ar y sail hon, ni fydd y cyfraniadau hyn yn dod o dan y cyfreithiau ar roddion i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.

Rhoddion o £500 neu lai

Rhoddion o £500 neu lai

Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac nid oes angen i chi eu cofnodi na rhoi gwybod amdanynt.2

Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle yr ymddengys fod rhoddwr yn ceisio osgoi gofynion o ran rhoddion a ganiateir o dan y Ddeddf. Mae'n drosedd ceisio osgoi dilyn y cyfyngiadau ar dderbyn rhoddion.3  Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o'r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi'r gofynion o ran rhoddion a ganiateir.

Os credwch y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn cael rhodd?

Pan fydd ymgyrchydd di-blaid yn cael rhodd o fwy na £500, rhaid iddo wirio’n ddi-oed a yw’r rhodd yn dod o ffynhonnell a ganiateir. 

Pan ddaw rhodd i law trwy asiant, rhaid i’r ymgyrchydd di-blaid allu nodi pwy yw’r gwir roddwr.1  Rhaid i’r asiant roi manylion y gwir roddwr.2

Rhaid i roddion oddi wrth roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys gael eu dychwelyd o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r rhodd ddod i law.3  Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid gadw cofnodion o’r rhoddion sy’n dod i law, yn ogystal â rhoddion sydd wedi’u dychwelyd. Rhaid cynnwys y manylion hyn pan adroddir y rhodd i’r Comisiwn.

Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn cael rhodd?

Gwiriadau ar roddion

Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. Gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion a benthyciadau? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.

Cyn i'ch plaid dderbyn unrhyw rodd sy'n fwy na £500, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i: 

  • sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol
  • cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir4

Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?

Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i benderfynu a allwch ei derbyn ai peidio.

Rhaid i chi fodloni eich hun fod y ffynhonnell yn un a ganiateir bob tro y gwneir rhodd, hyd yn oed os byddwch wedi gwneud gwiriadau o'r fath mewn perthynas â rhoddion gan yr un ffynhonnell yn y gorffennol.

Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw ffynhonnell yn un a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y rheolau.

Os nad yw'r rhodd gan ffynhonnell a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol am unrhyw reswm, darllenwch Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Rhoddion a roddir ar ran eraill a gan ffynonellau anhysbys

Rhoddion ar ran eraill

Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i'r person sy'n rhoi'r rhodd i chi (yr asiant) ddweud wrthych:

  • bod y rhodd ar ran rhywun arall; a  
  • manylion y rhoddwr gwirioneddol1

Os credwch fod rhywun yn gweithredu fel asiant o bosibl, dylech ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol. Os nad ydych yn siŵr pwy y dylech ei drin fel y rhoddwr, cysylltwch â ni am gyngor.

Mae'n drosedd os nad yw'r asiant yn rhoi manylion y rhoddwr gwirioneddol i chi heb esgus rhesymol.2

Os na allwch gadarnhau gan bwy y ceir rhodd o fwy na £500, neu ei bod gan ffynhonnell a ganiateir, dylech ei chofnodi a'i dychwelyd.3

Rhoddion gan ffynonellau anhysbys

Os bydd unrhyw log wedi'i ennill ar y rhodd, gall eich plaid ei gadw am nad yw'n cael ei drin fel rhodd.4

Gweler Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys? am ganllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Pryd y byddwch yn cael ac yn derbyn rhodd?

Pryd y byddwch yn cael rhodd?

Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.

Er enghraifft: 

  • os rhoddir taflenni am ddim i chi, byddwch yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
  • os rhoddir siec i chi, byddwch yn cael y rhodd ar y diwrnod y bydd y siec yn cael ei chlirio
  • os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif1

Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?

Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion anariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad. 

Os bydd eich sefydliad yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Oddi wrth bwy y gallwch dderbyn rhoddion?

Dim ond rhoddion gan unigolion neu sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig y caiff ymgyrchwyr di-blaid eu derbyn.1  Nodir y rhestr o ffynonellau a ganiateir yn adran 54(2) o Ddeddf 2000.

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid beidio â derbyn rhoddion gan blaid wleidyddol gofrestredig.2  

Oddi wrth bwy y gallwch dderbyn rhoddion?

Ffynhonnell a ganiateir yw:

  • unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion 
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU 
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU 
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 
  • cymdeithas gyfeillgar, cymdeithas ddiwydiannol neu gymdeithas ddarbodus sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU

Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan rai mathau o ymddiriedolaethau.3  Cysylltwch â ni am gyngor ar sut i gadarnhau a yw ymddiriedolaethau yn ffynonellau a ganiateir.

Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion gan blaid wleidyddol.4

Er ei bod yn gyfreithlon i chi dderbyn rhoddion gan elusennau cyn belled â'u bod yn rhoddwyr a ganiateir o dan gyfraith etholiadol, ni chaniateir i elusennau roi rhoddion gwleidyddol fel arfer o dan gyfraith elusennau. 

Os ydych yn gwybod bod rhoddwr posibl yn elusen, dylech sicrhau ei fod yn cael cyngor gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon cyn rhoi'r rhodd.

Beth y mae'n rhaid i chi ei gofnodi?

Os derbyniwch rodd gwerth dros £500, rhaid i chi gofnodi'r manylion hyn: 

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr 5 (nodir y rhain ar y tudalennau canlynol)
  • swm y rhodd (os yw'n rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (os yw'n rhodd anariannol)6
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd 
  • y dyddiad y gwnaethoch dderbyn y rhodd7

Rhaid i chi gofnodi cyfeiriad y rhoddwr fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr statudol berthnasol. 

Bydd angen y manylion hyn arnoch pan fyddwch yn adrodd ar rodd i ni.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Unigolion

Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU pan fyddwch yn cael y rhodd neu'r benthyciad.1  Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor. 

Os cewch gymynrodd, a bod yr unigolyn ar y gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd cyn iddo farw, cewch dderbyn y rhodd.2

Sut ydych yn cadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir. Mae hawl gan ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn.

Fel arfer caiff fersiwn newydd o'r gofrestr etholiadol ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. 

Dylech gysylltu â Swyddog Cofrestru Etholiadol y cyngor lleol perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn am eich copi, gan egluro eich bod yn gofyn amdano fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid.3  Dylech ofyn i'r swyddog anfon yr holl ddiweddariadau atoch hefyd.

Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr.4

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.

Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd. 

O dan amgylchiadau arbennig, bydd gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr.5  Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif wrth gyflwyno eich adroddiad.6

Dim ond er mwyn cadarnhau a yw unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir neu at ddibenion etholiadol y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.7

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi: 

  • enw llawn yr unigolyn  
  • y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref8

Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol yr unigolyn fel cofnod o'ch gwiriad.

Os byddwch wedi cael cymynrodd, cysylltwch â ni am gyngor ar gynnal gwiriadau caniatâd a'r gofynion o ran adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024

Cwmnïau

Beth sy'n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir? 

Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir:

  • os yw wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
  • os yw wedi'i gorffori yn y DU, ac
  • os yw'n cynnal busnes yn y DU1

Rhaid i chi fod yn siŵr bod y cwmni yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.

Sut rydych yn cadarnhau cofrestriad cwmni? 

Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.

Sut rydych yn cadarnhau a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r cwmni eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:

  • a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei ddileu o'r gofrestr
  • a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr

Mae'n bosibl bod cwmni yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei ddiddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae. 

O ran unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar y canlynol:

  • gwefan y cwmni
  • cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau

Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni ynglŷn â'i weithgareddau busnes.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni 
  • rhif cofrestru'r cwmni2
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Beth sy'n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir

Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir:

  • os yw wedi'i chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
  • os yw'n cynnal busnes yn y DU1

Sut rydych yn cadarnhau bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim.

Sut rydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU? 

Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:

  • a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr
  • a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr

Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae. 

O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:

  • gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau

Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig2

Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Cymdeithasau anghorfforedig

Beth sy'n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Mae cymdeithas anghorfforedig yn rhoddwr a ganiateir:

  • os bydd ganddi fwy nag un aelod
  • os yw'r brif swyddfa yn y DU
  • os yw'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU1

Nid yw cymdeithasau anghorfforedig sy'n rhoddwyr a ganiateir yr un peth â chymdeithasau anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU. Dim ond os bydd hefyd yn bodloni'r gofynion o ran rhoddion a ganiateir y bydd cymdeithas anghorfforedig sydd â'r cysylltiad angenrheidiol â'r DU yn rhoddwr a ganiateir.

Sut rydych yn cadarnhau bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?

Nid oes unrhyw gofrestr o gymdeithasau anghorfforedig. Dylid asesu a ydynt yn ffynhonnell a ganiateir fesul achos.

Yn gyffredinol, cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir yw cymdeithas anghorfforedig.

Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig.

Weithiau, efallai y caiff y rheolau eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes rhaid eu ffurfioli.

Er enghraifft, gall clybiau aelodau fod yn gymdeithasau anghorfforedig weithiau.

Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni'r meini prawf, dylech ystyried a yw'r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na'r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.

Os credwch mai felly y mae, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o'r unigolion a gyfrannodd fwy na £500 yn ffynonellau a ganiateir a'u trin fel y ffynhonnell.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynnal busnes yn yr adran flaenorol Sut rydych yn cadarnhau a yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech ei hysbysu bod yn rhaid iddi roi gwybod i ni am hyn. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi:

  • enw'r gymdeithas anghorfforedig
  • cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas2
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2024

Ffynonellau eraill

Undebau llafur

Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir.1  Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio.

Cymdeithasau adeiladu

Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir.2  Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.

Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus

Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir.3  Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi: 

  • enw'r rhoddwr
  • y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol4
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Sut rydych yn prisio rhodd?

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid roi gwerth ar unrhyw rodd anariannol. Gwerth rhodd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn sy’n dod i law, a’r swm y mae’r ymgyrchydd di-blaid yn talu amdano, os yw’n talu swm o gwbl.1  

Mae eitemau sy’n dod i law yn rhad ac am ddim neu am ddisgownt anfasnachol, lle bo’r gwahaniaeth yn y gwerth masnachol a’r hyn y talwyd amdano mewn gwirionedd yn fwy na £500, yn rhodd at ddibenion Deddf 2000.

Pan fydd ymgyrchydd di-blaid yn cael rhodd o fwy na £500, rhaid iddo wirio’n ddi-oed a yw’r rhodd yn dod o ffynhonnell a ganiateir.

How do you work out the value of a donation?

Sut mae cyfrifo gwerth rhodd?

Os bydd eich sefydliad yn cael neu'n darparu eitem, nwyddau neu wasanaeth, rhaid i chi gyfrifo'r gwerth marchnadol. Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.2

Mae angen cyfrifo'r gwerth marchnadol er mwyn penderfynu a wnaed rhodd a beth yw'r gwerth. Nid ystyrir bod unrhyw incwm masnachol y byddwch yn ei ennill o'r trafodion hyn yn rhodd.3

Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar sut i asesu gwerth marchnadol nwyddau a gwasanaethau, penderfynu a wnaed rhodd, a chyfrifo gwerth y rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Nwyddau a gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu cael neu a ddarperir ganddo

Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cael nwyddau neu wasanaethau

Yn ogystal â rhoddion ariannol, efallai y byddwch hefyd yn cael rhoddion ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad.

Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i'ch sefydliad, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheoliadau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.

Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau, caiff y rhain eu hystyried fel rhodd os:

  • bydd gwerth marchnadol y nwyddau neu'r gwasanaethau, os cawsant eu rhoi am ddim, yn fwy na £500, neu1
  • bydd swm y gostyngiad anfasnachol yn fwy na £5002

Y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.3

Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £500 gan roddwr a ganiateir.4

Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cynnal digwyddiad neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau

Os bydd eich sefydliad yn cynnal digwyddiad, neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad hefyd. Ystyrir bod unrhyw arian y bydd eich sefydliad yn ei gael sydd dros y gwerth marchnadol ar gyfer costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) yn rhodd.5

Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o werth marchnadol y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu oherwydd os bydd rhywun yn talu mwy na'r gwerth marchnadol, ystyrir bod y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu i chi a'r gwerth marchnadol yn rhodd os bydd y swm hwn yn fwy na £500.6

Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael unrhyw daliad ychwanegol ar delerau anfasnachol, a bydd y cyfreithiau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. Nid yw'r gwerth marchnadol, neu incwm masnachol, yn rhodd.7

Bydd gwerth unrhyw rodd yn gyfystyr â'r swm o arian dros werth marchnadol costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) a gaiff eich sefydliad gan bob rhoddwr.

Dylech gyfrifo faint mae'n ei gostio i'r sefydliad am bob unigolyn sy'n mynychu'r digwyddiad, neu am bob unigolyn sy'n cael nwyddau neu wasanaethau. Yna, didynnwch y swm hwn o'r hyn y gwnaeth pob unigolyn ei dalu i chi er mwyn canfod gwerth y rhodd. Bydd hyn yn rhodd os yw'r swm hwn yn fwy na £500.8

Yr egwyddor arweiniol

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth marchnadol neu fasnachol y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych wedi'u cael neu eu darparu.

Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau/gwasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.

Dylech gadw cofnod o'r modd y lluniwyd eich prisiad.

Gwerthu gwasanaethau unigryw

Wrth geisio pennu'r gwerth marchnadol, efallai y byddwch hefyd am ystyried y lefel briodol ar y farchnad ar gyfer yr hyn rydych yn ei werthu.

Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhesymol defnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn achosion lle mae'r gwasanaethau yn unigryw a/neu lle mae gennych rywfaint o fonopoli ar y farchnad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Cyllido torfol

Beth yw cyllido torfol?

Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.

Tryloywder 

Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Dylai'r dudalen we hefyd gynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau caniatâd eu cynnal er mwyn cydymffurfio â'r rheolau, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn. 

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Mae canllawiau ar wahân ar argraffnodau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn yr Alban.

Yr hyn a ganiateir 

Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £500.

Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a phenderfynu a allwch dderbyn y rhodd. Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.

Ni chaiff arian a roddir i ymgyrchydd nad yw'n blaid drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £500 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano.

Fodd bynnag, pan fyddwch yn derbyn rhoddion, rhaid i chi fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae'n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gwneud sawl rhodd o £500 neu lai mewn ymgais i osgoi'r rheolau ynglŷn â rhoddion a ganiateir. Mae'n drosedd ceisio osgoi dilyn y rheolaethau ar roddion. Os ydych yn bryderus y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell. 

Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw dros £500.

Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.

Cryptoarian

Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.

Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Pennu gwerth rhodd drwy nawdd

Beth yw nawdd?

Pan roddir cefnogaeth i ymgyrchydd nad yw'n blaid i'w helpu i dalu rhai costau, caiff hyn ei ddiffinio fel nawdd. Yn unol â'r gyfraith, mae rheolau gwahanol yn gymwys i'r rhoddion hyn.

Nawdd yw cefnogaeth a roddir i ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ei helpu i dalu am gostau:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu cyhoeddiad (argraffedig neu ddigidol), neu
  •  unrhyw astudiaeth neu ymchwil1

A oes unrhyw eithriadau i'r rheolau ynglŷn â nawdd?

Nid yw'r costau canlynol yn cyfrif fel nawdd: 2

  • taliadau mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiad arall
  • pris prynu unrhyw gyhoeddiad
  • taliadau ar y gyfradd fasnachol am hysbysebion mewn cyhoeddiadau

Dim ond hyd at werth masnachol hysbysebion sy'n ymddangos mewn cyhoeddiadau y mae'r eithriad yn gymwys. Enghraifft o'r eithriad hwn yw cyhoeddiad sy'n nodi nodau ymgyrchydd nad yw'n blaid, megis maniffesto cyn etholiad.

Dylai taliadau am unrhyw fathau eraill o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir, gael eu trin fel nawdd os byddant yn helpu i dalu am gost y digwyddiad.

Nid yw taliadau am hysbysebion nad ydynt yn helpu i dalu am gostau digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, os byddwch yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein ond nad ydych yn mynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu a'r gwerth masnachol yn rhodd. Ni fydd unrhyw symiau a delir am hysbysebion mewn cyhoeddiadau sy'n uwch na'r gyfradd fasnachol wedi'u heithrio ac ystyrir eu bod yn rhodd os byddant yn werth mwy na £500.3

Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, mae'n bosibl y bydd yn rhodd o hyd os yw'n bodloni'r diffiniad o rodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023

Faint o'r hyn rydych yn ei gael sy'n rhodd?

Wrth gyfrifo gwerth nawdd, dylid ystyried swm llawn y taliad a geir a rhoi gwybod amdano os yw'n fwy na'r trothwyon uchod.

Ni ddylid gwneud unrhyw ddidyniad ar gyfer unrhyw werth masnachol, neu fudd i'r noddwr, ac ati.

Digwyddiadau a chiniawau i godi arian

Os caiff digwyddiad ei gynnal gan neu ar ran plaid (neu uned gyfrifyddu plaid), neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, rhaid trin cymorth i helpu i dalu am gostau'r digwyddiad fel nawdd. 

Ar gyfer taliadau am le neu fwrdd mewn cinio a drefnir gan y blaid neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, bydd y gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a'r swm a delir yn rhodd.

Ymdrin â TAW

Lle mae taliad nawdd yn cynnwys TAW, bydd p'un a ddylid rhoi gwybod am yr elfen TAW fel rhan o'r nawdd yn dibynnu ar y ffeithiau. Er enghraifft, pe byddai'r blaid wedi bod yn atebol am y TAW pe na bai wedi'i thalu, yna mae ei thalu o fudd i'r blaid a dylid rhoi gwybod amdani fel nawdd.

Nawdd gan gwmnïau

Lle mae cwmni yn gwneud taliad a gaiff ei drin fel nawdd, ystyrir bod y swm cyfan yn rhodd o dan gyfraith etholiadol.

Felly bydd angen i gwmnïau sicrhau eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw reolaethau cymwys ynghylch gwneud rhodd wleidyddol o dan gyfraith cwmnïau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Beth i'w wneud os byddwch yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir neu ffynhonnell anhysbys?

Os byddwch yn cael rhodd nad yw gan ffynhonnell a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich sefydliad yn cadw'r rhodd nas caniateir ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi'i derbyn.

Os bydd eich sefydliad yn derbyn rhodd nas caniateir, gallech fod yn destun camau gorfodi. Mae'n bosibl hefyd y bydd y person cyfrifol wedi cyflawni trosedd. Ymdrinnir ag unrhyw achos posibl o dorri'r rheolau yn unol â'n Polisi Gorfodi.

Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.

Rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r ffynhonnell, os yw'n hysbys
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol
  • sut y rhoddwyd y rhodd
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)

Rhaid i chi gynnwys pob rhodd nas caniateir yn eich ffurflen gwariant ar yr ymgyrch.

Sut rydych yn dychwelyd rhodd nas caniateir?

Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd.1

Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd ariannol o £600 yn ddienw), rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:

  • y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi, neu
  • y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd2

Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, rhaid i chi anfon y swm cyfatebol i'r Comisiwn Etholiadol.3  Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Fawrhydi.4  Cysylltwch â ni i drefnu i'r symiau hyn gael eu trosglwyddo fel y gallwn roi ein manylion banc i chi.

Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen adrodd arno.5

Beth y mae'n rhaid i chi ei gofnodi?

Os cewch rodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi ei dychwelyd a chofnodi'r manylion canlynol:6

  • y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth (ar gyfer rhodd anariannol)
  • os na allech gadarnhau pwy oedd y rhoddwr, manylion am sut y rhoddwyd y rhodd
  • os ydych wedi cadarnhau pwy oedd y rhoddwr, ond nad oedd y rhoddwr yn un a ganiateir ar yr adeg berthnasol, enw a chyfeiriad y rhoddwr
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)

Bydd angen y manylion hyn arnoch pan rowch wybod i ni am y rhodd a ddychwelwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2024

Pryd i adrodd ar roddion?

Mae'n rhaid i rai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd ar roddion yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y DU, a gaiff ei alw'n ‘adrodd cyn y bleidlais’, ar ôl yr etholiad yn y ffurflen gwariant a rhoddion.

Mae'n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau (oni bai eu bod wedi datgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd) adrodd ar roddion ar dair adeg wahanol:

Mae gofynion adrodd gwahanol ym mhob math o adroddiad.

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y mathau gwahanol o adroddiad ar roddion a'r gofynion perthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Chwefror 2024

Y cyfnod cyn diddymu: Adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais

Pan fydd tymor Senedd y Deyrnas Unedig yn mynd i mewn i’w bedwaredd flwyddyn, rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwy adrodd gyflwyno adroddiadau chwarterol ar roddion i’r Comisiwn.1

Rhaid i’r adroddiad chwarterol gynnwys manylion yr holl roddion adroddadwy. Os nad yw ymgyrchydd di-blaid wedi cael unrhyw roddion adroddadwy yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad chwarterol.2

Y cyfnod cyn diddymu: Adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais

Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd ar rai rhoddion y maent wedi'u derbyn neu eu dychwelyd yn chwarterol (bob tri mis) yn ystod y cyfnod cyn diddymu. ‘Adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais’ yw'r enw ar y rhain.

Pa ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd angen cyflwyno adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais?

Mae'n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, oni bai eu bod wedi datgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd, gyflwyno adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais.3  Gyda'r datganiad hwn, byddwch wedi'ch eithrio o hyd os bydd eich gwariant yn parhau i fod o dan y trothwy adrodd.4

Os na fyddwch yn cael unrhyw roddion adroddadwy yn ystod cyfnod adrodd, nid oes angen i chi gyflwyno adroddiad ar gyfer y chwarter hwnnw.5

Pryd mae'r cyfnod cyn diddymu?

Diddymu yw'r term swyddogol ar gyfer diwedd Senedd y DU. Pan gaiff Senedd y DU ei diddymu, daw pob sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn wag tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Mae'r cyfnod cyn diddymu yn dechrau pan fydd tymor Senedd y DU yn mynd i mewn i'w bedwaredd flwyddyn ac yn gorffen y diwrnod cyn i'r Senedd gael ei diddymu.6  Bydd tymor y Senedd bresennol yn mynd i mewn i'w bedwaredd flwyddyn ar 17 Rhagfyr 2023.

Mae hyd y cyfnod cyn diddymu yn dibynnu ar y dyddiad y trefnir i ddiddymu'r Senedd. Yn unol â Deddf Diddymu a Galw'r Senedd 2022, os na chaiff ei diddymu'n gynharach, caiff Senedd y DU ei diddymu'n awtomatig pan fydd tymor y Senedd yn mynd i mewn i'w bumed blwyddyn.7  Gall y cyfnod cyn diddymu hwn bara hyd at flwyddyn felly.

Os caiff y Senedd ei diddymu cyn i dymor y Senedd fynd i mewn i'w bedwaredd flwyddyn, ni fydd cyfnod cyn diddymu na gofynion adrodd chwarterol ar gyfer yr etholiad hwnnw.

Pa roddion y mae'n rhaid i chi adrodd arnynt?

Y rhoddion sy'n adroddadwy ym mhob adroddiad chwarterol:

  • pob rhodd gan roddwyr nas caniateir neu anhysbys yr ymdriniwyd â hi yn ystod y cyfnod adrodd8  
  • lle na dderbyniwyd unrhyw roddion gan y rhoddwr a oedd yn adroddadwy mewn adroddiad chwarterol blaenorol:9
    • pob rhodd a dderbyniwyd a oedd yn werth mwy na £7,500 yn ystod y cyfnod adrodd10
    • pob rhodd a dderbyniwyd gan yr un rhoddwr yn ystod y cyfnod cyn diddymu sy'n creu cyfanswm o fwy na £7,500 (rhoddion a gydgrynhowyd)11
  • lle mae'r rhoddwr wedi gwneud rhodd a oedd yn adroddadwy mewn adroddiad chwarterol blaenorol:12
    • pob rhodd a dderbyniwyd a oedd yn werth mwy na £1,500 yn ystod y cyfnod adrodd13
    • pob rhodd a dderbyniwyd gan yr un rhoddwr o fewn y cyfnod cyn diddymu sy'n creu cyfanswm o fwy na £1,500 ac nad oedd yn adroddadwy mewn adroddiad chwarterol cynharach (rhoddion a gydgrynhowyd)14

a gafwyd at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.

Os nad ydych yn derbyn unrhyw roddion adroddadwy yn ystod cyfnod adrodd, nid oes angen i chi gyflwyno adroddiad ar gyfer y chwarter hwnnw gan nad oes angen ffurflenni 'dim'.15  

Os oes angen i chi gyflwyno adroddiad, mae'n rhaid i chi hefyd adrodd ar gyfanswm gwerth pob rhodd arall a dderbyniwyd gennych yn ystod y cyfnod cyn diddymu sy'n werth rhwng £500 a dros y trothwyon.16  Nid oes angen i chi roi rhagor o wybodaeth am y rhoddion hyn.  

Pa fanylion y mae'n rhaid i chi adrodd arnynt?

Ar gyfer rhoddion rydych wedi'u derbyn sy'n bodloni'r trothwyon uchod, mae'n rhaid i chi adrodd ar:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math perthnasol o roddwr16  (gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion? i gael canllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol17
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y gwnaethoch dderbyn y rhodd18

Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae'n rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r ffynhonnell, os yw'n hysbys, neu'r modd y gwnaed y rhodd19
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol20
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd21
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych22
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)23

Beth yw'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais?

Rhaid cyflwyno pob adroddiad chwarterol cyn y bleidlais i'r Comisiwn Etholiadol o fewn 30 diwrnod i ddiwedd pob cyfnod adrodd.24

Mae'r tabl isod yn nodi'r cyfnodau adrodd a'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau i ni.

Cyfnod adrodd25 Rhaid cyflwyno'r adroddiad erbyn26  
17 Rhagfyr 2023 - 16 Mawrth 202415 Ebrill 2024
17 Mawrth 2024 - 29 Mai 202428 Mehefin 2024

Gallwch gyflwyno eich adroddiadau ar CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflenni adrodd isod ac anfon y ffurflenni wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024

Diddymu'r Senedd tan y diwrnod pleidleisio: adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais

Yn y cyfnod rhwng diddymu’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a’r diwrnod pleidleisio, rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig gyflwyno adroddiadau wythnosol ar roddion i’r Comisiwn hefyd.1  Rhaid i’r adroddiad wythnosol ar roddion gynnwys manylion unrhyw roddion perthnasol sydd wedi dod i law sy’n werth mwy na £7,500 (‘rhodd sylweddol’).2

Os na fydd ymgyrchydd di-blaid cofrestredig yn cael unrhyw roddion sylweddol yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad wythnosol.3

Diddymu'r Senedd tan y diwrnod pleidleisio: adroddiadau wythnosol cyn y bleidlaisrliament until polling day: Weekly pre-poll reports

Os ydych yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, rhaid i chi gyflwyno adroddiad wythnosol ar roddion a gewch sydd dros swm penodol rhwng diddymu'r Senedd a'r diwrnod pleidleisio. ‘Adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais’ yw'r enw ar y rhain.

Pa ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd angen cyflwyno adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais?

Mae'n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, oni bai eu bod wedi datgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd, gyflwyno adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais.4  Gyda'r datganiad hwn, byddwch wedi'ch eithrio o hyd os bydd eich gwariant yn parhau i fod o dan y trothwy adrodd.5

Os na fyddwch yn cael unrhyw roddion adroddadwy yn ystod cyfnod adrodd, nid oes angen i chi gyflwyno adroddiad ar gyfer yr wythnos honno.6

Pa roddion y mae'n rhaid i chi adrodd arnynt?

Ym mhob adroddiad wythnosol, mae'n rhaid i chi adrodd ar fanylion pob rhodd sy'n werth mwy na £7,500 a gafodd eich sefydliad yn ystod y cyfnod adrodd wythnosol a gafwyd at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.7

Nid yw hyn yn cynnwys rhoddion a gydgrynhowyd.

Rhaid i chi roi gwybod am bob rhodd sydd dros y gwerth hwn rydych wedi'i chael hyd yn oed os nad ydych wedi'i derbyn eto – er enghraifft, gallwch gael rhodd ond ei gwrthod yn ddiweddarach os nad yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir.

Os nad ydych yn derbyn unrhyw roddion adroddadwy yn ystod cyfnod adrodd, nid oes angen i chi gyflwyno adroddiad ar gyfer y chwarter hwnnw gan nad oes angen ffurflenni 'dim'.8

Pa fanylion y mae'n rhaid i chi adrodd arnynt?

Rhaid i chi adrodd ar y canlynol ar gyfer rhoddion yr ydych wedi’u derbyn sy’n bodloni’r trothwyon uchod:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr9  (gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion? i gael canllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol10   
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd11   

Beth yw'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais?

Rhaid cyflwyno pob adroddiad wythnosol cyn y bleidlais i'r Comisiwn Etholiadol o fewn saith diwrnod i ddiwedd pob cyfnod adrodd.12

Cyfnod adrodd13 Rhaid cyflwyno'r adroddiad erbyn14
30 Mai 2024 – 5 Mehefin 202412 Mehefin 2024
6 Mehefin 2024 – 12 Mehefin 202419 Mehefin 2024
13 Mehefin 2024 – 19 Mehefin 202426 Mehefin 2024
20 Mehefin 2024 – 26 Mehefin 20243 Gorffennaf 2024
27 Mehefin 2024 – 3 Gorffennaf 202410 Gorffennaf 2024
4 Gorffennaf 2024 (un diwrnod yn unig)11 Gorffennaf 2024

Gallwch gyflwyno eich adroddiadau ar CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflenni adrodd isod ac anfon y ffurflenni wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024

Ar ôl yr etholiad

Mae'r adran hon yn cwmpasu'r hyn y mae angen i chi adrodd arno ar ôl yr etholiad fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid.

Mae hyn yn cynnwys:

  • pa ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd angen adrodd i ni ar ôl yr etholiad
  • beth y mae angen i chi adrodd arno i ni
  • pryd y mae'n rhaid i chi gael a thalu anfonebau
  • y terfynau amser ar gyfer adrodd i ni
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023

Gofynion adrodd ar ôl yr etholiad

Pa ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd angen adrodd ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad?

Os ydych wedi cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd nad yw'n blaid, rhaid i chi adrodd ar eich rhoddion a'ch gwariant i ni ar ôl yr etholiad os byddwch yn gwneud y canlynol yn ystod y cyfnod a reoleiddir:

  • rydych yn gwario mwy na £20,000 yn Lloegr neu £10,000 mewn unrhyw ran o Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
  • rydych yn gwario mwy na £17,553 mewn etholaeth benodol (sy’n drosedd)

Terfyn etholaethol

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rhaid i chi beidio â gwario mwy na £17,553 mewn etholaeth fel ymgyrchydd nad yw'n blaid gan y byddwch yn euog o drosedd.1  Fodd bynnag, os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn pan fyddwch wedi cofrestru mae'n ofynnol i chi gyflwyno ffurflen gwariant o dan y gyfraith.2

Beth y mae'n rhaid i chi ei adrodd arno?

Rhaid adrodd ar eich rhoddion i ni drwy gyflwyno ffurflen gwariant.

Gallwch gyflwyno eich ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod ac anfon y ffurflen wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.


Rhaid i chi hefyd gyflwyno datganiad cyfrifon os nad oes rhaid i chi lunio datganiad o'r fath yn unol â chyfraith arall ar hyn o bryd.

Ynghyd â'ch ffurflen gwariant, rhaid i'r person cyfrifol ddatgan y canlynol:

  • bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir3  
  • talwyd pob taliad ganddo, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo4  
  • daeth pob rhodd a dderbyniwyd gan roddwyr a ganiateir5  
  • ni dderbyniwyd unrhyw roddion adroddadwy eraill gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid6  

Mae'n drosedd i'r person cyfrifol wneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.7

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y gofynion adrodd ar gyfer gwariant a rhoddion, a phan fydd datganiad cyfrifon yn ofynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2024

Gwariant

Yn eich ffurflen gwariant, mae'n rhaid i chi gynnwys:

  • manylion unrhyw wariant yr aethoch iddo ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £2001  
  • rhestr o bob etholaeth lle gwnaethoch wario dros £14,0422  
  • rhestr fanwl o'r treuliau yr aed iddynt yn yr etholaethau hynny3  
  • manylion unrhyw wariant tybiannol (nid oes angen anfonebau na derbynebau)
  • manylion unrhyw hawliadau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch4  

Ar gyfer pob eitem o wariant, rhaid i chi adrodd ar y canlynol:

  • ar gyfer beth roedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu 
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • swm neu werth y gwariant yr aed iddo
  • ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian
  • y dyddiad y cyflwynwyd yr hawliad am daliad (os yw'n gymwys)
  • y dyddiad y gwnaed y taliad (os yw'n gymwys)

Gallwch gyflwyno eich ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod ac anfon y ffurflen wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.

Adroddiad yr archwilydd

Os byddwch wedi gwario dros £250,000 yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar eich gweithgarwch a reoleiddir, bydd angen i chi hefyd anfon adroddiad ar eich ffurflen gwariant gan archwilydd cymwys.5

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Tachwedd 2024

Rhoddion

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig y mae’n ofynnol iddyn nhw gyflwyno ffurflen gwariant gynnwys unrhyw roddion sy’n dod i law er mwyn talu am wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.1

Donations

Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, rhaid i chi hefyd adrodd ar roddion i ni ar ôl pob etholiad, fel rhan o'ch ffurflen gwariant.

Ar ôl yr etholiad, rhaid i chi adrodd ar fanylion: 

  • pob rhodd gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys2  
  • pob rhodd a dderbyniwyd a oedd yn werth mwy na £7,5003  
  • pob rhodd a dderbyniwyd gan yr un rhoddwr sy'n creu cyfanswm o fwy na £7,500 (rhoddion a gydgrynhowyd)4

a gafwyd at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.5

Mae'n rhaid i chi hefyd adrodd ar gyfanswm gwerth pob rhodd arall a dderbyniwyd rhwng £500 a £7,500 a gafwyd at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.6  Nid oes angen i chi roi rhagor o wybodaeth am y rhoddion hyn.

Nid oes cyfnod adrodd penodol ar gyfer rhoddion yn eich ffurflen gwariant a rhoddion. Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i chi gynnwys unrhyw roddion a gawsoch tuag at eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn eich ffurflen. Mae hyn yn cynnwys unrhyw roddion yr adroddwyd arnynt eisoes yn eich adroddiadau cyn y bleidlais.

Pa fanylion y mae'n rhaid i chi adrodd arnynt?

Ar gyfer rhoddion rydych wedi'u derbyn sy'n werth (neu'n creu cyfanswm) dros £7,500, mae'n rhaid i chi adrodd ar:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr7  (gweler Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion? i gael canllawiau ar y manylion y mae'n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol8
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd9
  • y dyddiad y gwnaethoch dderbyn y rhodd

Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae'n rhaid i chi gofnodi:

  • enw'r rhoddwr, os yw'n hysbys, neu'r modd y gwnaed y rhodd10
  • swm y rhodd, os yw'n rhodd ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw'n rhodd anariannol11
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd12
  • y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych13
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddo)14

Gallwch gyflwyno eich ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod ac anfon y ffurflen wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2024

Datganiad cyfrifon

Rhaid i ymgyrchydd di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwy adrodd mewn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer y cyfnod a reoleiddir oni bai:

  • mai unigolyn yw’r ymgyrchydd di-blaid
  • bod yr ymgyrchydd di-blaid wedi paratoi datganiad cyfrifon at ddiben cyfreithiol arall sy’n ymdrin â’r cyfnod a reoleiddir1

Datganiad cyfrifon

Ar ôl yr etholiad, efallai y bydd angen i chi anfon datganiad cyfrifon atom ar gyfer y cyfnod a reoleiddir hefyd.

Ni fydd angen i chi gyflwyno datganiad cyfrifon i ni:

  • os oes gofyniad cyfreithiol arnoch eisoes i gyflwyno datganiad cyfrifon y gallwn ei archwilio
  • os yw'r datganiad cyfrifon hwnnw yn cynnwys cyfrif o incwm a gwariant eich sefydliad ar gyfer y cyfnod a reoleiddir, ac asedau a rhwymedigaethau ar gyfer diwedd y cyfnod a reoleiddir2

Byddwch hefyd wedi'ch eithrio os ydych wedi cofrestru â ni fel ymgyrchydd unigol nad yw'n blaid.3

Adroddiad yr archwilydd

Bydd angen adroddiad gan archwilydd ar y datganiad cyfrifon os oedd unrhyw un o'r canlynol dros £250,000 yn ystod y cyfnod a reoleiddir:4

  • eich gwariant ar weithgarwch a reoleiddir
  • eich incwm cofnodedig gros o bob ffynhonnell
  • eich cyfanswm gwariant, gan gynnwys gwariant ar weithgarwch nas rheoleiddir
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023

Terfynau amser ar gyfer cael a thalu anfonebau

Mae'n rhaid i'r person cyfrifol gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrch o fewn terfynau amser penodol.

Cael anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod i'r etholiad.1

Os na chewch anfoneb o fewn 30 diwrnod, ni ddylech ei thalu ar ôl y cyfnod hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech hysbysu eich cyflenwyr o hyn.

Caiff anfonebau a geir ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau heb eu talu. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu ar eich ffurflen gwariant.2

Talu anfonebau gan gyflenwyr

Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod i'r etholiad.3

Caiff anfonebau a geir ar amser ond sydd heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch. Rhaid i chi gofnodi hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch ar eich ffurflen gwariant.4

Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf. Mae hyn wedi'i gynnwys o fewn y cyfrifiadau dyddiadau cau canlynol.5

Dyddiad olaf i
Dderbyn eich anfonebauTalu eich anfonebau
5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban)2 Medi 2024

Caniatâd talu

Ni chewch dalu hawliadau heb eu talu na hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch oni bai bod gorchymyn neu ddyfarniad llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny.6  Gelwir hyn yn ganiatâd talu. Mae'n drosedd gwneud taliad am hawliad heb ei dalu neu hawliad y mae anghydfod yn ei gylch heb gael caniatâd talu.7

Gallwch chi wneud cais am ganiatâd talu neu'r cyflenwr sy'n gwneud cais i'r llys perthnasol er mwyn cael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2024

Dyddiadau cau ar gyfer adrodd

Bydd y dyddiad cau ar gyfer adrodd i ni yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar eich ymgyrch:

  • Os yw eich gwariant ar yr ymgyrch yn £250,000 neu'n is, rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen o fewn tri mis i'r etholiad1  
  • Os yw eich gwariant ar yr ymgyrch dros £250,000, rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen ac adroddiad yr archwilydd o fewn chwe mis i'r etholiad2  

Os yw'n ofynnol i chi gyflwyno datganiad cyfrifon, mae'n rhaid i chi gyflwyno hwn o fewn chwe mis i gyflwyno eich ffurflen gwariant i ni.3

Gallech gael eich cosbi os na chyflwynwch eich ffurflen neu eich datganiad cyfrifon ar amser.4  Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn pa ddyddiad sy'n berthnasol i'ch ffurflen. 

Gwariant ar ymgyrch o £250k neu laiGwariant ar ymgyrch o fwy na £250k
4 Hydref 20244 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024

Termau allweddol a ddefnyddir yn y canllawiau hyn

Rhodd

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae rhodd yn cynnwys arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, am ddim neu ar delerau anfasnachol, at ddiben talu am wariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, ac sy'n werth dros £500.1

Mae enghreifftiau cyffredin o roddion yn cynnwys: 

  • rhodd o arian neu eiddo 
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad 
  • tanysgrifiad neu daliadau ymlyniad 
  • defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o swyddfa

Gweler Beth yw rhodd? am ragor o wybodaeth.

Terfyn gwariant etholaethol

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU, ni chaiff ymgyrchydd nad yw'n blaid wario mwy na therfyn penodol (£17,533) ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir mewn etholaeth seneddol benodol.2

Mae'r terfyn hwn yn gymwys i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid, a hynny cyn cyflwyno hysbysiad a phan fydd wedi'i gofrestru.

Gweler Terfynau gwariant am ragor o wybodaeth.

Caniatâd talu

Mae'n rhaid i chi gael a thalu anfonebau ar gyfer gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir o fewn terfynau amser penodol. Os bydd anfonebau heb eu talu o hyd ar ôl y terfyn amser, mae'n rhaid i chi, neu'r cyflenwr, gael gorchymyn neu ddyfarniad llys er mwyn i chi allu talu'r anfoneb.3  Caniatâd talu yw'r enw ar yr awdurdodiad hwn.

Gweler Terfynau amser ar gyfer cael a thalu anfonebau am ragor o wybodaeth.

Gwerth marchnadol

Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai'r eitem ar werth ar y farchnad agored.4

Trothwy hysbysu 

Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn.5  Ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau.

A ganiateir

Defnyddir y term ‘a ganiateir’ i gyfeirio at roddion y gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau eu derbyn o dan PPERA.

Adrodd cyn y bleidlais

Yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'n rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau adrodd ar rai rhoddion i'r Comisiwn cyn y diwrnod pleidleisio, oni bai eu bod wedi'u heithrio.

Mae hyn yn cynnwys adroddiadau chwarterol ar roddion yn ystod y cyfnod cyn diddymu (adroddiadau chwarterol cyn y bleidlais) ac adroddiadau wythnosol rhwng dyddiad diddymu'r Senedd a'r diwrnod pleidleisio (adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais).

Manylion/cyfranogwyr perthnasol

Yn unol â'r gyfraith, mae'n rhaid i rai sefydliadau ddarparu enwau'r bobl sy'n rhan o'u cyrff llywodraethu neu bwyllgorau pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. Yn y gyfraith, ‘cyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad yw'r enw ar y rhain.6

Gweler Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol am ragor o wybodaeth.

Trothwyon adrodd

Mae'r trothwyon adrodd fel a ganlyn:

  • £20,000 yn Lloegr
  • £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Os bydd ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn gwario dros y trothwy adrodd mewn unrhyw ran o'r DU, mae'n rhaid iddo gyflwyno adroddiad ar ei wariant a'i roddion i ni ar ôl yr etholiad.7

Gweler Trothwyon adrodd am ragor o wybodaeth.

Person cyfrifol

Yr unigolyn sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn dilyn y cyfreithiau ar wariant, rhoddion ac adrodd a nodir yn PPERA.8

Gweler Person cyfrifol am ragor o wybodaeth.

Gwariant a dargedir

Gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid wleidyddol gofrestredig neu unrhyw un o'i hymgeiswyr.9

Gweler Gwariant a dargedir am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023