Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd

Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif.1  Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol: 

  • canfod neu geisio canfod y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio 
  • cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y cyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
     

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2024