Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Penodi eich asiantiaid cyfrif
Cewch chi (neu eich asiant etholiad) hefyd benodi asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r rhai a restrir isod, fel asiant cyfrif.
Ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)2
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff3
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau4
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod5
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19836
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20127
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Caiff is-asiantiaid hefyd fod yn bresennol yn ystod y bleidlais a'r cyfrif, ond dim ond yn lle'r asiant etholiad.
Bydd pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif y gallwch eu penodi. Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer.8 Yn y cyfrif, oni fydd amgylchiadau arbennig, ni fydd nifer yr asiantiaid cyfrif a ganiateir fesul ymgeisydd yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif) â nifer yr ymgeiswyr.9
Ym mhob un o'r cyfrif lleol, gellir dynodi un asiant cyfrif ar gyfer pob ymgeisydd fel rhywun sydd wedi'i awdurdodi i ofyn am ailgyfrif. Rhaid i'r dynodiad gael ei wneud ar yr un pryd â'u penodiad yn asiant cyfrif.
Rhaid i'r cais i benodi'r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant etholiad. Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir.10 Rhaid gwneud penodiad ar wahân ar gyfer pob cyfrif lleol, hyd yn oed os cynhelir pob cyfrif lleol mewn lleoliad canolog.11 Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid yw erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.12
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.13
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylai 'r hyn na ddylai asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld yn y cyfrif, yn ein canllawiau Beth mae asiant cyfrif yn ei wneud?
- 1. Para 33, Atodlen 2 a Phara 31, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 33(1), Atodlen 2 a Phar 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Para 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Para 33(2), Atodlen 2 a Phara 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Para 33(5), Atodlen 2 a Phara 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13