| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw gwaith asiant cyfrif?

Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:

  • maent yn arsylwi ar y broses gyfrif ac yn sicrhau ei bod yn gywir
  • gallant dynnu sylw'r staff cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
  • os byddant yn anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i'r Swyddog Canlyniadau Lleol farcio ar y papur pleidleisio "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”
  • os caiff cyfrif ei atal am unrhyw reswm, os bydd toriad rhwng diwedd y dilysu a dechrau'r cyfrif a/neu os bydd angen i flychau pleidleisio gyda phapurau pleidleisio wedi'u dilysu gael eu cludo i leoliad gwahanol i'w cyfrif, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn selio'r blychau a'r amlenni pleidleisio.

Gallwch chi a'ch asiant etholiad wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif hawl i'w wneud.1
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2024