Er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu dderbyn y swm o £5,000 erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.
Gellir talu'r ernes gan ddefnyddio:
arian parod (punnoedd Sterling yn unig)
drafft bancwr yn y DU
Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd dderbyn ernes ar ffurf siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, gall wrthod gwneud hynny. Os ydych yn ystyried talu'r ernes yn un o'r ffyrdd hyn, dylech holi Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu i weld a yw'r dull o dalu'n dderbyniol cyn gynted â phosibl.
Os bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn caniatáu i'r ernes gael ei thalu drwy gerdyn debyd neu gredyd, gall y cwmni dan sylw godi ffi am y trafodyn. Os felly, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â'r ernes o £5,000.
Oni bai mai eich asiant yw'r person sy'n talu'r ernes, a'ch bod wedi hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu am ei benodiad, bydd angen i'r person sy'n talu'r ernes roi ei enw a'i gyfeiriad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar yr adeg honno.
Ad-delir yr ernes os cewch fwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn ardal yr heddlu. Bydd yr ymgeiswyr hynny a gaiff 5% neu lai o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn colli eu hernes.