Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

A fydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad ai peidio?

Ar ôl i'r enwebiadau gau, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn penderfynu a oes angen cynnal etholiad. 1  Os bydd mwy nag un ymgeisydd yn sefyll a enwebwyd yn ddilys yn ardal yr heddlu ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw'n ôl, bydd etholiad.

Os bydd dau ymgeisydd yn sefyll, etholir Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar sail y cyntaf i'r felin. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y system bleidleisio yn ein canllawiau Y system etholiadol.

Fodd bynnag, os mai dim ond un ymgeisydd fydd yn sefyll ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw'n ôl, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn datgan bod yr ymgeisydd hwnnw wedi'i ethol.

Os etholir ymgeisydd mewn etholiad diwrthwynebiad, bydd yn rhaid iddo wneud datganiad o ran ei wariant ar yr etholiad o hyd. Cewch ragor o wybodaeth am gyflwyno ffurflenni gwariant a dechrau yn y swydd yn ein canllawiau

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Rhagfyr 2023