Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Asesu sut i roi gwybod am wariant

Ar gyfer pob gweithgaredd rydych wedi sefydlu ei fod yn wariant ymgeisydd, rhaid i chi gofio gweithio allan pa fath o wariant ydyw, fel eich bod yn gwybod sut i roi gwybod amdano:

Os caiff eitem neu wasanaeth eu darparu i'r ymgeisydd a'u defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna mae'n debygol bod y gyfran berthnasol o gost targedu ardal etholiadol yr ymgeisydd yn adroddadwy fel gwariant tybiannol, os bydd yn bodloni'r profion.

Os na wneir hyn gan yr ymgeisydd neu'r asiant ac na chaiff ei darparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohoni gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd.

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos pennu'n gyntaf a yw'r gwariant yn hyrwyddo'r ymgeisydd, ac yna bennu sut y dylid rhoi gwybod amdano.

Examples

Enghraifft A

Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, dim ond am bolisïau cenedlaethol y mae'r arweinydd yn siarad. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Nid yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd yn ôl ei enw na thrwy'r ardal etholiadol.

Gan nad yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd, nid yw'n cyfrif fel gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.

Bydd y gwariant ar y digwyddiad yn wariant plaid os caiff ei gynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer pleidiau. 1

Enghraifft B

Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol y rhan fwyaf o'r amser, ond mae'n treulio 10 munud yn sôn yn benodol am yr ardal etholiadol a'r ymgeisydd. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.

Gan fod yr ymgeisydd a'r ardal etholiadol yn cael eu henwi, ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.

Nid oes dim wedi'i ddarparu i'r ymgeisydd er mwyn iddo ei ddefnyddio, felly nid yw'n wariant tybiannol. Yn hytrach, mae'r blaid yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd.

Mae'r gwariant ar y rhan o'r digwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn enghraifft o ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Rhaid i'r blaid beidio â mynd i fwy o dreuliau na'r swm a ganiateir ar gyfer yr ardal heddlu honno ar hyrwyddo'r ymgeisydd, oni bai fod ganddi awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant i wneud hynny. 2

Enghraifft C

Mae'r blaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol, ond mae hefyd yn gwahodd yr ymgeisydd i roi ei araith ei hun am 10 munud o'r amser. Mae'r ymgeisydd yn derbyn ac yn rhoi'r araith.

Nodir yr ymgeisydd am ei fod ymddangos ar y llwyfan, felly ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.

Mae'r blaid wedi rhoi cyfleuster i'r ymgeisydd – slot yn ystod y digwyddiad – ac mae'r ymgeisydd wedi'i ddefnyddio drwy roi'r araith.

Mae hyn yn wariant tybiannol. Rhaid cofnodi'r gwerth priodol ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, ac fel rhodd gan y blaid pan fydd yn gymwys.

Enghraifft D

Mae'r ymgeisydd yn cynnal digwyddiad yn ei ardal etholiadol, a drefnir gan ei asiant. Mae'r blaid yn darparu arian i dalu costau'r digwyddiad.

Mae'r ymgeisydd yn rhan ganolog o'r digwyddiad felly mae'r gwariant hwn yn hyrwyddo'r ymgeisydd. Yr asiant sydd wedi mynd i'r gwariant, felly mae hyn yn wariant ymgeisydd arferol a rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen.

Mae unrhyw rodd o arian dros £50 a ddarperir gan y blaid yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdani yn yr adran rhoddion yn y ffurflen.3  Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Ebrill 2024