Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd
Ceir rheolau i sicrhau y gellir rheoli'r gwariant a'i gofnodi a rhoi gwybod amdano'n gywir.
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Pan gaiff asiant ei benodi, dim ond y bobl ganlynol y caniateir iddynt fynd i wariant etholiadol:
yr asiant
yr ymgeisydd
unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu'r asiant
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Os ydych yn awdurdodi rhywun i fynd i wariant ymgeisydd, rhaid gwneud hynny'n ysgrifenedig a nodi'n glir faint y gall ei wario ac ar beth.1
Yr asiant, yn hytrach na'r ymgeisydd, ddylai wneud taliadau ar gyfer y rhan fwyaf o wariant yr ymgeisydd.2
Ceir pedwar eithriad:
gall yr ymgeisydd dalu am eitemau cyn i'r asiant gael ei benodi 3
gall ymgeisydd dalu hyd at £5,000 am dreuliau personol ar gyfer teithio a llety4
gall yr asiant awdurdodi rhywun yn ysgrifenedig i dalu am fân dreuliau fel deunydd ysgrifennu neu gostau postio. Rhaid i'r awdurdodiad gynnwys swm y taliad.5
gall yr asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw'r gwariant yn cyfrif tuag at ‘swm a ganiateir’ y person hwnnw yn ardal yr heddlu ar ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd (gweler Ymgyrchu lleol). 6
Gall y person a awdurdodir i fynd i'r gwariant hefyd wneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw. 7
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un heblaw'r ymgeisydd, yr asiant neu'r is-asiant – er enghraifft gan berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig i fynd i wariant – yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd os bydd dros £50 (ac na chaiff ei ad-dalu gan yr asiant). 8
Ceir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.
Gall ymgeiswyr hefyd weithredu fel eu hasiant etholiad eu hunain. 9
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r rheolau hyn ac yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau neu dalu costau.
1. Erthygl 32(4) a erthygl 34(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 1