Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ar ôl yr etholiad

Ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd ysgrifennu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 1

Rhaid i'r asiant gydymffurfio â'r terfynau amser ar gyfer:

  • derbyn a thalu anfonebau
  • anfon ffurflen gwariant a rhoddion at Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu

Rhaid i'r asiant a'r ymgeisydd hefyd gyflwyno datganiadau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir. 2

Rhaid i chi gyflwyno ffurflen a datganiadau, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian. 3  Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.

Nodir y terfynau amser hyn, a rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant, yn Ar ôl yr etholiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023