Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pryd mae'r cyfreithiau ynghylch gwariant ymgeisydd yn gymwys?

Defnyddiwn y term 'cyfnod a reoleiddir' i olygu'r adeg pan fydd y cyfreithiau ynghylch gwariant yn gymwys.

Y cyfnod a reoleiddir

Mae'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr yn 2024 yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 2 Mai 2024. 1

Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?

Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r dyddiad olaf y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad, sef dydd Mawrth 26 Mawrth 2024. 2

Byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad hwn os ydych chi neu eraill eisoes wedi cyhoeddi eich bwriad i sefyll. 3  Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion.

Os nad yw eich bwriad i sefyll wedi cael ei gyhoeddi erbyn 26 Mawrth 2024, byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain:

  • y dyddiad y cyhoeddir eich bod yn bwriadu sefyll
  • y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu 4

Rhaid i hyn fod cyn y daw'r cyfnod enwebu i ben, sef 4pm ddydd Gwener 5 Ebrill 2024 5
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Ionawr 2024