Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Treuliau personol

Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol (fel costau gwesty) yr ymgeisydd. 1  Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant, ond rhaid i chi roi gwybod amdanynt yn eich ffurflen gwariant. 2  

Gall treuliau personol gynnwys llogi car i'r ymgeisydd os nad yw'r ymgeisydd yn berchen ar gar eisoes, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn ardal etholaethol wledig, efallai y bydd yn rhesymol llogi cerbyd gyriant pedair olwyn i gyrraedd ardaloedd anghysbell.

Gall ymgeisydd dalu hyd at £5,000 o ran treuliau personol. Rhaid i'r asiant dalu unrhyw beth uwchlaw'r swm hwn. 3

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o'u treuliau personol i'w hasiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 4
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023