Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Eitemau a roddir am ddim neu am bris gostyngol a ‘gwariant tybiannol’

Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu'n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngol.

Ymysg yr enghreifftiau posibl o rodd mewn da mae:

  • gofod mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
  • taflenni
  • rhoi bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr

Pan fyddwch yn defnyddio rhywbeth a ddarparwyd i chi fel rhodd mewn da, bydd gwerth llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid rhoi gwybod amdano. 1

Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.

Rhoddion mewn da a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd i chi eu defnyddio neu er budd i chi

O dan y gyfraith, defnyddir dau derm gwahanol wrth asesu gwerth y rhoddion mewn da hyn.

Caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd pan roddir perchenogaeth i'r ymgeisydd. Os caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘gwerth marchnadol’. 2  Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem neu'r nwyddau pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored. 3

I'r gwrthwyneb, caiff eitemau, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo os na fydd newid mewn perchnogaeth. Yn hytrach, os caiff eitem, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘cyfradd fasnachol'. 4  Nid oes unrhyw ddiffiniad penodol o gyfradd fasnachol o dan y gyfraith, ond gall hyn olygu'r cyfraddau cyfartalog ar gyfer yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gynigir gan ddarparwyr masnachol.

Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio'r term ‘gwerth masnachol’ fel term cyffredinol ar gyfer gwerth marchnadol a chyfradd fasnachol.

Beth sy'n cyfrif fel gwariant tybiannol?

Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol

  1.  caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi 
  2.  caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 5
  3.  mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 6
  4.  rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 7
  5.  byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 8  Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau sy'n nodi'r profion hyn.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023