Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol

Os byddwch yn poeni am dwyll etholiadol, dylech siarad yn gyntaf â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Canlyniadau perthnasol. 

Efallai y byddant yn gallu egluro p'un a gyflawnwyd twyll etholiadol ai peidio, a gallant gyfeirio eich pryderon at yr heddlu os oes angen. Gall hefyd roi manylion swyddog cyswllt yr heddlu ar gyfer yr heddlu perthnasol fel y gallwch roi gwybod am yr honiad eich hun.

Os bydd gennych dystiolaeth o drosedd etholiadol, dylech gysylltu â'r heddlu ar unwaith, gan ddefnyddio'r rhif 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys oni fydd trosedd yn cael ei chyflawni yn y fan a'r lle, pan ddylech ffonio'r rhif safonol sef 999. 

Mae gan bob heddlu Swyddog Cyswllt Unigol penodol a fydd yn gallu rhoi cyngor er mwyn sicrhau yr ymchwilir i'ch honiadau'n gywir. Dylech fod yn barod i roi datganiad iddo ac ategu eich honiad. 

Os nad ydych am roi datganiad i'r heddlu, gallwch leisio eich pryderon yn ddienw ar wefan Crimestoppers neu drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111

Mae manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau Lleol ar gael yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad. 

Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.

Noder, os bydd eich honiad yn ymwneud â materion cyllid ymgyrchydd plaid, etholiadol neu gofrestredig, fel gwariant a rhoddion, yna dylech ddilyn y cyngor a roddir yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi/gwneud-honiad 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Tachwedd 2023