Ymgeiswyr yw un o brif wynebau cyhoeddus yr etholiad, a bydd eich gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu ar eich ymddygiad yn ofalus.
Dylai pleidleiswyr allu ymddiried ynoch i gydymffurfio â'r gyfraith a chynnal uniondeb a diogelwch y broses etholiadol. Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac, yn benodol, maent yn gyfrifol am ei rheolaeth ariannol yn gyfreithiol.
Dylech sicrhau bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llawn ac yn gwybod beth i'w wneud i
sicrhau y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais heb unrhyw rwystr; ac y gall
ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr gymryd rhan yn ddiogel yn yr etholiad hwn heb brofi bygythiadau
Dim ond os oes tystiolaeth o drosedd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau neu gyhuddiadau gael eu cadarnhau bob amser pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu.
Dylech hefyd ystyried yr effaith ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd os gwneir honiadau anwir neu ddisylwedd ynghylch ymddygiad ymgyrchwyr eraill.
Nid yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu na'r Comisiwn yn rheoleiddio'r troseddau hyn. Ceir manylion am sut i roi gwybod am unrhyw honiadau yn ein canllawiau ar ‘Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol’