Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Tabl o droseddau
Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol a throseddau nad ydynt yn rhai etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun pan fydd angen.
| Llwgrwobrwyo 1 | Mae'r drosedd o lwgrwobrwyo yn cynnwys, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, roi unrhyw arian neu sicrhau unrhyw swydd ar gyfer unrhyw bleidleisiwr neu ar ei ran, er mwyn ysgogi unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio |
Anrhegu 2 | Mae unigolyn yn euog o dretio os bydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad, yn rhoi neu'n darparu unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth er mwyn dylanwadu'n llygredig ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. Mae a wnelo tretio â bwriad llygredig – nid yw'n gymwys i letygarwch arferol. |
Dylanwad gormodol 3 | Bydd person yn euog o ddylanwad gormodol os bydd yn cyflawni gweithgaredd
Y gweithgareddau hyn yw:
Nid yw dylanwad gormodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i'r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy'n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol hefyd fod yn ddylanwad gormodol. |
Trin dogfennau pleidleisio drwy'r post gan ymgyrchwyr gwleidyddol 4
| Mae'n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'u teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt. |
| Cambersonadu 5 | Ystyr cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, naill ai drwy'r post neu'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio, fel etholwr neu ddirprwy. Mae'r drosedd hon yn gymwys p'un a yw'r person a gaiff ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ffuglennol. Mae hefyd yn drosedd cynorthwyo, annog neu gaffael cambersonadu.
|
Datganiadau ffug Ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd 6
| Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad ffeithiau ffug am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw datganiadau ffug nad ydynt yn ymwneud â chymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall yn anghyfreithlon o dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried yn enllibus neu'n athrodus. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwneud datganiad ffug bod ymgeisydd yn tynnu ei enw'n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall.
|
Datganiadau ffug Mewn papurau enwebu 7
| Mae'n drosedd gwneud datganiad ar bapur enwebu y gwyddoch ei fod yn ffug. Er enghraifft, os ydych yn gwybod eich bod wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad, ni ddylech lofnodi'r ffurflen cydsynio ag enwebiad. |
| Gwybodaeth gofrestru ffug a chais ffug i bleidleisio drwy'r post/drwy ddirprwy 8 | Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug ar ffurflen gais cofrestru, pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth ffug yn cynnwys llofnod ffug |
| Cais ffug am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy 9 | Bydd unigolyn yn euog o drosedd os bydd yn gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn cael pleidlais nad oes ganddo'r hawl i'w chael neu er mwyn atal rhywun arall rhag pleidleisio. |
| Troseddau'n gysylltiedig ag aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy 10 | Ceir amryw droseddau o ran aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys unigolyn yn pleidleisio drwy'r post fel etholwr neu ddirprwy pan fo wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio a chymell neu gaffael rhywun arall i gyflawni'r drosedd. |
| Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais 11 | Rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â'r broses etholiadol neu sy'n bresennol mewn rhai digwyddiadau gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn rhoi copi o'r gofynion swyddogol o ran cyfrinachedd i bawb sy'n bresennol yn yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio, ac i asiantiaid pleidleisio. |
| Deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch | Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol argraffedig gynnwys argraffnod, 12 peidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio 13 a pheidio â chynnwys datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall. 14 Nid yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu na'r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac ni allwn wneud unrhyw sylwadau am gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn |
| Casineb hiliol | O dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, ymosodol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o wneud hynny. |
| Swyddogion yr heddlu fel canfaswyr 15 | Ni chaiff aelodau o'r heddlu ganfasio a byddent yn cyflawni trosedd petaent yn gwneud hynny. Ni chaiff aelodau o'r heddlu ddarbwyllo unrhyw un i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio. |
- 1. Erthygl 67, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 68, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 114A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 9A, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 17, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 61, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 21, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 13D, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Paragraff 10, Atodlen 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 18, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 22, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 64, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 55, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Erthygl 61, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Erthygl 60, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 15