Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus

Efallai y byddwch am ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, gan hyrwyddo eich syniadau ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn cadw rhestr o leoliad ac argaeledd ystafelloedd cyfarfod yn ei ardal. Bydd y rhestr hon ar gael i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad o'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad. 

Pan fyddwch yn ymgeisydd, cewch ddefnyddio ystafelloedd cyhoeddus hyd at y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. 1

Ceir manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad 

Dylech gysylltu â pherchennog y safle i drefnu ystafell, gan roi rhybudd rhesymol er mwyn lleihau'r risg y caiff y cais ei wrthod. Nid yw eich hawl i ddefnyddio ystafelloedd yn cynnwys yr oriau y defnyddir ysgol at ddibenion addysgol na phan fydd cytundeb wedi'i wneud i osod ystafell wedi'i wneud ymlaen llaw.

Ni chodir tâl am ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, ond rhaid i chi dalu am unrhyw gostau yr eir iddynt, megis gwres, golau a glanhau, ac am unrhyw ddifrod i'r eiddo.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023