Defnyddio'r gofrestr etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r cofrestrau etholiadol llawn am ddim. 1
Cewch hefyd weld y rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ('y rhestrau o bleidleiswyr absennol') ar gyfer eich ardal heddlu gyfan.
Caiff pleidiau gwleidyddol cofrestredig gopi o'r gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg.
Mae dau fath o gofrestr.
Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr –
Y gofrestr etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys a all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, fel canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn rhan o'r gofrestr etholwyr, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau er mwyn cadarnhau enwau a chyfeiriadau. Gall etholwyr ofyn am i'w henw a'u cyfeiriad beidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr agored