Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Is-asiantiaid

Is-asiantiaid 1

Gall eich asiant etholiad benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran ledled ardal yr heddlu lle rydych yn sefyll, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny o'r ardal yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu ardal yr heddlu

Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiadol ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.

Fodd bynnag, yr unig ddigwyddiad etholiadol y caiff is-asiant fod yn bresennol ynddo yn ei rinwedd ei hun yw agor amlenni pleidleisiau post, ar yr amod bod hynny'n digwydd yn yr ardal lle y'i penodwyd. Hefyd, caiff fod yn bresennol yn y dilysu a chyfrif, yn ogystal â chyfrifo'r canlyniad, ar yr amod ei fod wedi'i benodi i ymdrin â'r prosesau hynny ar gyfer yr ardal benodol honno a'i fod yn gweithredu yn lle'r asiant etholiad. Os bydd yr asiant etholiad yn bresennol, ni chaiff fod yn bresennol. 

Dylai'r asiant etholiad sicrhau bod unrhyw is-asiant yn ymwybodol o'r rheolau gwariant ac etholiadol, oherwydd caiff unrhyw beth a wneir gan is-asiant ei drin fel petai wedi'i wneud gan yr asiant etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth am wariant etholiad yn ein canllawiau ar Wariant a rhoddion.

Rhaid i'r asiant etholiad hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ysgrifenedig am enw a chyfeiriad pob is-asiant a'r ardal lle y caiff weithredu erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn darparu ffurflen i chi ei defnyddio. Neu, gallwch ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol ym mhecyn enwebu'r Comisiwn.

Caiff yr asiant etholiad ddiddymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg a phenodi rhywun arall yn ei le drwy roi manylion yr is-asiant newydd i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Os penodir is-asiant arall, rhaid i'r asiant etholiad ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad, cyfeiriad swyddfa ac ardal y penodiad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.

Pan fydd is-asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni'r dyletswyddau gofynnol oni fydd yr asiant etholiad yn diddymu ei benodiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024