Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Pwy all fod yn asiant etholiad?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Fodd bynnag, ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:

  • Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
  • dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
  • swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
  • partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
  • unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
  • unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126

Efallai y bydd gan eich plaid reolau penodol hefyd ynghylch pwy y gallwch ei benodi'n asiant etholiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Tachwedd 2024