Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Penodi asiant etholiad

Yn sgil y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylech ystyried eich penodiad yn ofalus a sicrhau bod yr unigolyn dan sylw yn deall ei rwymedigaethau. Gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Rhaid i chi, neu rywun ar eich rhan, ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa eich asiant etholiad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod cyn yr etholiad.1 Dylai'r datganiad gael ei lofnodi gennych chi (neu'r person sy'n gwneud y datganiad ar eich rhan) a'r asiant i ddangos ei fod yn derbyn y penodiad.

Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer eich asiant etholiad fel y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol gysylltu ag ef yn hawdd

Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio ffurflen datganiad yr asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn. Os na fyddwch yn penodi rhywun fel eich asiant erbyn y dyddiad cau, chi fydd eich asiant eich hun yn awtomatig.2

 

Rhaid bod cyfeiriad swyddfa eich asiant yn ardal yr heddlu lle cynhelir yr etholiad. Rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.3 Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant fydd cyfeiriad ei swyddfa, ond gallai hefyd fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid neu swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.

Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun am nad ydych wedi penodi rhywun arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad a roddwyd gennych ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os yw'r cyfeiriad hwnnw y tu allan i ardal yr heddlu, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad eich cynigydd (h.y. y llofnodwr cyntaf ar eich ffurflen enwebu).4

Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.

Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau.5 Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024