Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Penodi asiant etholiad
Asiant etholiad yw'r person sy'n gyfrifol am reoli ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd yn briodol ac, yn arbennig, am ei rheolaeth ariannol. Rhaid i bob ymgeisydd benodi asiant etholiad.
Rhaid i chi gael eich hysbysu am benodiad asiant etholiad erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiadau tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Rydym wedi llunio ffurflen hysbysu ynghylch penodiad asiantiaid etholiad fel rhan o set o bapurau enwebu.1 2
Dylech gyfleu gwybodaeth am brosesau'r etholiad, y cod ymddygiad a'r pwyntiau ymddygiad safonol i'r asiant etholiadol cyn gynted â phosibl. Yn benodol, dylai unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ddarparu dolenni i'r rheolau newydd ynghylch trin pleidlais bost a'r rheolau newydd ynghylch dylanwadu gormodol a bygwth, a'u hamlygu.
A all ymgeisydd weithredu fel ei asiant ei hun?
Gall ymgeisydd benodi ei hun fel ei asiant etholiad.
Os na chaiff asiant ei benodi erbyn y terfyn amser ar gyfer tynnu enw yn ôl, yr ymgeisydd fydd ei asiant etholiad ei hun yn awtomatig.2 3
Bydd ymgeisydd hefyd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun:
- os bydd yn dirymu penodiad ei asiant, neu
- os bydd ei asiant yn marw, ac na chaiff asiant newydd ei benodi ar ddiwrnod y farwolaeth neu'r diwrnod canlynol3 3 4
Cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiad
Rhaid i'r asiant etholiad gael cyfeiriad swyddfa, y gellir anfon pob cais, hysbysiad, hysbysiad cyfreithiol a dogfen iddo. Rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.4 5
Rhaid i leoliad y swyddfa fod yn un o'r lleoliadau canlynol:
- o fewn yr etholaeth seneddol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- o fewn etholaeth sy'n cyd-ffinio â'r etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- yng Nghymru, o fewn sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- yn Llundain, o fewn un o fwrdeistrefi Llundain sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, lle mae'r ymgeisydd yn sefyll5 6
Yn aml, bydd cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiad yr un peth â chyfeiriad ei gartref. Fel arall, efallai mai cyfeiriad swyddfa'r blaid wleidyddol leol neu swyddfa a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad fydd cyfeiriad ei swyddfa.
Os bydd yr ymgeisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad fel ei asiant etholiad ei hun, rhaid iddo roi cyfeiriad swyddfa o fewn yr ardal gymhwyso a ddiffinnir yn y pwyntiau bwled uchod.
Pan fydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun am na wnaeth benodi unrhyw un arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, h.y. yr un a roddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os bydd y cyfeiriad hwnnw y tu allan i'r ardal gymwys berthnasol fel y'i diffinnir yn y pwyntiau bwled uchod, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad yr unigolyn a enwir yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd fel cynigydd.7 6
- 1. Adran 67(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 67(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Adran 67(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3 a b c
- 4. Adran 70(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4 a b
- 5. Adran 69(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5 a b
- 6. Adran 69(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6 a b
- 7. Adran 70(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7