Asiantiaid Pleidleisio drwy'r Post, Pleidleisio a Chyfrif
Gall ymgeiswyr, neu ei asiant etholiad, benodi asiantiaid i arsylwi ar y broses o agor pleidleisiau post, cynnal y bleidlais mewn gorsafoedd pleidleisio a dilysu a chyfrif pleidleisiau. Chi sy'n gyfrifol am dderbyn yr hysbysiadau o benodiad ar gyfer yr asiantiaid hyn.1
Gallwch gael rhagor o fanylion am yr asiantiaid hyn yn y canllawiau sy'n dilyn.
Rhaid i chi sicrhau bod pob asiant penodedig yn cael copi o'r gofynion perthnasol o ran cyfrinachedd ar gyfer agor pleidleisiau post, cynnal y bleidlais a'r broses gyfrif, sydd wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan.2
1. Atodlen 1 Rheol 30 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 1