Pan fydd asiant etholiad wedi'i benodi gan ymgeisydd, ni all ddirymu ei rôl. Dim ond yr ymgeisydd all ddirymu'r penodiad.
Os bydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, ni waeth a yw wedi dod yn asiant am na wnaeth benodi un neu am ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad ei hun, gall hefyd ddirymu ei benodiad ei hun a phenodi asiant newydd.
Gellir dirymu penodiad asiant etholiadol ar unrhyw adeg, gan gynnwys ar ôl diwrnod y bleidlais. Gellir gwneud penodiad newydd yn yr un modd ag y disgrifir ar gyfer penodi asiant etholiadol; ac oni bai bod yr ymgeisydd yn penodi asiant etholiadol newydd, bydd yr ymgeisydd yn dod yn asiant i'w hun.
1
Rhaid i chi wedyn gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r hysbysiad am asiantiaid etholiad.
Lle y bo'n bosibl, os caiff asiant etholiad ei ddirymu a bydd eisoes wedi awdurdodi gwariant neu ddeunydd ymgyrchu, dylai'r ymgeisydd gael datganiad gan ei asiant blaenorol ynghylch unrhyw dreuliau yr aethpwyd iddynt yn ystod ei gyfnod fel asiant, i ategu ffurflen treuliau derfynol yr ymgeisydd.