Gall asiant etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran. Ni ellir penodi unrhyw is-asiantiaid mewn etholaeth fwrdeistref.1
Caiff asiantiaid etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid ar gyfer rhannau penodol o'r etholaeth, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu'r etholaeth.2
Rhaid i swyddfa'r is-asiant fod yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.3
Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiad ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.4
Hefyd, caiff fod yn bresennol yn ystod y broses o agor, dilysu a chyfrif pleidleisiau post, yn ogystal â'r broses o gyfrifo'r canlyniadau, ar yr amod bod hyn yn digwydd yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi a'i fod yn gweithredu yn lle'r asiant etholiad.
Rhaid i'r asiant etholiad roi hysbysiad ysgrifenedig i chi o enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa pob is-asiant a benodwyd ganddo a'r ardal lle y caiff weithredu erbyn yr ail ddiwrnod gwaith cyn yr etholiad. Dylech gynnwys ffurflen hysbysu ynghylch penodi is-asiantiaid yn eich pecynnau enwebu. Rydym wedi llunio ffurflen ar gyfer hysbysu am benodiad is-asiantiaid fel rhan o'r set ganlynol o bapurau enwebu y gallech ei defnyddio at y diben hwn.5
Caiff yr asiant etholiad ddirymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg. Os bydd is-asiant yn marw neu os caiff ei benodiad ei ddirymu, gall yr asiant etholiad benodi is-asiant newydd drwy roi datganiad ysgrifenedig i chi sy'n nodi enw, cyfeiriad, cyfeiriad swyddfa ac ardal penodi'r is-asiant newydd. Pan fydd enw, cyfeiriad, cyfeiriad cartref ac ardal penodi is-asiant wedi'i ddatgan i chi, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad o'r manylion hyn.6