Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cynllunio ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at yr etholiad

Mae'n rhaid i geisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy ddod i law erbyn y dyddiad cau ar gyfer yr etholiad perthnasol sydd ar ddod. Fodd bynnag, gellir penderfynu ar y broses o ddilysu hunaniaeth hyd at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio.

Nid oes dyddiad cau deddfwriaethol wedi'i ddarparu ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Dylech gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i:

  • gydlynu penderfyniadau ar geisiadau a diweddariadau dilynol i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol
  • monitro nifer y ceisiadau nad ydynt wedi'u paru â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y Porth Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy
  • cytuno ar negeseuon ar gyfer eich gweithgarwch cyfathrebu ag etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio

Ar gyfer yr etholwyr hynny y penderfynir ar eu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn ystod yr wythnos yn arwain at y diwrnod pleidleisio, bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn:

  • rheoli'r cyfathrebiadau gyda'r etholwr a'r dirprwy a benodir 
  • newid ac argraffu’r rhestr o ddirprwyon ar gyfer yr orsaf bleidleisio briodol cyn gynted â phosibl ar ôl penodi’r dirprwy ac, os penderfynir ar y cais am ddirprwy ar y diwrnod pleidleisio, sut y byddwch yn cyfathrebu hyn i staff priodol yr orsaf bleidleisio mewn unrhyw fodd sydd ar gael i chi
  • sicrhau bod amser i ddirprwy sy’n pleidleisio gael gwybod eu bod wedi’u penodi a mynd i’r orsaf bleidleisio a phleidleisio erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio

 

Cross-boundary constituencies

Os ydych chi fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gyfrifol am etholaeth sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â’r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth am unrhyw etholwyr newydd sydd hefyd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl fel y gallwch drefnu i'r trefniadau angenrheidiol gael eu gwneud.

Planning for the determination of proxy vote applications close to a poll

Rheoli cyfathrebiadau ag etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau

Dylech sicrhau eich bod chi a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) yn cytuno ar y negeseuon mewn unrhyw gyfathrebiadau ag etholwyr sy'n gwneud cais yn agos at y dyddiad cau. O ystyried y gall y gwaith o brosesu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gymryd mwy o amser oherwydd y gofyniad i ddilysu pwy ydynt, efallai y bydd angen negeseuon penodol ar gyfer etholwyr sy'n gwneud cais yn agos at y dyddiad cau. 


Rheoli ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy na fydd yn cael eu penderfynu erbyn y diwrnod pleidleisio

Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu ag unrhyw ymgeiswyr nad yw eu cais am bleidlais drwy ddirprwy yn mynd i gael ei benderfynu cyn y diwrnod pleidleisio.

Gallwch ddefnyddio e-bost neu ffôn i gysylltu ag ymgeiswyr os oes gennych y manylion cyswllt hynny. Dylech sicrhau eu bod yn gwybod:

  • na fydd eu cais am bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei brosesu mewn pryd ar gyfer y diwrnod pleidleisio 
  • beth yw eu hopsiynau ar gyfer pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio – h.y. gorsaf bleidleisio yn unig neu ddirprwy brys
  • lle bo'n briodol, y bydd eu cais yn cael ei brosesu ar gyfer etholiadau yn y dyfodol
     
Rheoli’r gwaith o gyfathrebu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr o ddirprwyon lle penderfynir ar geisiadau hyd at ac yn cynnwys diwrnod yr etholiad 

Dylech gytuno â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) ar ddull o gyfleu unrhyw ychwanegiadau i'r rhestr o ddirprwyon sy'n deillio o benderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy hyd at ac yn cynnwys diwrnod yr etholiad. 

Os yw’r rhestrau dirprwy wedi’u hargraffu eisoes, dylai’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd), lle bo modd, ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir ei rhoi i’r orsaf bleidleisio berthnasol a’i hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.

Os bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn penderfynu ar gais am ddirprwy ar y diwrnod pleidleisio, dylech hefyd roi gwybod i staff priodol yr orsaf bleidleisio cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dirprwy gael ei benodi, drwy unrhyw ddull sydd ar gael i chi.

Er y bydd yn ofynnol i berson a benodir fel dirprwy ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio i brofi pwy ydynt cyn y gellir rhoi papur pleidleisio iddynt, nid yw'n ofynnol iddynt brofi eu bod wedi'u penodi'n ddirprwy. Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y mae eu cais wedi'i dderbyn yn eu hawdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion y person y mae'n pleidleisio ar eu rhan. Dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori'r dirprwy i fynd â'r awdurdodiad hwnnw gyda nhw a'i roi i staff yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio i ddangos bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio ac yna dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.

Dylid ymdrin â'r dull y cytunwyd arno ar gyfer cyfathrebu ychwanegiadau i'r rhestr dirprwyon ar y diwrnod pleidleisio yn y sesiwn hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddiant.

Gallech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol ynghylch ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy a ganiateir ar y diwrnod pleidleisio a dylent roi gwybod iddynt am y gweithdrefnau i'w dilyn. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024