Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Efallai y bydd etholwr yn sylweddoli na all fynd i'r orsaf bleidleisio ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer trefnu dirprwy arferol fynd heibio. Gall etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng i bleidleisio ar ei ran yn yr orsaf bleidleisio o dan rai amgylchiadau:1
- yn achos anabledd (p'un a yw'n gyflwr meddygol, salwch neu rywbeth arall) sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol i benodi dirprwy (h.y. ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad)
- os yw'n glaf iechyd meddwl a gedwir o dan bwerau sifil (h.y. y rhai nad ydynt yn droseddwyr a gadwyd hefyd)
- os yw ei alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth yn golygu na all fynd i'r orsaf bleidleisio ei hun, ar yr amod ei fod ond yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy (h.y. 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais)
Gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy fynd heibio (h.y. ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad) hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gytuno ag ef ar ddull o gyfleu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gytuno â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill ar ddull o rannu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Nid yw'n ofynnol i rywun a benodir yn ddirprwy mewn argyfwng ddarparu unrhyw ddogfennaeth er mwyn cael caniatâd i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Pryd bynnag y caiff dirprwy mewn argyfwng ei benodi, dylech hysbysu staff yr orsaf bleidleisio briodol cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dirprwy gael ei benodi, a thrwy unrhyw ffordd bosibl.
Lle bynnag y bo modd, fodd bynnag, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y derbyniwyd ei gais yn ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion yr unigolyn y mae'n pleidleisio ar ei ran. Dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori'r dirprwy i fynd â'r awdurdodiad hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio a'i roi i staff yn yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio er mwyn dangos bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio a dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.
Lle y bo'n bosibl, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir ei rhoi i'r orsaf bleidleisio berthnasol a'i hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.
Dylai pa ddull bynnag y cytunwyd arno i gyfleu ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon ar y diwrnod pleidleisio gael ei egluro yn y sesiwn hyfforddi i staff gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddi.
Gallech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gydweithio â'r swyddfa gofrestru etholiadol o ran ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng a ganiateir ar y diwrnod pleidleisio a'u hysbysu o'r gweithdrefnau i'w dilyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 a56(3A) a (3B) ↩ Back to content at footnote 1