Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio

Rhaid i chi lunio ac arddangos yr hysbysiad ‘Canllawiau i bleidleiswyr’ a'r hysbysiad ‘Cyfarwyddiadau i bleidleiswyr’. Mae cynnwys a gofynion arddangos yr hysbysiadau hyn wedi'u rhagnodi mewn deddfwriaeth.1  

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r hysbysiad ‘Canllawiau i bleidleiswyr’ gael ei argraffu mewn llythrennau amlwg a'i arddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio.2  Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r hysbysiad ‘Cyfarwyddiadau i bleidleiswyr’ gael ei arddangos ym mhob bwth pleidleisio.3  

Rhaid i chi hefyd arddangos hysbysiad mawr y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio sy'n cynnwys manylion y dogfennau y mae angen i'r pleidleisiwr eu cyflwyno wrth wneud cais am bapur pleidleisio:4

  • yn achos etholwr (ac eithrio person sydd wedi’i gofrestru’n ddienw) neu ddirprwy - y mathau o ID ffotograffig a dderbynnir fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth
  • yn achos etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw - cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr gyda dogfen etholwr dienw yn dangos yr un rhif etholiadol ag a ddangosir ar y cerdyn pleidleisio swyddogol

Dylid darparu datganiad hefyd ar yr hysbysiad y gall fod angen prawf adnabod pellach i ddatrys unrhyw anghysondeb rhwng enw'r pleidleisiwr ar y gofrestr etholiadol a'r enw ar yr ID ffotograffig a ddarparwyd.5

Defnyddio Cymraeg neu Saesneg mewn gorsafoedd pleidleisio

Pan fyddwch yn briffio staff gorsafoedd pleidleisio, dylech nodi'n glir mai dim ond Cymraeg neu Saesneg y dylid eu defnyddio wrth gynorthwyo neu gyfarwyddo etholwyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae hyn yn sicrhau tryloywder o ran y gweithrediadau, ac yn galluogi unrhyw arsylwyr neu asiantiaid pleidleisio sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio i fonitro'r broses bleidleisio. 

Efallai y bydd angen i rai pleidleiswyr gael cymorth mewn iaith arall oherwydd eu sgiliau iaith Cymraeg neu Saesneg cyfyngedig. Dylech ystyried pa gymorth y gallwch ei roi i'r pleidleiswyr hynny yn eich ardal, megis drwy gyfieithu'r hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio. 

Mewn rhai achosion eithriadol, efallai na fydd yr hysbysiadau wedi'u cyfieithu yn ddigonol nac yn briodol. Er enghraifft, gall fod gan bleidleisiwr lefelau isel o lythrennedd neu fod â chwestiwn sydd y tu allan i gwmpas yr hysbysiadau. O dan yr amgylchiadau hynny, gall staff gorsafoedd pleidleisio roi cymorth mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg os gallant wneud hynny. 

Lle darperir cymorth mewn iaith arall, dylai staff gorsafoedd pleidleisio egluro i staff eraill ac unrhyw asiantiaid pleidleisio neu arsylwyr sy'n bresennol pa gwestiwn a ofynnwyd a'r ateb a roddwyd.

Dylech atgoffa staff yr orsaf bleidleisio i gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (neu Swyddog Cofrestru Etholiadol os yw'n berthnasol) os oes ganddynt unrhyw ymholiadau gan etholwyr na allant ymdrin â hwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Hydref 2024