Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Cyfarpar a deunyddiau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Mae'n ofynnol i chi ddarparu cyfarpar a deunyddiau penodol i orsafoedd pleidleisio, a bydd angen i chi gynllunio hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer pleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio.
Crynodeb o'r eitemau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi ddarparu'r canlynol i orsafoedd pleidleisio:1
- blwch/blychau pleidleisio
- papurau pleidleisio (gan gynnwys papurau pleidleisio a gyflwynwyd)
- pennau ysgrifennu neu bensiliau i bleidleiswyr farcio eu
- papurau pleidleisio
- sgriniau pleidleisio
- y rhan berthnasol o'r gofrestr etholiadol
- rhestrau o bleidleiswyr absennol – pleidleiswyr drwy'r post, pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
- ffurflenni i gofnodi manylion etholwyr sydd wedi cael papurau pleidleisio ar ôl i wall clercol gael ei gywiro (y gellir eu hatodi i gofrestr yr orsaf bleidleisio)
- y rhestr rhifau cyfatebol
- cyfrifon papurau pleidleisio
- fersiwn print bras o'r papur pleidleisio, i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio
- copi llaw enghreifftiol wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio i'w roi i etholwyr i fynd gyda nhw i fwth pleidleisio er gwybodaeth
- dyfais bleidleisio at ddefnydd pobl ddall neu bobl rhannol ddall
- hysbysiadau canllawiau i bleidleiswyr (‘Sut i bleidleisio yn yr etholiadau hyn’) (i'w harddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio)
- hysbysiadau cyfarwyddiadau i bleidleiswyr (i'w harddangos y tu mewn i'r bwth pleidleisio)
- ffurflenni datganiad gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
- rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- datganiad o nifer y pleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion
- copïau o'r ffurflen dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post
- pecynnau, gyda seliau, i osod ynddynt yr eitemau a gaiff eu dychwelyd atoch, megis papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio, a deunydd pecynnu ar gyfer dogfennaeth yr etholiad ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio
- unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi penderfynu bod ei angen i'w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr anabl bleidleisio ee. bathodynnau ar gyfer adnabod staff gorsafoedd pleidleisio
At hynny dylech ddarparu'r canlynol:
- amlenni, gyda seliau, i osod ynddynt unrhyw bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd ond nad yw'r etholwr wedi'u gosod yn y blwch pleidleisio
- ffurflen neu restr i gofnodi etholwyr a farciwyd yn bleidleiswyr post ond sy'n honni nad ydynt wedi gwneud cais am bleidlais bost
- papur nodiadau at ddefnydd staff yr orsaf bleidleisio
- eitemau deunydd ysgrifennu fel sy'n ofynnol, e.e. clipiau papur, pinnau bawd, tac glynu, tâp selio
- sachau plastig ar gyfer dychwelyd deunydd ysgrifennu ac offer i'r lleoliad dilysu
- amlenni ar gyfer creu pecynnau
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn briodol i sicrhau bod staff, ymgeiswyr ac asiantiaid a benodir i fynychu'r orsaf yn cael y gofynion perthnasol canlynol ynglŷn â chyfrinachedd:
Rydym hefyd wedi cynhyrchu arolwg templed ar gyfer pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth bleidleisio, y gallech fod am ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw i Swyddogion Canlyniadau ar gymorth i bleidleisio i bleidleiswyr anabl ar Adolygu'r etholiad.
Dylech wirio bod holl offer yr orsaf bleidleisio yn addas at y diben a bod gennych ddigon o gyflenwad, yn enwedig os bydd nifer fawr yn pleidleisio. Dylai hyn gynnwys ystyried a ddylech gyflenwi blychau pleidleisio ychwanegol i Swyddogion Llywyddu oherwydd efallai na fydd un blwch yn ddigon os bydd nifer fawr yn pleidleisio.
Dylech baratoi offer a deunyddiau eich gorsaf bleidleisio mewn da bryd cyn y diwrnod pleidleisio, naill ai i'w dosbarthu i orsafoedd pleidleisio neu i'w casglu gan Swyddogion Llywyddu.
Dylech sicrhau bod unrhyw gyfarpar ychwanegol a nodwyd gennych i wneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch yn cael ei ddosbarthu a'i osod mewn da bryd ar gyfer agor y bleidlais. Mae ein canllawiau ar ddarparu offer sy’n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl yn darparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich proses gynllunio.
Lle mae dolen sain wedi'i gosod mewn gorsaf bleidleisio, dylid ei defnyddio lle bynnag y bo modd i gefnogi hygyrchedd y broses etholiadol i bleidleiswyr sydd wedi colli eu clyw. Dylid hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio ar sut i ddefnyddio'r rhain yn y sesiwn friffio.
- 1. Atodlen 1 Rheolau 25 a 29 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1