Dylai gorsafoedd pleidleisio gael eu trefnu gan gadw'r pleidleisiwr mewn cof. Yn benodol, dylech ystyried anghenion pleidleiswyr ag amrywiaeth o anableddau.
Dylech ystyried y ffordd y caiff yr holl ddodrefn a chyfarpar eu gosod, yn ogystal â ble y dylid arddangos yr hysbysiadau, a ble y dylid gosod arwyddion y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio.
Dylech ddatblygu cynlluniau ar gyfer diwyg pob un o'r gorsafoedd pleidleisio y gellir eu defnyddio i helpu'r rhai sy'n gosod y gorsafoedd pleidleisio. Dylech ystyried profiad a llif y pleidleisiwr, gan gynnwys sut y bydd y pleidleisiwr yn symud drwy'r broses bleidleisio o'r adeg y daw i mewn i'r orsaf bleidleisio i'r adeg y bydd yn ei gadael. Dylai cynllun yr orsaf bleidleisio alluogi'r pleidleisiwr i fwrw ei bleidlais yn gyfrinachol, a dylai hefyd ganiatáu i staff yr orsaf bleidleisio ganfod a yw rhywun yn ceisio dylanwadu neu gael gwybodaeth am y ffordd y mae etholwr yn pleidleisio.
Bydd angen i chi sicrhau bod pwy bynnag sy'n gyfrifol am drefnu gorsafoedd pleidleisio yn gwybod sut i wneud hynny a'r hyn y dylai'r diwyg allu ei gyflawni.
Os bydd rhywun heblaw staff yr orsaf bleidleisio yn trefnu'r orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio sicrhau ei bod wedi cael ei gosod yn gywir. Dylent gyfeirio at unrhyw gynlluniau diwyg a baratowyd gennych a'r rhestr wirio ar gyfer trefnu gorsaf bleidleisio yn llawlyfr y Comisiwn i orsafoedd pleidleisio wrth wneud hynny.
Mae'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio hefyd yn ymdrin â lleoli cyfarpar ac arddangos hysbysiadau, ac yn rhoi enghreifftiau o ddiwyg ar gyfer ystafell lle mae un orsaf bleidleisio ac ystafell lle mae mwy nag un orsaf bleidleisio.
Gellir defnyddio ymweliadau arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i gadarnhau diwyg gorsaf bleidleisio a sicrhau bod yr holl hysbysiadau yn parhau i gael eu harddangos yn gywir drwy'r diwrnod pleidleisio cyfan. Rydym wedi llunio rhestr wirio i gefnogi eu hymweliadau.