Fel rhan o unrhyw Adolygiad o Fan Pleidleisio, dylech werthuso addasrwydd y gorsafoedd pleidleisio sydd ar gael i'w defnyddio yn yr ardaloedd etholiadol priodol.
Mae'n hanfodol bod gorsafoedd pleidleisio yn sicrhau bod digon o le ar gael i bleidleisio.
Yn ddelfrydol, bydd gennych ddewis amrywiol o adeiladau hygyrch, mewn man cyfleus i etholwyr yn yr ardal, gyda pherchnogion yn fodlon iddynt gael eu llogi fel gorsafoedd pleidleisio am gost isel. Yn anffodus, yn ymarferol, nid felly y mae yn aml ac mewn rhai ardaloedd ni fydd llawer o ddewis ar gael.
Bydd angen i chi ystyried anghenion mynediad wrth gynllunio cynllun a threfn gorsafoedd cynllunio er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel. Dylai hyn gynnwys pleidleiswyr anabl a allai fod angen offer neu seddi ychwanegol. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y mathau o offer y gallai fod angen i chi eu hystyried yn ein canllawiau ar ddarparu offer yn yr orsaf bleidleisio.
Dylai maint gorsafoedd pleidleisio fod yn ddigon mawr i alluogi llif clir o bleidleiswyr i geisio lleihau'r risg o dagfeydd neu giwiau. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod ardal wedi'i nodi ar gyfer gwirio ID ffotograffig yn breifat, os gofynnir am hynny.
Dylech fod yn gallu dangos bod asesiadau wedi'u cynnal o'r gorsafoedd pleidleisio a gaiff eu defnyddio yn yr etholiad. Lle mae problemau mynediad yn bodoli, dylech ddogfennu'r problemau, nodi gwelliannau posibl a chofnodi unrhyw gamau gweithredu a gymerir i geisio datrys y problemau hyn.
Dylech sicrhau y caiff unrhyw gyfarpar ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn gwneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch ei ddosbarthu a'i osod cyn agor y bleidlais.
Mae'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i drefnu gorsafoedd pleidleisio er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr.