Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Deddfwriaeth berthnasol

Deddfwriaeth berthnasol

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol (fel y'i diwygiwyd), a dylid eu darllen yn unol â hi:

  • Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1983, 1985 a 2000
  • Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
  • Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
  • Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001
  • Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Yr Alban) 2005
  • Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006
  • Gorchymyn Etholaethau a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006
  • Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Lloegr) 2007
  • Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009
  • Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011
  • Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadau 2013
  • Deddf Etholiadau 2022
  • Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022
  • Rheoliadau Cynorth gyda Phleidleisio i Bobl ag Anableddau (Diwygiadau) 2022
  • Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r post a Phleidleisio drwy ddirprwy etc) (Diwygiad) 2023

Mae'r rhestr uchod ond yn cynnwys y ddeddfwriaeth sy'n darparu ar gyfer y meysydd y mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â hwy ac sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Mae gan Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) gyfrifoldeb personol dros sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau er mwyn eich helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, fel y maent yn ymwneud â'ch cyfrifoldebau gweinyddu etholiadau.

Mae'n ofynnol hefyd i chi ystyried y ddyletswydd cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus a geir yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gyflawni eich dyletswyddau.

Fel Swyddog Canlyniadau mae'n ofynnol i chi hefyd ystyried canllawiau'r Comisiwn ar hygyrchedd.

Mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) yng Nghymru hefyd ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau yng Nghymru gael eu darparu yn gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023