Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) - sgiliau a gwybodaeth
Dylech feddu ar wybodaeth ymarferol am y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n llywodraethu trefn cynnal yr etholiad. Felly, yn ogystal â dealltwriaeth glir o'ch swyddogaethau statudol, dylai fod gennych drosolwg o'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys a dealltwriaeth o'r ffordd mae'n effeithio ar y broses o weinyddu'r etholiad, fel eich bod yn gallu adolygu'r broses gyfan, ei chwestiynu lle bo angen a sicrhau ei hansawdd.
Mae cyfrifoldebau rheoli yn gysylltiedig â'ch rôl. Er enghraifft:
mynnu cael y staff a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal etholiad trefnus
sicrhau'r cymorth, y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol o bob rhan o'ch awdurdod lleol eich hun
goruchwylio'r broses o gynllunio, rheoli prosiect a rheoli risg yr etholiad ac ymgorffori unrhyw wersi a ddysgwyd o bleidleisiau blaenorol
nodi a goruchwylio unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn lliniaru unrhyw faterion sy'n codi
sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant priodol i gyflawni eu priod rolau
cefnogi'r staff sy'n gweinyddu'r etholiad a goruchwylio eu gwaith yn briodol
cyfarwyddo staff, monitro cynnydd a chael adborth rheolaidd ar weithgareddau
yn achos etholaethau trawsffiniol, ceisio cyngor a chymorth gan y Swyddog Canlyniadau a staff yn yr awdurdodau lleol eraill
os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, cynnal cydberthynas waith effeithiol â nhw
cynnal cydberthynas waith effeithiol â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu
sicrhau bod cyfrifon etholiadau yn cael eu cwblhau'n amserol