Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) - rôl a chyfrifoldebau
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn chwarae rhan ganolog yn y broses ddemocrataidd. Eich rôl chi yw sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol, yn unol â'r gyfraith, ac, o ganlyniad, bod profiad pleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad yn gadarnhaol.
Ar gam cynnar, dylech amlinellu'r hyn rydych am ei gyflawni a sut beth fyddai llwyddiant i chi. Rhaid i chi hefyd ystyried hygyrchedd i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae ein canllawiau ar gymorth gyda phleidleisio i bobl anabl yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), chi sy'n bersonol gyfrifol am gynnal etholiad Senedd y DU, gan gynnwys:
derbyn yr writ (lle nad yw'r Swyddog Canlyniadau wedi cadw'r ddyletswydd hon)
cyhoeddi'r hysbysiad etholiad
gweinyddu'r broses enwebu
argraffu papurau pleidleisio
cyhoeddi'r hysbysiad pleidleisio, datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, a hysbysiad lleoliad gorsafoedd pleidleisio
darparu gorsafoedd pleidleisio
penodi Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio
rheoli'r broses pleidleisio drwy’r post
dilysu a chyfrif y pleidleisiau
datgan y canlyniad (lle nad yw'r Swyddog Canlyniadau wedi cadw'r ddyletswydd hon)
Mae eich dyletswyddau fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhai ar wahân i'ch dyletswyddau fel swyddog llywodraeth leol. Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) nid ydych yn gyfrifol i'r awdurdod lleol ond rydych yn uniongyrchol atebol i'r llysoedd fel deiliad swydd statudol annibynnol.
Er y gallwch benodi un unigolyn neu fwy i gyflawni unrhyw un neu bob un o'ch swyddogaethau fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), ni allwch ddirprwyo'ch cyfrifoldeb personol am gynnal yr etholiad.1
Rhoddir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar benodi dirprwyon.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fo'r etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, er mwyn cyflawni eich swyddogaethau'n effeithiol, bydd angen meithrin cydberthynas waith agos rhyngoch chi a'r priod Swyddogion Canlyniadau a'u staff. Er mai chi sy'n gyfrifol am ddarparu gorsafoedd pleidleisio a staff gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiadau, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), dylech geisio cyngor a chymorth, fel sydd angen, gan Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol a'i staff ar gyfer yr ardal awdurdod lleol arall a fydd yn fwy cyfarwydd â'r ardal benodol honno.