Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Asiantiaid cyfrif

Gellir penodi asiantiaid cyfrif1 i arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif. Rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i asiantiaid cyfrif a benodwyd o'r amser a'r lleoliad lle y bydd y prosesau dilysu a chyfrif yn dechrau cael eu cynnal.2  

Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am benodiad asiantiaid cyfrif o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer y dilysu a'r cyfrif.3  

Dim ond un o'r asiantiaid cyfrif ar gyfer pob ymgeisydd y gellir ei ddynodi i ofyn am i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif ar ddiwedd y broses gyfrif neu unrhyw broses ailgyfrif4 Rhaid i ddynodiadau o'r fath gael eu gwneud ar yr adeg y cewch eich hysbysu am benodiad yr asiant cyfrif.5 Mae ffurflen hysbysiad o benodiad asiantiaid cyfrif y Comisiwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer nodi unrhyw ddynodiad o'r fath ar y ffurflen.

Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiantiaid cyfrif.
 

Cyfyngu ar nifer yr asiantiaid sy'n bresennol

Yn ôl y gyfraith, caniateir i chi gyfyngu ar nifer yr asiantiaid cyfrif a benodir.6 Rhaid i nifer yr asiantiaid cyfrif y caiff pob ymgeisydd eu penodi fod yr un peth ac, oni bai bod amgylchiadau arbennig, ni chaiff fod yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny sy'n cyfrif y papurau pleidleisio) â nifer yr ymgeiswyr. Wrth benderfynu ar uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif, dylai pob ymgeisydd, hyd y gellir, gael caniatâd i benodi digon o asiantiaid cyfrif fel y gellir craffu'n llawn ac yn briodol ar y prosesau dilysu a chyfrif. Fodd bynnag, dylech ystyried unrhyw oblygiadau o ran iechyd a diogelwch, gan gynnwys rheoliadau tân ar gyfer y lleoliad dilysu a chyfrif pleidleisiau, wrth benderfynu ar uchafswm yr asiantiaid cyfrif.

Wrth benderfynu ar uchafswm yr asiantiaid cyfrif, dylech hefyd gofio bod hawl gan asiantiaid cyfrif yr holl etholiadau sy'n cael eu dilysu fod yn bresennol yn ystod y rhan ddilysu o'r broses gyfrif.

I gael rhagor o fanylion am bwy all fod yn bresennol yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif, gweler Presenoldeb yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif

Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad

Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Dylai pob Asiant Pleidleisio gael y gofynion canlynol o ran cyfrinachedd ar gyfer yr etholiad.

Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol:

  • canfod neu geisio canfod y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio 
  • cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y cyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023