| Argraffu'r canllawiau llawn

Asiantiaid pleidleisio drwy'r post

Yn ôl y gyfraith, caniateir i asiantau pleidleisio drwy'r post arsylwi ar y broses o agor blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy'r post, agor pleidleisiau post a ddychwelwyd a chadarnhau llofnodion a dyddiadau geni a nodwyd ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.1  

Rhaid i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr o amser a lleoliad unrhyw sesiwn agor pleidleisiau post a nifer yr asiantiaid y gellir eu penodi i fod yn bresennol ym mhob sesiwn agor.2  

Rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig o enw a chyfeiriad unrhyw asiantiaid pleidleisio drwy'r post cyn dechrau unrhyw sesiwn benodol y mae'r asiantiaid yn dymuno bod yn bresennol ynddi.3 Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiantiaid pleidleisio drwy'r post.

Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad

Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post. 

Dylech hysbysu pob asiant pleidleisio drwy'r post am y gofynion canlynol o ran cyfrinachedd wrth agor pleidleisiau post. 

Dyma'r pwyntiau allweddol: 

  • ni ddylai neb sy'n mynychu achlysur agor amlenni geisio gweld sut y cafodd papurau pleidleisio unigol eu marcio. Felly, mae'n dilyn na chaniateir i bobl gadw cyfrif o faint o bapurau pleidleisio sydd wedi cael eu marcio
  • ni ddylai neb sy'n bresennol yn ystod sesiwn agor pleidleisiau post geisio edrych ar farciau neu rifau adnabod ar bapurau pleidleisio, datgelu sut mae papur pleidleisio penodol wedi cael ei farcio na throsglwyddo unrhyw wybodaeth o'r fath a geir yn ystod y sesiwn
  • gall unrhyw un a geir yn euog o dorri'r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu gall wynebu carchar am hyd at chwe mis
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023