| Argraffu'r canllawiau llawn

Asiantiaid pleidleisio

Yn ôl y gyfraith, mae gan asiantiaid pleidleisio1  yr hawl i gael mynediad i orsafoedd pleidleisio er mwyn canfod achosion o gambersonadu.2  Gallant hefyd arsylwi ar y gweithdrefnau i'w dilyn mewn gorsaf bleidleisio.

Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am unrhyw asiantiaid pleidleisio a benodwyd o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad. Mae'r Comisiwn wedi datblygu ffurflen ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiantiaid pleidleisio.3


Gall asiant pleidleisio gael ei benodi i orsaf bleidleisio neu orsafoedd pleidleisio penodol, neu bob gorsaf bleidleisio o fewn yr ardal bleidleisio. Gellir penodi'r un asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol mewn mwy nag un orsaf bleidleisio. 
 

Cyfyngu ar nifer yr asiantiaid sy'n bresennol

Caniateir i gyfanswm o bedwar asiant fod yn bresennol mewn unrhyw orsaf bleidleisio benodol, neu gallwch benderfynu caniatáu i fwy o asiantiaid fod yn bresennol.4 Mae'r terfyn yn gymwys i bob gorsaf bleidleisio unigol, hyd yn oed os oes mwy nag un orsaf bleidleisio yn yr un adeilad neu ystafell.

Os byddwch yn penderfynu caniatáu i fwy na phedwar asiant pleidleisio fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i chi roi hysbysiad o'r ffigur uwch hwnnw.5  Dylid cyhoeddi'r hysbysiad hwn ar eich gwefan a rhoi copi ohono i'r ymgeiswyr a'u hasiantiaid etholiad. Dylid rhoi copi o'r hysbysiad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd. Gallwch benderfynu pennu uchafsymiau gwahanol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio gwahanol ac, os felly, dylech nodi hynny'n glir ar yr hysbysiad a gyhoeddir gennych. 

Os bydd yr holl ymgeiswyr gyda'i gilydd yn penodi mwy nag uchafswm yr asiantiaid pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn unrhyw orsaf bleidleisio, rhaid i chi benderfynu pa asiantiaid pleidleisio a gaiff fod yn bresennol drwy eu dewis ar hap ar gyfer pob gorsaf bleidleisio. Ni chaiff y rhai na chânt eu dewis ar hap eu penodi yn asiantiaid pleidleisio ar gyfer yr orsaf bleidleisio honno.

Dim ond un asiant pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw adeg.

Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad

Mae gan unrhyw un sy'n mynychu gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Dylai pob Asiant Pleidleisio gael y gofynion canlynol o ran cyfrinachedd ar gyfer cynnal y bleidlais.

Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:

  • enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio 
  • y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio 

Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n mynychu gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto. 

Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd. Gall unrhyw un a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy anghyfyngedig, neu ddedfryd o garchar am hyd at chwe mis. 

Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw.

Er y gall asiant pleidleisio arsylwi ar y bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Ebrill 2024