Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Paratoi'r deunydd swyddfa ar gyfer pleidleisio drwy'r post

Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, byddwch wedi penderfynu a gaiff y broses o gynhyrchu deunydd swyddfa ar gyfer pleidleisio drwy'r post ac anfon pleidleisiau post ei chynnal yn fewnol neu ar gontract allanol. 

Ceir rhagor o ganllawiau i gefnogi eich proses benderfynu o ran gosod gwaith ar gontract allanol yn ein canllawiau ar reoli contractwyr a chyflenwyr.

Cynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post

Rhaid i chi anfon pecyn pleidleisio drwy'r post at bob pleidleisiwr post cymwys.1  Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post gynnwys:2  

 

Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu

Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.

Yn yr ardaloedd hyn rhaid i'r datganiad ar bapurau pleidleisio drwy'r post adlewyrchu hyn.

ail hanner

Yn ogystal, mae'n rhaid i chi anfon gwybodaeth gyfarwyddol gan sicrhau bod y rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post yn gallu cael y canlynol:3  

  • cyfieithiadau o unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda'r papur pleidleisio, i ieithoedd eraill
  • cyfieithiad o'r cyfarwyddiadau neu'r canllawiau i Braille
  • cynrychioliad graffigol o'r cyfarwyddiadau neu'r canllawiau
  • y cyfarwyddiadau neu'r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (yn cynnwys sain)
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2024