Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Papur pleidleisio drwy'r post, datganiad pleidleisio drwy'r post a chyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Papur pleidleisio drwy'r post
Pennir ffurf y papur pleidleisio mewn deddfwriaeth ac mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus.1 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar argraffu papurau pleidleisio.
Datganiad pleidleisio drwy'r post
Nodir y datganiad pleidleisio drwy'r post yn y ddeddfwriaeth a rhaid ei lunio ar y ffurf a bennir.2 Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post gynnwys y canlynol:
enw'r pleidleisiwr (oni bai ei fod yn etholwr dienw)
rhif y papur pleidleisio a anfonir gyda'r datganiad3
marc adnabod unigryw, a allai fod yn god bar4 ond a allai hefyd fod ar ffurf arall – nid oes rhaid i'r marc hwn fod yn gysylltiedig â'r marc adnabod unigryw ar y papur pleidleisio
y cyfarwyddiadau rhagnodedig ar gyfer y pleidleisiwr ar sut i bleidleisio drwy'r post5
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].
ail ran y cynnwys
Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post hefyd gynnwys cod bar.
Rhaid i chi lunio mathau gwahanol o ddatganiad pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr dienw a'r rhai sydd wedi cael eu hepgor.6 Ni ddylai datganiad pleidleisio drwy'r post etholwyr dienw ddangos enw'r etholwr.7
Lle mae etholwr wedi cael ei hepgor gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddileu'r blwch ar gyfer llofnod ac unrhyw gyfeiriad at lofnodi'r ffurflen yn y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr.8
Dylech hefyd ddylunio a phrofi'r datganiadau pleidleisio drwy'r post er mwyn sicrhau bod y blychau ar gyfer llofnod a dyddiad geni yn y man cywir ac yn y fformat cywir i'w prosesu gan eich system cadarnhau dynodyddion personol pan gânt eu dychwelyd.
Cyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Yn ogystal â chynnwys penodedig y pecyn pleidleisio drwy'r post a nodir uchod, dylech ddarparu cyfarwyddiadau ychwanegol, mwy penodol – er enghraifft, cyfarwyddiadau graffigol i bleidleiswyr i'w helpu i gwblhau'r datganiad a'r papur pleidleisio a dychwelyd deunydd eu pleidlais bost yn yr amlenni cywir, a gwybodaeth am y broses trin pleidleisiau post.
Dylech gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu i bleidleiswyr post am sut i gael cyfarwyddiadau mewn fformat amgen e.e. ieithoedd eraill, braille, a sain.
Fel rhan o'r cyfarwyddiadau hyn, dylech hefyd gynnwys gwybodaeth yn egluro bod eu pleidlais yn gyfrinachol ac y byddai unrhyw un sy'n ymyrryd â'r pleidleisiwr neu'n ceisio cael gwybodaeth am bwy y maent yn pleidleisio drostynt yn cyflawni trosedd, yn ogystal â gwybodaeth am sut i roi gwybod am unrhyw bryderon neu achosion o dwyll etholiadol a amheuir.
- 1. Para 19(1) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) Mae fersiwn diweddaraf y papur pleidleisio i'w weld yng Ngorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Ffurflenni Cymraeg (Diwygio) 2022 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 30(2) Atodlen 2 PCCEO 2012. Mae fersiwn diweddaraf y datganiad pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i'w weld yn Atodlen 6, Rhan 1, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Trin Pleidleisiau Post a Chyfrinachedd) (Diwygio) 2023. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraffau 20(1) a (2), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 60 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 60 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 60 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 60 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 60 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 8