Rhaid i'r amlen a ddefnyddir i anfon y deunydd gael ei chyfeirio at yr etholwr yn y cyfeiriad y mae wedi gofyn i'w bapur pleidleisio gael ei anfon iddo ac a nodir yn y rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post.1
Er mwyn diogelu cyfrinachedd y bleidlais, rhaid i chi ddarparu dwy amlen wahanol ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post:2
Amlen ‘A’ – hon yw'r amlen a ddefnyddir i ddychwelyd y papur pleidleisio, gydag ‘A’, y geiriau ‘amlen papur pleidleisio’ a rhif y papur pleidleisio arni.
Amlen ‘B’ – hon yw'r amlen a ddefnyddir i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Dylid nodi'r llythyren ‘B’ a'ch cyfeiriad arni.
Dylech argraffu enw eich etholaeth ar bob amlen ‘A’ a ‘B’. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer yr achosion lle na ellir dosbarthu pleidleisiau post os, er enghraifft, bydd pleidleisiwr yn dychwelyd amlen ‘A’ â'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post ynddi, heb ei rhoi yn amlen ‘B’.
Dylech hefyd ystyried cynnwys lliw'r papur pleidleisio ar amlenni pecynnau pleidleisio drwy'r post hyd yn oed pan fyddwch yn cynnal pleidlais unigol, rhag ofn bydd unrhyw bleidlais gyfun hwyr.
Amlenni ar gyfer etholwyr dienw
Pan fyddwch yn cyfathrebu ag etholwr dienw, mae'n ofynnol i chi anfon gohebiaeth mewn amlen neu fath arall o orchudd mewn ffordd nad yw'n datgelu i unrhyw berson arall fod y pleidleisiwr yn ddienw.
Felly, dylech anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw mewn amlen blaen.3
Dylai'r amlen gynnwys eu henw a'u cyfeiriad gohebiaeth, ond ni ddylai gynnwys eu rhif etholwr na gwneud unrhyw gyfeiriad at yr etholiad na'r gofrestr etholiadol.
Costau postio
Oni fyddwch yn dosbarthu pleidleisiau post yn bersonol, mae'n ofynnol i chi ddefnyddio amlen ragdaledig a gyfeirir at y pleidleisiwr post. Mae hefyd yn ofynnol i chi ddarparu amlenni dychwelyd rhagdaledig, oni fydd angen anfon pleidleisiau post i gyfeiriad y tu allan i'r DU.4
Fodd bynnag, dylech siarad â'r Post Brenhinol a'ch argraffydd er mwyn gweld beth y gellir ei wneud i hwyluso'r broses o ddychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd yn brydlon o'r tu allan i'r DU, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys amlen ragdaledig briodol ar gyfer eitemau a ddychwelir o dramor.
Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio amlen â dyluniad gwahanol ar gyfer pleidleisiau post a anfonir i gyfeiriad y tu allan i'r DU. Er enghraifft, gallech ychwanegu fflach lliw gwahanol. Gallai hyn helpu i ddidoli, nodi a blaenoriaethu pleidleisiau post tramor yn fwy effeithlon.
1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 72(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 72(7)↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 74, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 74↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 72(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 72(8)↩ Back to content at footnote 3
4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 76, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 76↩ Back to content at footnote 4