Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Papur pleidleisio drwy'r post, datganiad pleidleisio drwy'r post a chyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr

Papur pleidleisio drwy'r post

Pennir ffurf y papur pleidleisio mewn deddfwriaeth ac mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus.1  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar argraffu papurau pleidleisio

Datganiad pleidleisio drwy'r post  

Nodir y datganiad pleidleisio drwy'r post yn y ddeddfwriaeth a rhaid ei lunio ar y ffurf a bennir.2  Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post gynnwys y canlynol: 

  • enw'r pleidleisiwr (oni bai ei fod yn etholwr dienw) 
  • rhif y papur pleidleisio a anfonir gyda'r datganiad 
  • marc adnabod unigryw, a allai fod yn god bar ond a allai hefyd fod ar ffurf arall – nid oes rhaid i'r marc hwn fod yn gysylltiedig â'r marc adnabod unigryw ar y papur pleidleisio; gall fod yr un peth ond yn yr un modd, gallai fod yn wahanol neu'n gysylltiedig 
  • y cyfarwyddiadau rhagnodedig i’r pleidleisiwr ar sut i bleidleisio drwy'r post

Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post hefyd gynnwys cod bar.

Rhaid i chi lunio mathau gwahanol o ddatganiad pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr dienw a'r rhai sydd wedi cael eu hepgor. Ni ddylai datganiad pleidleisio drwy'r post etholwyr dienw ddangos enw'r etholwr. 

Lle mae etholwr wedi cael ei hepgor gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddileu'r blwch ar gyfer llofnod ac unrhyw gyfeiriad at lofnodi'r ffurflen yn y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr.

Dylech hefyd ddylunio a phrofi'r datganiadau pleidleisio drwy'r post er mwyn sicrhau bod y blychau ar gyfer llofnod a dyddiad geni yn y man cywir ac yn y fformat cywir i'w prosesu gan eich system cadarnhau dynodyddion personol pan gânt eu dychwelyd.
 

Cyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr

Yn ogystal â chynnwys penodedig y pecyn pleidleisio drwy'r post a nodir uchod, dylech ddarparu cyfarwyddiadau ychwanegol, mwy penodol – er enghraifft, cyfarwyddiadau graffigol i bleidleiswyr i'w helpu i gwblhau'r datganiad a'r papur pleidleisio a dychwelyd deunydd eu pleidlais bost yn yr amlenni cywir, a gwybodaeth am y broses cyflwyno pleidleisiau papur.
 
Dylech gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu i bleidleiswyr post am sut i gael cyfarwyddiadau mewn fformat amgen e.e. ieithoedd eraill, braille, a sain.
 
Fel rhan o'r cyfarwyddiadau hyn, dylech hefyd gynnwys gwybodaeth yn egluro natur bersonol y bleidlais, gan nodi ei bod yn gyfrinachol ac y byddai unrhyw un sy'n ymyrryd â'r pleidleisiwr sy'n nodi ei bleidlais neu sy'n ceisio cael gwybodaeth am bwy yr oeddent yn pleidleisio drostynt, yn cyflawni trosedd, yn ogystal â gwybodaeth am sut i roi gwybod am unrhyw bryderon neu achosion o dwyll etholiadol a amheuir. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Hydref 2024