Chi sy'n gyfrifol am argraffu'r papurau pleidleisio ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer eich ardal bleidleisio, oni fydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn eich hysbysu y bydd yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn.1
Dylech gydgysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ynghylch paratoi papurau pleidleisio'r etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gam cynnar.
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn rhaid i bapurau pleidleisio gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].
ail hanner y cynnwys
Yn unol â'r gyfraith, rhaid i bapurau pleidleisio ar gyfer pleidleiswyr post ac at ddefnydd gorsafoedd pleidleisio fod yr un dyluniad a maint, ond gall y marc swyddogol fod yn wahanol os dymunir.2
Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'ch cyflenwr argraffu ar gam cynnar i gadarnhau maint mwyaf y papur pleidleisio y gall ei argraffu, a sicrhau, os oes angen, fod ganddo drefniadau wrth gefn os bydd angen papur pleidleisio mwy o faint.
Er nad oes modd cadarnhau cynnwys terfynol y papurau pleidleisio nes bod y broses enwebu wedi cau, bydd angen i chi gadarnhau elfennau canlynol y papurau pleidleisio gyda'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gam cynnar:
fformat rhifau'r papurau pleidleisio
ffurf cefn y papur pleidleisio
y marc adnabod unigryw
dyluniad y ‘marc swyddogol’
pa liw fydd y papur pleidleisio
1. Rheoliad 3(4), Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012↩ Back to content at footnote 1