| Argraffu'r canllawiau llawn

Derbyn a rheoli papurau pleidleisio a deunyddiau etholiad yn y lleoliad dilysu

Dylai fod gennych dîm o staff hyfforddedig sy'n gyfrifol am gofnodi eu bod wedi derbyn yr holl flychau pleidleisio, y pleidleisiau post a'r deunyddiau eraill a ddosbarthwyd o orsafoedd pleidleisio a phleidleisiau post a ddosbarthwyd i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor. 

Dylech drefnu'r pecynnau a'r parseli o orsafoedd pleidleisio fel y gallwch ddod o hyd i unrhyw becyn yn hawdd. 

Mae angen gwahanu’r sachau sy’n cynnwys y dogfennau y mae angen eu storio, gan gynnwys rhestrau rhifau cyfatebol wedi’u selio, pecynnau wedi eu selio o bleidleisiau post a wrthodwyd a phecynnau o ffurflenni dychwelyd pleidleisiau post sy’n cyd-fynd â nhw, oddi wrth y rhai sy’n cynnwys eitemau a gaiff eu hailddefnyddio, megis deunyddiau ysgrifennu cyffredinol.

Yna gallwch ryddhau'r deunyddiau amrywiol a dderbyniwyd yn ôl gan orsafoedd pleidleisio i'r staff derbyn yn y timau perthnasol, er mwyn gallu dechrau'r broses o ddilysu'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio ac agor pleidleisiau post a dderbyniwyd. Gellir cynnal y prosesau hyn ar yr un pryd â'r broses i ddilysu pleidleisiau wedi'u defnyddio. 

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r cam gweithredu y dylech ei gymryd ar gyfer pob math o becyn wedi'i selio a dderbynnir:

Pecynnau wedi'u selio a dderbynnirCam i'w gymryd
Cyfrifon papurau pleidleisio
Papurau pleidleisio a ddifethwyd a phapurau pleidleisio heb eu defnyddio
  • Dylech agor, cyfrif ac ailselio pob pecyn1
  • Rhowch y nifer a gyfrifwyd i'r staff dilysu
Papurau pleidleisio a gyflwynwyd a rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd 
  • Peidiwch ag agor pecynnau papurau pleidleisio a gyflwynwyd sydd wedi'u selio2  
  • Agorwch ac ailseliwch y pecyn sy'n cynnwys y rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd a'i gwirio yn erbyn y cyfrifon papurau pleidleisio3
  • Rhestr rhifau cyfatebol
  • Tystysgrif cyflogaeth
  • Rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd
  • Copïau wedi'u marcio o'r gofrestr
  • Rhestr dirprwyon
  • Pleidleisiau post a wrthodwyd a'r pecynnau o ffurflenni pleidleisiau post sy'n cyd-fynd â nhw
  • Peidiwch ag agor y pecynnau hyn4
  • Cadwch nhw dan sêl a'u rhoi mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
Pleidleisiau post a dderbyniwyd a roddir i staff yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau Lleol.
  • Bydd angen i chi ymgymryd â'r sesiwn agor amlenni pleidleisiau post olaf ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn swyddfeydd y cyngor
  • Gallwch wneud hyn naill ai yn y lleoliad dilysu neu mewn safle arall. Y naill ffordd neu'r llall, rhaid bod gennych ddull o gofnodi nifer y pleidleisiau post a dderbyniwyd


Yn unol â'ch polisi cadw dogfennu, dylech sicrhau'r canlynol:

  • bod y deunyddiau y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl wedi'u gosod mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
  • bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2026