Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cwblhau'r broses ddilysu

Dim ond ar ôl i'r papurau pleidleisio drwy'r post, gan gynnwys y rhai a dderbyniwyd mewn gorsafoedd pleidleisio, gael eu hagor a'u prosesu, y gellir cwblhau'r broses ddilysu.

Datganiad dilysu

Rhaid i chi sicrhau bod y datganiad dilysu sy'n cynnwys canlyniad y broses o ddilysu pob blwch pleidleisio wedi'i gwblhau. 

Ym mhob achos, rhaid i'r datganiad gynnwys cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a ddilyswyd ar gyfer y bleidlais. Dylech lofnodi'r datganiad.

Caiff unrhyw asiant wneud copi o'r datganiad am ganlyniad y broses ddilysu  ac, er mwyn ennyn hyder yn y ffigurau, dylech sicrhau bod copïau ar gael i'r asiantiaid sy'n bresennol ar ôl i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.  

Rhaid i chi anfon copi o'r datganiad at y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu. Bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn rhoi arweiniad i chi ynghylch sut y dylid gwneud hyn.

Ar ôl cwblhau'r broses ddilysu, os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau ar unwaith, dylech roi'r papurau pleidleisio a dogfennau eraill mewn pecynnau diogel a rhoi eich sêl eich hun arnynt, yn ogystal â sêl unrhyw asiantiaid sy'n bresennol sy'n dymuno atodi eu seliau eu hunain. 

Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio a'r deunydd perthnasol yn ystod unrhyw doriad yn y gweithrediadau dilysu a chyfrif. 

Mae rhagor o wybodaeth ar sicrhau diogelwch y blychau pleidleisio ar gael yn ein canllawiau. 

Os bydd y broses gyfrif ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn digwydd mewn lleoliad gwahanol i'r broses ddilysu, mae ein canllawiau ar gludo'r blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn ddiogel yn nodi sut y gallwch reoli'r broses hon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023